Dr Tom Fairchild

Dr Tom Fairchild

Swyddog Ymchwil
Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 987795

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
024
Llawr Gwaelod
Adeilad Margam
Campws Singleton

Trosolwg

Fe wnes i raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Meistr mewn Eigioneg yn 2011, ac ennill gradd MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr ym Mangor yn 2012. Roeddwn yn canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng yr amgylcheddau ffisegol a biolegol, gan archwilio’r defnydd o brocsi ffisegol i ragweld achosion o rywogaethau ym Mae Aberteifi ar gyfer fy ngradd Meistr mewn Eigioneg, ac ar gyfer fy MSc roeddwn yn archwilio effeithiau trefniadau rhyddhau hydrodrydanol ar infertebratau afonydd a phoblogaethau salmonid yn Ynys Manaw.

Yn ystod fy MSc, fe wnes i waith i Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt) ar brosiect dileu chwistrellau môr ymledol (Didemnum vexillum) proffil uchel ym Marina Caergybi ac yn ystod y cyfnod rhwng fy MSc a’m Doethuriaeth roeddwn i'n gweithio i Lywodraeth Cymru fel swyddog Gwyddoniaeth Pysgodfeydd.

Fodd bynnag, mae gennyf ddiddordeb mawr erioed mewn macro-algâu a micro-algâu, ac rydw i wedi cael y cyfle i ddatblygu fy mrwdfrydedd yn y maes drwy wneud Doethuriaeth yma ym Mhrifysgol Abertawe ar y cysylltiadau rhwng swyddogaethau bioamrywiaeth-ecosystemau, dan arweiniad Dr. John Griffin a Dr. Mike Fowler. Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y ffordd y mae cymunedau algâu rhynglanwol yn cael eu ffurfio yn y rhynglanw, a’r ffordd y mae agweddau gwahanol ar raddfa ofodol yn effeithio ar y berthynas rhwng amrywiaeth a chyfansoddiad y cymunedau hyn a’r swyddogaethau ecosystem y maen nhw’n eu cyflawni. Mae gennyf ddiddordeb brwd hefyd mewn defnyddio technoleg newydd ar gyfer problemau, ac rydw i wedi datblygu dulliau i feintoli maint, siâp 3D a garwedd pyllau glan môr, sy’n gallu fy helpu i ddeall gwasgariad macro-algâu yn y pyllau, gan ddefnyddio techneg ffotograffig o’r enw ffotogrametreg.

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg Arfordirol
  • Ecoleg Swyddogaethol
  • Gwymoneg
  • Swyddogaeth a gwasanaethau Ecosystem