Tania Wiseman

Dr Tania Wiseman

Athro Cysylltiol Therapi Galwedigaethol
Therapies

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
309
Trydydd Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae gan Dr Tania Wiseman 23 mlynedd o brofiad fel addysgwr therapi galwedigaethol.  Mae hi'n ymgymryd yn ddwys â datblygiad dysgu, gan ofyn cwestiynau sy'n annog cwestiynu. A hithau bob amser yn heriol, bob amser â hiwmor, mae diddordeb gwirioneddol ganddi yn y ffordd y mae dealltwriaeth yn datblygu. Mae hi'n angerddol am asesiadau sy'n addysgu yn hytrach nag yn profi, ac felly mae'n hynod o lwcus i addysgu'n bennaf ar gwrs a ategir gan theori dysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gyda thiwtorialau grŵp-bach rhyngweithiol o safon wrth wraidd yr addysgu, gan roi sylw i broblemau'r byd go iawn gyda'n gilydd, a dysgu fel rhan o dîm. 

Mae hi hefyd yn defnyddio dulliau dysgu cyfunol i gefnogi amser 'yn yr ystafell', mewn sesiynau tiwtorial, ac wrth gefnogi sesiynau tiwtorial e.e. fideos 'You-Tube' er mwyn hwyluso trafodaethau, rhannu gwybodaeth ddamcaniaethol drwy sesiynau arbenigol pynciau a chyflwyniadau wedi'u recordio a llywio darllen gyda rhestrau darllen digidol.  Mae adnoddau dysgu digidol wedi'u datblygu i ysgogi ymgysylltu emosiynol â dysgu, gyda chyfres efelychu newydd i ychwanegu creadigrwydd.  Mae hi'n credu bod tosturi a chariad at ddysgu yn hanfodol er mwyn cael gyrfa werth chweil, a'i nod yw creu gofod i'r priodoleddau hyn ddatblygu yn y dysgwyr y mae hi'n eu cefnogi.

Meysydd Arbenigedd

  • Hamdden yn ddiweddarach mewn bywyd
  • Safbwyntiau beirniadol ar heneiddio egnïol
  • Therapi galwedigaethol
  • Cwricwla therapi galwedigaethol
  • Ymchwil naratif
  • Therapi sy’n seiliedig ar natur

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Hamdden yn ddiweddarach mewn bywyd 

Safbwyntiau beirniadol ar heneiddio egnïol 

Therapi galwedigaethol 

Proffesiynoldeb therapi galwedigaethol 

Ymchwil naratif 

Therapi sy’n seiliedig ar natur 

Ymchwil