Dr Tom Dunlop

Arbenigwr Technegol, Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

A201
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Dr Tom Dunlop EngD, BEng MIMMM yn meddu ar BEng (anrhydedd, dosbarth 1af) mewn Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg ac EngD mewn Peirianneg Deunyddiau a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau thermodrydanol a deunyddiau gweithredol eraill ar gyfer Asiantaeth Ofod Ewrop. Ers hynny mae ef wedi treulio 6 blynedd fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn gweithio ym maes nodweddu'r 3edd genhedlaeth o ddyfeisiau ffotofoltäig yng nghanolfan ymchwil SPECIFIC, lle datblygodd arferion nodweddu newydd ar gyfer gwella perfformiad dyfeisiau ffotofoltäig argraffedig.

Mae Tom yn arbenigo mewn profi a nodweddu deunyddiau ac mae ei rôl bresennol yn cynnwys darparu cymorth i bartneriaid academaidd a diwydiannol ar ystod eang o dechnegau gan gynnwys XRD, XPS, SEM, microsgopeg optegol a phrofion ar y safle. Yn ogystal â hyn, mae'n darparu addysgu a hyfforddiant ar dechnegau ar bob lefel. Hyd yn hyn, mae wedi bod yn rhan o waith cyhoeddi nifer o bapurau sy'n ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys deunyddiau solar, trin dŵr mwyngloddiau, amddiffyn rhag cyrydiad, deunyddiau batris uwch, celloedd tanwydd hydrogen a biosynwyryddion.

Meysydd Arbenigedd

  • Nodweddu Deunyddiau
  • Diffreithiant pelydr X (XRD)
  • Microsgopeg Electron Sganio (SEM)
  • Sbectrosgopeg ffotoelectron pelydr-X (XPS)
  • Sbectrosgopeg gwasgaru tonfedd (WDS)
  • Deunyddiau Gweithredol Uwch
  • DeunyddiauThermodrydanol
  • Deunyddiau Ffotofoltäig