Trosolwg
Mae gan Dr Wilkinson brofiad helaeth ym maes rhyngweithiadau rhwng organebau lletyol a phathogenau, gan ddefnyddio modelu in vitro mewn celloedd epithelaidd, modelau gwaed cyfan ac anifeiliaid. Mae Dr Wilkinson yn gweithio i adnabod marcwyr defnyddiol a fydd yn helpu i ragfynegi ffactorau risg mewn perthynas â datblygu heintiau difrifol mewn pobl ac anifeiliaid. Mae ganddo dros 40 o gyhoeddiadau ym maes organebau lletyol a phathogenau, yn amrywio o fodelu ar sail meithriniad celloedd in vitro a modelau arbrofol in vivo i fodelu gwaed cyfan ex vivo. Mae wedi sicrhau cyllid grant cystadleuol gwerth dros £2 filiwn. Mae'n Athro Cysylltiol ac mae'n arwain y grŵp Microbioleg a Chlefydau Heintus ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn symud i Abertawe (2008). bu'n Ymchwilydd Ôl-ddoethurol yng Nghaeredin (2004-2008) yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Meddygol ar gyfer Ymchwil Llid ac yn Seattle yn Sefydliad Hope Heart (2001-2004) lle bu'n gweithio ar effeithiau llidus y
matrics allgellog. Enillodd Dr Wilkinson BSc mewn Ffarmacoleg gan Brifysgol Caerfaddon (1997), a PhD gan Brifysgol Cymru (2001).