Paratoi Lleoliadau EG-233: Blwyddyn Ddiwydiannol Peirianneg
Mae'r modiwl trawsddisgyblaethol generig hwn ar gyfer pob myfyriwr sydd wedi cofrestru (neu drosglwyddo) i'r cynllun Blwyddyn Peirianneg mewn Diwydiant. Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar yr hanfodion gofynnol sydd eu hangen i ennill lle mewn lleoliad diwydiannol, ymuno â’r maes a chamu ymlaen yn effeithiol. Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i a) dod o hyd i leoliadau, ysgrifennu CV a thechnegau ymgeisio; (b) technegau cyfweld - sut i gyflwyno eich hun a bod yn llwyddiannus; (c) hanfodion y gweithle ac ymwybyddiaeth, ymddygiadau a disgwyliadau o Eiddo Deallusol ; (ch) sgiliau cyflogadwyedd allweddol; cael y gorau o'ch Lleoliad Diwydiannol; a (d) iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Blwyddyn Lleoliad Diwydiannol EG-E01 (Peirianneg)
Mae'r flwyddyn lleoliad diwydiannol (y cyfeirir ati'n aml fel y Flwyddyn mewn Diwydiant) yn digwydd ar ôl Blwyddyn 2 ar gyfer myfyrwyr BEng ac ar ôl Blwyddyn 2 neu Flwyddyn 3 ar gyfer myfyrwyr MEng. Gall myfyrwyr gofrestru ar raglenni gyda blwyddyn lleoliad diwydiannol ar ddechrau eu hastudiaethau, yn amodol ar gymwysterau mynediad uwch priodol, neu gallant drosglwyddo i raglen o'r fath ar ddechrau Blwyddyn 2 (ar gyfer myfyrwyr BEng) neu ar ddechrau Blwyddyn 2/Blwyddyn 3 (ar gyfer myfyrwyr MEng). Mae paratoi ar gyfer Blwyddyn mewn Diwydiant yn dechrau ym Mlwyddyn 1, gyda darlith ragarweiniol a gweithdy CV ar ddiwedd TB2. Bydd CVs yn cael eu cyflwyno a'u harchwilio ym Mlwyddyn 1. Ym Mlwyddyn 2 mae'n ofynnol i fyfyrwyr fynychu darlithoedd paratoadol, sy'n ymdrin â phynciau amrywiol, megis ceisiadau am swyddi, technegau cyfweld, cyfweliadau dros y ffôn, ac ati. Sylwer bod y darlithoedd hyn yn cael eu cyflwyno ym Mlwyddyn 2 yn EG-233. Caniateir i fyfyrwyr MEng gymryd eu blwyddyn ryngosodol ar ôl Blwyddyn 2 neu Flwyddyn 3; fodd bynnag, dim ond ym Mlwyddyn 2 y mae'r sesiynau paratoi yn cael eu cynnal, a'r rheswm am hyn yw materion amserlennu. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gwneud cais a dod o hyd i leoliad. Os bydd yn llwyddo i gael lleoliad, bydd myfyriwr yn cwblhau o leiaf 40 wythnos mewn lleoliad â thâl mewn cwmnïau ledled y DU ac, mewn rhai achosion, dramor. Nod y modiwl yw dogfennu datblygiad proffesiynol y myfyriwr yn unol â chanllawiau'r Cyngor Peirianneg UK-SPEC. Disgrifir y dull asesu yn yr adran berthnasol.
Datblygu Arweinyddiaeth EG-M47 (Peirianneg)
Dangos y cysyniadau/nodweddion y tu ôl i Arweinyddiaeth a "Meddwl Entrepreneuraidd" a gwella "sgiliau allweddol" yn fras sy'n hanfodol ar gyfer cyflogadwyedd a dechrau busnes; codi ymwybyddiaeth o'r sgiliau, y dulliau a'r offer a fydd yn datblygu "peiriannydd byd-eang", sy'n gallu gweithredu fel ymarferydd "cyfannol" o fewn timau amlddisgyblaethol mewn unrhyw amgylchedd. Mae pynciau fel arweinyddiaeth, ffurfio tîm, entrepreneuriaeth a chysyniadau busnes fel newid, a rheolaeth strategol yn cael eu cynnwys yn y modiwl penodol.
EG-M39 – MSc Profiad Diwydiannol (Peirianneg)
Mae'r modiwl hwn yn darparu profiad diwydiannol o fewn cyd-destun Peirianneg yn y DU. Bydd y profiad yn dod drwy gyfrwng lleoliad diwydiannol 32 wythnos, a bydd o leiaf ran ohono'n cael ei dreulio o fewn y Brifysgol ar brosiect ymchwil a datblygu cydweithredol a gynhelir gyda chydweithrediad diwydiannol sylweddol. Gellir treulio rhywfaint o'r lleoliad mewn rôl ddiwydiannol â thâl mewn rhai achosion. Bydd y modiwl yn cael ei asesu ar sail pasio / methu yn erbyn meini prawf sy'n cyfateb i rai o ofynion y Cyngor Peirianneg ar gyfer cydnabod peirianneg broffesiynol yn y DU.