Dr Vasiliki Kravvariti

Dr Vasiliki Kravvariti

Uwch Ddarlithydd mewn Pyscholeg Fforensig
Psychology
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Vasiliki Kravvariti yn Uwch-ddarlithydd mewn seicoleg fforensig. Ymunodd â Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2024. Cyn hynny, roedd ganddi swyddi ym Mhrifysgol De Montford, Prifysgol Coventry, Prifysgol Chichester, lle hi oedd cyfarwyddwr y cwrs ar gyfer y BSc mewn Troseddeg a Seicoleg Fforensig, Prifysgol Nottingham Trent, Prifysgol Derby a Phrifysgol Nottingham lle mae hi'n parhau i gyflwyno 2-3 darlith wadd y flwyddyn fel siaradwr gwadd, ar sawl pwnc ar gyfer yr MSc mewn Seicoleg Fforensig a Throseddegol.

Yn ystod y 3 blynedd diwethaf, mae hi wedi cynorthwyo mewn adroddiadau seicolegol sy'n cael eu cyflwyno i'r gwasanaethau cymdeithasol a'r llysoedd. Y cyfarwyddiadau oedd  ymgymryd ag asesiadau risg (cyn ac ar ôl ymyrraeth) ar y cleientiaid mewn perthynas â hunan-niweidio a/neu niwed rhywiol, corfforol neu seicolegol i eraill. Roedd hyn yn cynnwys gwerthuso'r cydbwysedd rhwng ffactorau risg ac amddiffynnol. Cafodd y ddau gategori eu rhannu'n ffactorau sefydlog na ellir eu newid (e.e., erledigaeth plentyndod) a ffactorau deinamig sy’n gallu newid gydag ymyrraeth (e.e., alcohol a/neu ddefnyddio cyffuriau). Mae'r gweithgareddau hyn yn ei helpu i baratoi am hyfforddiant fel ymarferydd seicoleg fforensig y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar drais yn y teulu (dyn yn erbyn merch) a chamarfer plant. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ei diddordebau ymchwil hefyd wedi canolbwyntio ar droseddau rhywiol, camdriniaeth rywiol a chamfanteisio ar blant, asesu a thrin pobl ag euogfarnau rhywiol, trais rhywiol yn ogystal â rhagweld ac atal cam-drin plant. Ei diddordebau ymchwil eraill yw anhwylderau meddyliol mewn lleoliadau fforensig ac ymchwilio i hunanladdiad. Mae llawer o'i gwaith yn cynnwys ymgysylltu ag asiantaethau a gwasanaethau allanol, yn cynnwys gwasanaethau carchardai a phrawf, yr Heddlu, ac asiantaethau eraill.

Meysydd Arbenigedd

  • Trais teuluol a chamarfer plant.
  • Ymatebion yr Heddlu a chyrff proffesiynol i ddioddefwyr cam-drin domestig gwrywaidd a benywaidd
  • Asesu a thrin pobl ag euogfarnau rhywiol.
  • Rhagweld ac atal cam-drin plant
  • Trais rhywiol
  • Anhwylderau meddyliol mewn lleoliadau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Vasiliki'n addysgu ar y rhaglen MSc Seicoleg Fforensig. Hi yw arweinydd y modiwl ar gyfer:

PS-M96: Materion Proffesiynol a Chysyniadau Craidd mewn Seicoleg Fforensig

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau