Dr Zari Tehrani

Uwch Gymrodoriaeth Ddiwydiannol, Chemical Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604041

Cyfeiriad ebost

416
Pedwerydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Zari Tehrani yn meddu ar BSc, MSc, MBL, MRes, PhD mewn Nanodechnoleg ac mae'n Aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (MRSC). Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi meithrin rhwydwaith eang o gydweithredwyr diwydiannol ac academaidd ac mae hi wedi ysgogi arloesi yn ei phrosiectau, yn benodol, drwy ddatblygu biosynhwyrydd graffîn cyntaf y byd a thrwy ddatblygu batri ffilm denau ailwefradwy cyntaf y byd, y mae pob rhan ohono wedi cael ei hargraffu.

Fel rhan o'i Huwch-gymrodoriaeth Ymchwil Sêr Cymru, a ddyfarnwyd yn 2017, gwnaeth hi arwain ac ysgogi ei hymchwil ei hun i synwyryddion platfform argraffadwy at ddibenion diwydiannau amgylcheddol, bwyd a meddygol.

Yn fwyaf diweddar, fel Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Gemegol ac fel Uwch-gymrawd Diwydiannol gyda'r Academi Frenhinol Peirianneg, mae hi wedi dod o hyd i her newydd - sef datblygu Polymerau Electrolytau Gel i'w defnyddio mewn batris ionau sodiwm ar raddfa fawr ar y cyd â phartneriaid diwydiannol. Drwy gyfuno profiad helaeth o ddyfeisiau electronig argraffadwy, cemeg polymerau ac electrocemeg ag 17 mlynedd o brofiad o nodweddu arwynebau a chemeg, bydd hi'n gweithio ar ddatgloi technoleg allweddol ac ysgogi'r chwyldro trydanol. Mae ei hanes yn brawf o'i gallu i addasu a mynd i’r afael â meysydd gwyddonol gwahanol yn llwyddiannus.

Detholwyd Zari i fod yn rhan o'r rhaglen arobryn Crwsibl Cymru yn 2023, sy'n canolbwyntio ar ddatblygiad personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Storio Batris ac Ynni
  • Dyfeisiau Electronig argraffadwy
  • Electrocemeg
  • Cemeg Polymerau
  • Nodweddu Arwynebau
  • Fformiwleiddio Inc

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Goruchwyliaeth

Selective recovery of active materials from spent lithium-ion batteries (presennol)
PhD
Goruchwyliwr arall: Yr Athro Serena Margadonna
 
Emerging sensing materials, fabrication techniques and methods in improving Gas-Sensing Performance of chemo-resistive sensor (presennol)
PhD
Goruchwyliwr arall: Paolo Bertoncello
 
Development of graphene biosensors  (presennol)
PhD
Goruchwyliwr arall: Yr Athro Owen Guy
 
The Development and Integration of Microfluidic Devices and electrochemical sensors for potential use in clinical and environmental applications (dyfarnwyd yn 2024)
PhD
Goruchwyliwr arall: Yr Athro Owen Guy
Goruchwyliwr arall: Dr Jacob Mitchell
Cydweithrediadau