Dr Lia Amaxilati

Darlithydd mewn Cyfraith Llongau a Masnach
Law
050
Llawr Gwaelod
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Amaxilati â Phrifysgol Abertawe yn 2019 yn ddarlithydd. Graddiodd o Brifysgol Aristotle Thessaloniki (Gwlad Groeg) ac mae ganddi radd LLM mewn Cyfraith Forwrol o Brifysgol Southampton (y Deyrnas Unedig). Hefyd cwblhaodd ei gradd PhD mewn cyfraith forwrol gyda phwyslais ar hawliau morwyr ym Mhrifysgol Southampton yn 2019. 

Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, bu Dr Amaxilati yn gweithio fel darlithydd ym mhrifysgol y Frenhines Mary, Prifysgol Llundain, lle bu'n addysgu cyfraith camwedd. Roedd hi hefyd yn diwtor ym Mhrifysgol Southampton lle bu'n addysgu cyfraith y Morlys. Mae hi hefyd yn gyfreithiwr cymwysedig yng Ngwlad Groeg.

Mae Dr Amaxilati yn gyfrannwr at blog swyddogol y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol. Mae hi hefyd yn aelod o Gymdeithas yr Ysgolheigion Cyfreithiol a changen y DU o'r Gymdeithas Menywod mewn Morgludiant a Masnachu. 

Mae Dr Amaxilati yn Gymrawd Advance HE (FHEA).

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith Lafur Forwrol
  • Cyfraith y Morlys
  • Môr-ladrata
  • Cludo teithwyr ar y môr
  • Cludo nwyddau ar y môr, y tir a thrwy'r awyr
  • Siarteri llogi llongau
  • Hawliadau niwed personol
  • Cyfraith camwedd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil Zoumpoulia mewn cyfraith lafur ryngwladol a chyfraith forwrol. Mae ei phrif ymchwil yn archwilio materion sy'n ymwneud â diogelu hawliau morwyr, cam-fanteisio ar weithwyr ar y môr, a chaethwasiaeth fodern ar y môr. Mae ei diddordebau hefyd yn ymestyn i reoleiddio morgludiant rhyngwladol.