-
19 Tachwedd 2024Monitor ansawdd aer a ddyfeisiwyd gan dîm yn Abertawe sy'n gallu helpu i ddiogelu'r cyhoedd rhag peryglon carbon deuocsid
Mae cwmni a sefydlwyd gan dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi dyfeisio monitor ansawdd aer sy'n gwirio am lefelau peryglus o garbon deuocsid ac sy'n gallu gweithredu'n barhaus gan ddefnyddio ynni glân a geir o olau dan do - heb angen newid batris hyd yn oed.
-
18 Tachwedd 2024Pynciau Abertawe ymysg y gorau yn y byd
Mae pynciau ar draws y sbectrwm academaidd ym Mhrifysgol Abertawe ymysg y gorau yn y byd mewn tabl cynghrair newydd.
-
15 Tachwedd 2024EHB Duges Caeredin yn dychwelyd i'r Brifysgol i gefnogi prosiect unigryw sy'n helpu dioddefwyr trais rhywiol
Mae cydweithrediad rhyngwladol arloesol, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, i helpu dioddefwyr trais rhywiol mewn ardaloedd gwrthdaro wedi croesawu ymweliad gan EHB Duges Caeredin.
-
14 Tachwedd 2024Niwrowyddonydd Abertawe'n derbyn Dyfarniad Fulbright i gynnal ymchwil mewn sefydliad o fri yn yr Unol Daleithiau
Mae Dr Jeff Davies o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn Dyfarniad Ysgolhaig Holl Ddisgyblaethau Fulbright o fri, a fydd yn ei alluogi i gynnal ymchwil yn y gyfadran niwrowyddoniaeth fyd-enwog yn Sefydliad Salk yn San Diego, Califfornia.
-
14 Tachwedd 2024Prifysgol Abertawe'n derbyn dyfarniad newydd gan UKRI i hyfforddi arweinwyr y dyfodol mewn gwyddor amgylcheddol
Mae Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) UKRI wedi dyfarnu cyllid i Brifysgol Abertawe a'i phartneriaid i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr o safon fyd-eang i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol byd-eang.
-
14 Tachwedd 2024Llyfrgell y Glowyr De Cymru yn symud i gartref newydd yng nghanol y ddinas
Bydd y Storfa, hwb cymunedol newydd yng nghanol dinas Abertawe, yn gartref newydd i gyfleuster sy'n helpu i ddathlu treftadaeth ddiwydiannol, gymdeithasol a diwylliannol y rhanbarth.
-
7 Tachwedd 2024Prinder critigol mewn adnoddau triniaeth canser ar draws gwledydd a fu'n rhan o'r Undeb Sofietaidd, yn ôl astudiaeth Lancet newydd
Mae astudiaeth newydd a arweinir gan Brifysgol Rhydychen ac sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe wedi canfod bod prinder ac anghysonderau mewn offer a staff yn cael effaith ar driniaeth canser mewn deuddeg o wledydd a fu'n rhan o'r Undeb Sofietaidd gynt.
-
7 Tachwedd 2024Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n lansio hyb biodechnoleg £4.5m newydd ym Mhrifysgol Abertawe
Lansiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, y BioHYB Cynhyrchion Naturiol (NP BioHUB) ym Mhrifysgol Abertawe yn swyddogol ddydd Iau 7 Tachwedd.
-
7 Tachwedd 2024Tanya Pengelly yn ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2024 â stori 'emosiynol syfrdanol' wedi'i hysgrifennu er cof am ei diweddar dad
Mae'r llenor o Gymru Tanya Pengelly wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2024 am ei stori, 'A Dictionary of Light', a ysgrifennwyd er cof am ei thad.
-
6 Tachwedd 2024Cyswllt ag arbenigwyr y brifysgol yn rhoi cwmni technoleg gofal iechyd lleol ar lwybr at ragor o lwyddiant
Mae cydweithrediad ag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe wedi helpu cwmni technoleg gofal iechyd lleol i symud gam ymhellach at eu nod o drawsnewid gofal cleifion, drwy wella eu hymchwil a'u gallu i arloesi, a sicrhau dyfarniad £50,000 pellach i wella technolegau presennol.
-
4 Tachwedd 2024Toddlers, Tech and Talk: astudiaeth arloesol o sut mae plant dan dair oed yn defnyddio technoleg
Mae astudiaeth fawr, y gyntaf o'i bath, wedi datgelu mewnwelediadau allweddol ynghylch i ba raddau y mae gan blant o dan dair oed fynediad at dechnoleg ddigidol yn y cartref, sut maen nhw'n ei defnyddio a sut mae'n ategu datblygiad eu hiaith.
-
1 Tachwedd 2024Menter diagnosio canser y prostad a gyd-ddatblygwyd gan Brifysgol Abertawe yn cael ei dathlu yng Ngwobrau GIG Cymru
Mae gwaith Prifysgol Abertawe i helpu i wella diagnosio canser y prostad wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau GIG Cymru eleni.
-
28 Hydref 2024Yr Athro'r Fonesig Wendy Hall yn trafod geowleidyddiaeth y rhyngrwyd a'i heffaith ar AI mewn darlith yn Abertawe
Bydd yr Athro'r Fonesig Wendy Hall, DBE, FRS, FREng, sy'n awdurdod blaenllaw ym maes Deallusrwydd Artiffisial (AI) a chyfrifiadureg, yn traddodi Darlith Zienkiewicz flynyddol Prifysgol Abertawe.
-
25 Hydref 2024Hwb i ymchwil sy'n cefnogi pobl anabl yng Nghymru drwy ddyfarniad gan y Cwmni Lifrai
Mae arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe sy'n ymchwilio i gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl anabl wedi ennill ysgoloriaeth deithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, gan ei galluogi i ddatblygu ei hymchwil ymhellach.
-
23 Hydref 2024O blant bach a thechnoleg i'r gymdogaeth berffaith – gŵyl yn rhoi cyfle i'r cyhoedd archwilio gydag arbenigwyr y brifysgol
A yw'n iawn i blant bach fod yn defnyddio technoleg? A all eich plant helpu i ddylunio'r gymdogaeth berffaith? Sut mae codio cyfrifiadurol yn gweithio? Mae gan y cyhoedd yn Abertawe ac ar draws y rhanbarth gyfle i ddysgu rhagor am yr holl gwestiynau hyn a mwy, drwy weithgareddau ar gyfer pob oedran, mewn cyfres o ddigwyddiadau am ddim rhwng 27 Hydref ac 8 Tachwedd.
-
17 Hydref 2024Astudiaeth yn datgelu cynnydd 60% mewn allyriadau CO2 byd-eang o danau coedwig
Mae astudiaeth bwysig newydd a ysgrifennwyd ar y cyd gan yr Athro Stefan Doerr, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Danau Gwyllt, ym Mhrifysgol Abertawe'n datgelu bod allyriadau carbon deuocsid (CO2) o danau coedwig wedi cynyddu 60 y cant yn fyd-eang ers 2001, gan dreblu bron mewn rhai o'r coedwigoedd boreal gogleddol.
-
15 Hydref 2024Degawd o ddarparu ar gyfer myfyrwyr ac ymchwil – partneriaeth rhwng Abertawe a Houston yn dathlu carreg filltir deng mlynedd
Mae partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a dau sefydliad yn Houston, Tecsas, sydd wedi cyflawni buddion i fyfyrwyr ac ymchwilwyr yng Nghymru ac UDA, yn dathlu ei 10fed pen-blwydd.
-
15 Hydref 2024Arweinwyr Gofal Iechyd y Dyfodol: Myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi'u dethol ar gyfer rhaglen genedlaethol o fri
Mae tair myfyrwraig o Brifysgol Abertawe wedi'u gwahodd i ymuno â Rhaglen Arweinyddiaeth Myfyrwyr Cyngor y Deoniaid Iechyd. Mae hon yn rhaglen nodedig â'r nod o feithrin a datblygu sgiliau'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym meysydd nyrsio a bydwreigiaeth a'r proffesiynau perthynol i iechyd.
-
10 Hydref 2024Llawfeddyg plastig yn arwain taith i drosglwyddo sgiliau hanfodol i helpu dioddefwyr trais rhywiol
Mae rôl y DU ar flaen y gad o ran gweithredu byd-eang i fynd i'r afael â thrais rhywiol mewn gwrthdaro wedi arwain at genhadaeth unigryw i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
-
9 Hydref 2024Bydd partneriaeth ryngwladol bwysig yn ysgogi arloesi data iechyd byd-eang
Bydd Prifysgol Abertawe'n chwarae rhan allweddol mewn partneriaeth newydd ym maes gofal iechyd a gwyddor data rhwng y DU a Singapore.
-
8 Hydref 2024Sut y gall treftadaeth wella bywydau yng Nghymru heddiw
Mae treftadaeth gyfoethog Cymru yn fwy nag arwydd o'r gorffennol, mae'n ased gwerthfawr a all wella bywydau yng Nghymru heddiw, gan hybu iechyd, gwydnwch a lles, yn ôl tystiolaeth newydd gan brosiect arloesol yng Nghwm Nedd.
-
7 Hydref 2024Canolfan Eifftaidd yn ennill hwb ariannol mawr i wella cyfleusterau
Bydd ymwelwyr ag amgueddfa boblogaidd yn Abertawe yn y dyfodol yn gallu profi synau ac arogleuon yr hen Aifft, diolch i gymorth gwerth £300,000 gan Lywodraeth Cymru.
-
7 Hydref 2024BioHYB Cynhyrchion Naturiol Abertawe'n sicrhau cyllid UKRI gwerth £4.5m i hybu’r economi werdd
Mae BioHYB Cynhyrchion Naturiol Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid gwerth £4.5m fel rhan o fenter Cyflymu Economïau Gwyrdd UKRI.
-
4 Hydref 2024Astudiaeth yn datgelu sut mae parasitiaid yn ffynnu trwy gydbwyso arbenigo â manteisio ar gymunedau rhywogaethau amrywiol
Gall un symudiad parasit o un rywogaeth letyol i'r llall sbarduno achosion o glefydau heintus trychinebus. Er gwaethaf hyn, mae gwyddonwyr yn parhau i drafod rôl amrywiaeth rhywogaethau mewn amgylcheddau naturiol yn ymlediad y parasitiaid hyn.
-
4 Hydref 2024Disgyblion Ysgolyn mynd i’r afael â heriau cynaliadwyedd byd-eang yng ngŵyl beirianneg Prifysgol Abertawe
Mae disgyblion ysgol o Gymru wedi bod yn archwilio sut i gyflawni byd mwy cynaliadwy drwy lens deunyddiau, diolch i ŵyl Prifysgol Abertawe lle cafodd pob disgybl microsgop bach fel rhodd am ddim.
-
2 Hydref 2024Addysg i blant y mae gwrthdaro ac argyfwng yn effeithio arnynt - Abertawe'n cynnal digwyddiad i arbenigwyr rhyngwladol
Sut i ddiwallu anghenion addysgol plant y mae gwrthdaro ac argyfwng yn effeithio arnynt oedd testun digwyddiad i arbenigwyr rhyngwladol ar 16 ac 17 Medi, a gynhaliwyd gan Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe.
-
25 Medi 2024Taith gerdded ar y traeth yn helpu i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad
Mae Prifysgol Abertawe unwaith eto wedi cydweithio â PAPYRUS i gynnal taith gerdded ar y traeth i helpu i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad.
-
23 Medi 2024Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd ar gyfer 2024
Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe hirddisgwyliedig yn dychwelyd, gan argoeli i fod yn daith wefreiddiol i fyd difyr gwyddoniaeth yn ystod hanner tymor mis Hydref.
-
23 Medi 2024Prifysgol Abertawe'n croesawu arbenigwr byd-enwog ym maes seiberddiogelwch modurol fel Athro Gwadd
Mae un o beirianwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes seiberddiogelwch modurol wedi ymuno ag Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe fel rhan o Gynllun Athrawon Gwadd yr Academi Frenhinol Peirianneg ar gyfer 2024/25.
-
20 Medi 2024Prifysgol Abertawe'n cynnal cynhadledd fawr ar gyfer arbenigwyr mewn dulliau gwyrddach o reoli plâu
Daeth dros 200 o arbenigwyr mewn rheoli plâu at ei gilydd ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2 a 4 Medi am gynhadledd fawr i annog arloesedd yn y maes.
-
20 Medi 2024Abertawe'n cael ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2025
Mae Prifysgol Abertawe wedi'i henwi'n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2025 gan The Times and The Sunday Times.
-
19 Medi 2024“Mae hi wedi fy ngwneud yn fwy hyderus” – 137 o bobl ifanc leol yn graddio o'r rhaglen Camu Ymlaen ar gyfer ehangu mynediad i'r Brifysgol
Mae dros 100 o bobl ifanc o ysgolion a cholegau ar draws de-orllewin Cymru wedi dathlu graddio o'r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe, mewn seremoni arbennig o flaen eu teuluoedd a'u ffrindiau yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
-
19 Medi 2024Cyhoeddi rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2024
Cyhoeddir rhestr fer 2024 gwobr uchel ei bri Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies heddiw, dydd Iau 19 Medi.
-
17 Medi 2024Prif Weinidog Cymru'n ymweld â'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Bu Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, yn cwrdd â nyrsys dan hyfforddiant a chafodd daith o'r Ganolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM) ar ymweliad diweddar â'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.
-
13 Medi 2024Ymchwil i ddefnyddio tystiolaeth o ffonau symudol mewn achosion hawliau dynol ar restr fer Gwobr Effaith uchel ei bri
Mae ymchwil sy'n helpu'r CU a llysoedd ledled y byd i asesu tystiolaeth o ffonau symudol wrth erlyn troseddau rhyfel ac achosion hawliau dynol eraill, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr uchel ei bri sy'n amlygu effaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.
-
12 Medi 2024Prifysgol Abertawe'n cadw ei safle fel Prifysgol Orau Cymru yn ôl The Guardian University Guide
Unwaith eto mae Prifysgol Abertawe wedi'i henwi'n Brifysgol Orau Cymru, yn ôl The Guardian University Guide 2025.
-
11 Medi 2024Cynllun llogi beiciau ar ei newydd wedd yn dychwelyd
Bydd Beiciau Prifysgol Abertawe yn ôl yn fuan ac ar gael i'w llogi, unwaith eto'n cynnig ffordd hwylus a fforddiadwy o deithio ar draws y ddinas.
-
11 Medi 2024Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe'n derbyn adroddiad ardderchog gan Estyn
Mae Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, wedi ysgrifennu adroddiad hynod galonogol ar Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA), gan ganmol y profiadau dysgu cyfoethog ac ysgogol a gyflwynir drwy ei rhaglenni Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR).
-
10 Medi 2024Cemeg, troseddeg a sut i gysgu'n well - y cyrsiau sydd ar gael i bawb ar gyfer Wythnos Dysgu Oedolion
Boed yn droseddeg neu gemeg neu ddysgu sut i gysgu'n well, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cyrsiau sydd am ddim ac ar gael i bawb, fel rhan o Wythnos Dysgu Oedolion, a gynhelir rhwng 9 ac 15 Medi.
-
6 Medi 2024Ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n taflu goleuni ar sut gall ynni solar a ffermio gyd-fodoli
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu offeryn newydd i helpu i nodi deunyddiau ffotofoltäig (PV) optimaidd sy'n gallu uchafu twf cnydau gan gynhyrchu ynni solar ar yr un pryd.
-
6 Medi 2024Ymchwilwyr yn creu fframwaith newydd i helpu i ddeall sut mae cymunedau microbaidd yn datblygu
Mae bron pob organedd amlgellog ar y ddaear yn byw mewn cysylltiad symbiotig â chymunedau microbaidd mawr a chymhleth iawn o'r enw microbiomau.
-
4 Medi 2024Cyllid newydd i helpu Technocamps i roi hwb i sgiliau digidol lleol
Mae Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb cyllid sylweddol gan awdurdodau lleol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gyflwyno hyfforddiant sgiliau digidol arloesol i bobl ifanc ac oedolion. Bydd y cyllid, sy'n werth dros £700,000, yn cael ei ddefnyddio i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'r nod yw gwella llythrennedd digidol yn y rhanbarth.
-
2 Medi 2024Mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn dod at ei gilydd i lanhau adeiladau uchel y byd
Bydd Prifysgol Abertawe'n gweithio fel rhan o gydweithrediad i fynd i'r afael ag allyriadau hinsawdd byd-eang drwy archwilio dull gwahanol o adeiladu adeiladau uchel.
-
3 Medi 2024Ffordd fwy diogel a chlyfar o fynd i'r afael â chyrydu - cwmni a ddechreuwyd ym Mhrifysgol Abertawe'n mynd yn fyd-eang drwy gytundebau allforio
Mae cwmni a sefydlwyd gan ymchwilydd o Brifysgol Abertawe, sydd wedi patentu ffordd fwy diogel a chlyfar o fynd i'r afael â chyrydu, wedi mynd yn fyd-eang yn ddiweddar, drwy lofnodi cytundebau allforio ledled y byd.
-
29 Awst 2024Arch yn dychwelyd i'r Ganolfan Eifftaidd o'r diwedd ar ôl prosiect adfer rhyfeddol
Mae arch hynafol o'r Hen Aifft wedi dychwelyd i Abertawe ar ôl prosiect llafurus 26 o flynyddoedd i'w hadfer.
-
29 Awst 2024Ymchwilwyr yn datgelu technoleg graffîn y gellir ei rhoi ar waith ar raddfa i chwyldroi diogelwch a pherfformiad batris
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Technoleg Wuhan, Prifysgol Shenzhen, wedi datblygu techneg arloesol ar gyfer cynhyrchu casglwyr cerrynt graffîn ar raddfa fawr.
-
23 Awst 2024Llawlyfr newydd yn rhoi awgrymiadau hanfodol i fyfyrwyr awtistig sy'n mynd i'r brifysgol
Gall dechrau yn y brifysgol fod yn brofiad brawychus i unrhyw fyfyriwr, yn enwedig os yw'n cynnwys symud oddi cartref am y tro cyntaf. Nawr, mae llyfr newydd yn ceisio gwneud bywyd ychydig yn haws i bobl ifanc awtistig wrth iddynt ddechrau eu hantur academaidd.
-
23 Awst 2024Teclyn Deallusrwydd Artiffisial y cyntaf o'i fath yn cynnig mesuriad amser go iawn o hapusrwydd cenedlaethol
Mae tîm ymchwil rhyngwladol wedi dadorchuddio teclyn deallusrwydd artiffisial arloesol i fesur lefelau hapusrwydd cenedlaethol amser go iawn.
-
16 Awst 2024Yn gyflymach nag un picsel ar y tro - dull delweddu newydd ar gyfer microsgopau pelydryn atomig niwtral a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn Abertawe
Gall lluniau o ficrosgopau gael eu tynnu'n llawer cyflymach - yn hytrach nag un picsel ar y tro - diolch i ddull delweddu newydd microsgopau pelydryn atomig niwtral a ddatblygwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe. Gallai arwain yn y pen draw at ganlyniadau cyflymach i beirianwyr a gwyddonwyr wrth iddynt sganio samplau.
-
15 Awst 2024Adroddiad yn datgelu dylanwad newid yn yr hinsawdd ar danau gwyllt yn ystod 2023-24
Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi chwarae rhan allweddol mewn ymchwil newydd sy'n tynnu sylw at weithgarwch tanau gwyllt a rôl newid yn yr hinsawdd wrth eu hachosi.
-
14 Awst 2024Anrhydeddu'r Brifysgol am ddarparu mannau gwyrdd i bawb
Unwaith eto, mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau gwobr y Faner Werdd sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn rheoli a datblygu tiroedd.
-
9 Awst 2024Arbenigwyr yn darparu o dystiolaeth o’r rôl mae testosteron yn ei chwarae wrth atal Covid difrifol
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu gwybodaeth bwysig am sut gall lefel testosteron claf helpu i'w amddiffyn rhag Covid-19 difrifol.
-
7 Awst 2024Cyswllt annisgwyl rhwng ymddygiad glanhau a straen ffisiolegol mewn babŵns gwyllt
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu perthynas annisgwyl rhwng ymddygiad glanhau a straen ffisiolegol mewn babŵns gwyllt benywaidd, sy'n mynd i’r afael â bwlch allweddol yn ein dealltwriaeth o sut mae bywyd cymdeithasol yn gysylltiedig ag iechyd a ffitrwydd anifeiliaid.
-
6 Awst 2024Arwr Cymru a'r Llewod, Alun Wyn Jones , yn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Cynghorydd Strategol
Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a chyn-fyfyriwr y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, Alun Wyn Jones, wedi derbyn rôl Cynghorydd Strategol yn y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH) ym Mhrifysgol Abertawe.
-
6 Awst 2024"Rwy'n mwynhau'n fawr!" Disgyblion ysgol yn mwynhau rhagflas tri diwrnod o fywyd yn y Brifysgol
O ddysgu yn y labordai i chwarae pŵl gyda ffrindiau, cafodd grŵp o ddisgyblion o Ysgol Dylan Thomas yn Abertawe flas ar yr holl agweddau ar fywyd myfyriwr yn ystod arhosiad tri diwrnod o hyd diweddar ar y campws, wedi'i ddylunio i roi blas o fywyd yn y brifysgol iddynt.
-
31 Gorffennaf 2024Gwahoddir busnesau rhanbarth Abertawe i hybu cynaliadwyedd drwy Raglen Twf Glân
Mae busnesau a sefydliadau'r trydydd sector ledled de Cymru yn cael cyfle i hybu arloesedd, meithrin gwydnwch a gwneud cysylltiadau gwerthfawr â chymorth arbenigwyr economi gylchol y Brifysgol.
-
30 Gorffennaf 2024Cyffur afiechyd y croen yn dangos addewid er mwyn trin diabetes mewn plentyndod
Mae cyffur a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer trin psorïasis yn effeithiol er mwyn trin camau cynnar diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc yn ôl treial clinigol newydd a arweinir gan Brifysgol Caerdydd gyda chymorth Uned Dreialon Abertawe (STU) a Labordy’r Grŵp Ymchwil Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe.
-
26 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe'n cyflwyno dyfarniad er anrhydedd i eicon y sin Gymraeg, Huw Chiswell
Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu Doethuriaeth mewn Llên er Anrhydedd i Huw Chiswell, gan gydnabod ei yrfa nodedig ym myd cerddoriaeth a'r celfyddydau creadigol, yn ogystal â'i statws eiconig yn niwylliant yr iaith Gymraeg.
-
25 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe yn anrhydeddu cadwraethwr eliffantod blaenllaw Dr Kate Evans
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno dyfarniad er anrhydedd i Dr Kate Evans, un o gyn-fyfyrwyr nodedig y Brifysgol, sy'n sylfaenydd ac yn Brif Swyddog Gweithredol yr elusen, Elephants for Africa.
-
25 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe'n dyfarnu gradd er anrhydedd i gadwraethwr diogod sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang
Dyfarnwyd gradd er anrhydedd i Dr Rebecca Cliffe gan Brifysgol Abertawe i gydnabod ei gwaith sy’n torri tir newydd ym maes cadwraeth diogod.
-
25 Gorffennaf 2024O frwydro i'r ystafell ddosbarth:Taith ysbrydoledig un o raddedigion Abertawe
Mae cyn-feddyg gyda'r Fyddin wedi graddio o Brifysgol Abertawe ar ôl gadael yr ysgol heb Safon Uwch, ac erbyn hyn bydd yn hyfforddi i fod yn athrawes, gan annog pobl ifanc i ddilyn eu breuddwydion.
-
25 Gorffennaf 2024Treftadaeth a rennir mam a merch o Singapore ym Mhrifysgol Abertawe
Mae stori anhygoel am gysylltiadau rhwng-genedlaethol rhwng Prifysgol Abertawe a Singapore wedi cyrraedd pennod hyfryd newydd, wrth i ferch raddio o'r un brifysgol â'i mam 74 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
-
25 Gorffennaf 2024Gwreiddio Menter Plannu Coed Graddio newydd i raddedigion Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd cam newydd tuag at ddyfodol gwyrddach trwy blannu dros 300 o goed, un ar gyfer pob myfyriwr sy'n graddio o'i Hysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg yr wythnos hon.
-
23 Gorffennaf 2024Newidiadau ar y ffordd wrth i gynllun llogi beiciau poblogaidd y ddinas gael ei ailwampio
Ar ôl chwe blynedd lwyddiannus, mae cynllun llogi beiciau poblogaidd Abertawe yn cael enw newydd ac uwchraddiad mawr i wella ei wasanaeth i ddefnyddwyr ledled y ddinas.
-
19 Gorffennaf 2024Llyfr newydd yn helpu i bontio'r bwlch cyfathrebu rhwng pobl awtistig a phobl nad ydynt yn awtistig
Bydd pobl awtistig yn aml yn cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol ond erbyn hyn mae llyfr newydd gan arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe yn ceisio gwella dealltwriaeth rhwng niwroteipiau.
-
17 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe'n dringo i'r pumed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall
Enwyd Prifysgol Abertawe'n un o'r 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LHDTC+ am yr wythfed tro yn olynol.
-
17 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf rhwng 3-10 Awst 2024.
-
15 Gorffennaf 2024Tiwnig wedi'i hadfer bellach yn ôl i'w gweld yn y Ganolfan Eifftaidd
Mae tiwnig brin bellach yn ôl ac yn cael ei harddangos yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe ar ôl dwy flynedd o waith adfer helaeth.
-
15 Gorffennaf 2024Gan gyflwyno NNIISH: oes newydd ar gyfer arloesi mewn chwaraeon a thechnoleg iechyd yng Nghymru
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd (NNIISH), sef menter newydd sy’n ceisio trawsnewid tirwedd technoleg iechyd a chwaraeon yng Nghymru.
-
10 Gorffennaf 2024Safleoedd Prifysgolion Ewrop QS yn gosod Prifysgol Abertawe ymysg y 100 sefydliad gorau
Mae Prifysgol Abertawe wedi'i gosod ymysg y 100 prifysgol orau yn Ewrop, yn ôl ail rifyn o Dablau Prifysgolion y Byd QS: Ewrop 2025.
-
9 Gorffennaf 2024Y Brifysgol yn dathlu llwyddiant dwbl mewn cystadleuaeth awyrofod
Cafodd myfyrwyr Prifysgol Abertawe eu hanrhydeddu mewn her unigryw â’r nod o ddathlu doniau peirianwyr awyrofod y dyfodol.
-
8 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe yn agor canolfan Bilingualism Matters cyntaf Cymru
Mae'r sefydliad byd-eang ymchwil a chefnogaeth i amlieithrwydd Bilingualism Matters yn agor ei ganolfan gyntaf yng Nghymru, yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe.
-
2 Gorffennaf 2024Symud y tu hwnt i hafaliad celloedd solar 80 mlwydd oed
Mae ffisegwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Åbo Akademi wedi torri tir newydd sylweddol mewn technoleg celloedd solar drwy ddatblygu model dadansoddol newydd sy'n gwella dealltwriaeth o ddyfeisiau ffotofoltäig ffilm denau a’u heffeithlonrwydd.
-
1 Gorffennaf 2024Prifysgol Abertawe'n lansio gradd Cyfraith Forwrol arloesol mewn partneriaeth â Phrifysgol Dalian Maritime
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi lansiad swyddogol gradd israddedig ddwbl arloesol (LLB Cyfraith Forwrol) mewn cydweithrediad â Phrifysgol Dalian Maritime (DMU), Tsieina, a bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2024.
-
27 Mehefin 2024Tîm Abertawe'n dathlu ar ôl codi mwy nag £20,000 yn yr Hanner Marathon eleni
Mae staff, myfyrwyr a ffrindiau a gymerodd ran yn Hanner Marathon Prifysgol Abertawe eleni wedi rhagori ar eu targed codi arian a chasglu mwy nag £20,000 i hybu gofal a chymorth ar gyfer iechyd meddwl.
-
27 Mehefin 2024Gwobrau Ymchwil ac Arloesi'n arddangos effaith gydweithredol fawr
Yn ystod Seremoni'r Gwobrau Ymchwil ac Arloesi, amlygwyd amrywiaeth anhygoel yr ymchwil a'r arloesi a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cynnwys: canfod achosion o dorri hawliau dynol, gwarchod treftadaeth mewn ardaloedd gwrthdaro, seiberdroseddau, newid yn yr hinsawdd, atal datgoedwigo, diogelu plant ar-lein, darparu addysg sy'n seiliedig ar efelychu, cyflwyno prosiectau gwyddoniaeth perfformiad cymhwysol sy'n arwain yn fyd-eang a datblygu ein dealltwriaeth o wrthfater.
-
27 Mehefin 2024Prifysgol Abertawe'n helpu i hyrwyddo arferion asesu ymchwil yn y Deyrnas Unedig
Mae'r Deyrnas Unedig wedi cymryd cam sylweddol ymlaen wrth hyrwyddo arferion asesu ymchwil cyfrifol drwy greu Cangen Genedlaethol o'r Gynghrair Hyrwyddo Asesiadau Ymchwil (CoARA), a arweinir ar y cyd gan Brifysgol Abertawe.
-
26 Mehefin 2024Prifysgol yn cynnal cynhadledd ryngwladol bwysig i arbenigwyr anatomeg
Disgwylir i arbenigwyr anatomeg o wledydd amrywiol ymgynnull yn Abertawe rhwng 27 a 30 Mehefin pan fydd y Brifysgol yn cynnal y 15fed Symposiwm Rhyngwladol Anatomeg Glinigol a Chymhwysol (ISCAA).
-
26 Mehefin 2024Partneriaeth hirdymor newydd yn hyrwyddo ymchwil i fioarmywiaeth afonydd a chadwraeth yn ne Cymru
Mae Prifysgol Abertawe a Chlwb Pysgota a Chadwraeth Cwm Afan (AVACC) wedi sefydlu partneriaeth hirdymor â'r nod o ddatblygu ymchwil ac ymdrechion cadwraeth o ran bioamrywiaeth afonydd yng nalgylch Afan a systemau afon tebyg eraill yn ne Cymru.
-
21 Mehefin 2024Anrhydeddu hyrwyddwyr y Gymraeg yng Ngwobrau'r Coleg Cymraeg
Dathlwyd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, Priya Dodyia, a'r uwch-ddarlithydd, Dr Alwena Morgan, yn seremoni wobrwyo flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cyfraniadau eithriadol.
-
21 Mehefin 2024Partneriaeth newydd prifysgol i ddarparu arbenigedd hyfforddi nyrsys ym Mauritius
Bydd nyrsys ym Mauritius yn gallu elwa o hyfforddiant gofal iechyd arobryn Prifysgol Abertawe fel rhan o gydweithrediad rhyngwladol newydd.
-
21 Mehefin 2024Lled-ddargludyddion: ciosgau newydd yn defnyddio realiti rhithwir ac AI i esbonio sut maent yn gweithio a pham y maent yn hanfodol
Bydd deallusrwydd artiffisial (AI) yn helpu pobl i ddysgu am dechnoleg lled-ddargludyddion, sy'n hanfodol i bopeth o ffonau symudol a cherbydau electronig i loerenni, drwy giosgau rhyngweithiol newydd a ddatblygwyd gan Imersifi, cwmni realiti rhithwir ac arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
-
20 Mehefin 2024Prifysgol Abertawe yn helpu i ddatblygu offeryn ar-lein sy'n paru pleidleiswyr â'u plaid wleidyddol ddelfrydol
Wrth i ni nesáu at yr Etholiad Cyffredinol sydd ar ddod, mae pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi eu maniffestos, gan adael llawer o bobl mewn dryswch ynghylch pa blaid sy'n cydweddu orau â'u barn. I ymdrin â'r broblem hon, mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i greu offeryn pleidleisio ar-lein newydd.
-
19 Mehefin 2024Llyfr newydd yn archwilio rôl llywodraeth yr Unol Daleithiau mewn llofruddiaethau
Mae gan lywodraeth yr Unol Daleithiau hanes hir o ymwneud â llofruddiaethau ac ymgeisiau i gyflawni llofruddiaethau, o Fidel Castro i Qassem Soleimani yn 2020.
-
18 Mehefin 2024Terfysgaeth a'r cyfryngau cymdeithasol - Abertawe yn cynnal cynhadledd i arbenigwyr rhyngwladol
Sut mae grwpiau terfysgol yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, a sut gellir gwrthwynebu hyn, dyna ffocws cynhadledd ryngwladol bwysig yn Abertawe sy'n dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a chynrychiolwyr o lywodraethau a chwmnïau technoleg blaenllaw o bedwar ban byd ynghyd.
-
17 Mehefin 2024Sut mae hyfforddiant efelychu o safon fyd-eang mewn prifysgol yn llywio ein gweithlu iechyd
Mae ymarferwyr proffesiynol gofal iechyd y dyfodol yn elwa nawr o fuddion cyfleusterau hyfforddi arloesol Prifysgol Abertawe.
-
17 Mehefin 2024Cyllid newydd i gefnogi Cymru i ddatblygu technoleg ynni morol arloesol
Mae Innovate UK wedi dyfarnu cyllid i optimeiddio ymhellach blatfform gwynt alltraeth arnofiol unigryw a hyblyg ar gyfer cymwysiadau yn y Môr Celtaidd yn rhan o gydweithrediad sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe.
-
17 Mehefin 2024Ymchwilio i effaith problemau iechyd y geg ar bobl sy'n ceisio noddfa yng Nghymru
Mae Prifysgol Abertawe'n gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i amlygu'r heriau unigryw y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu hwynebu wrth gynnal iechyd y geg a'r goblygiadau ehangach i'w lles cyffredinol.
-
14 Mehefin 2024Amrywiaeth swyddogaethol siarcod yn is nag erioed yn ystod y 66 miliwn o flynyddoedd diwethaf
Mae ymchwil newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Zurich wedi canfod bod siarcod wedi cadw lefelau uchel o amrywiaeth swyddogaethol am y rhan fwyaf o'r 66 miliwn o flynyddoedd diwethaf, cyn dirywio'n gyson yn ystod y 10 miliwn o flynyddoedd diwethaf, gan gyrraedd y gwerth isaf a gofnodwyd erioed heddiw.
-
14 Mehefin 2024Astudiaeth o’r galon yn cynnig dealltwriaeth newydd o esblygiad dynol
Mae tîm ymchwil rhyngwladol o Brifysgol Abertawe ac UBC Okanagan (UBCO) wedi darganfod gwybodaeth newydd am esblygiad dynol drwy gymharu calonnau dynol â chalonnau epaod mawr eraill.
-
13 Mehefin 2024Gwelliant aruthrol i Brifysgol Abertawe yn Arolwg Effaith diweddaraf Times Higher Education
Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau safle 65 ar y cyd yn y byd ar gyfer cyfraniadau ystyrlon tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn Arolwg Effaith Prifysgolion Times Higher Education (THE University Impact Rankings).
-
13 Mehefin 2024Tiwtor ym Mhrifysgol Abertawe yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth o fri, Dysgwr y Flwyddyn
Mae Eli Staniforth, sy'n diwtor gyda Dysgu Cymraeg - Rhanbarth Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe, wedi cael ei dewis yn un o’r pedwar cystadleuydd yn rownd derfynol prif gystadleuaeth i ddysgwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr y mae cystadlu brwd amdani.
-
11 Mehefin 2024Pedwar ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi'u dewis i ymuno â rhaglen uchel ei bri Crwsibl Cymru
Mae pedwar ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi'u dewis i ymuno â Chrwsibl Cymru 2024, rhaglen arobryn sydd â'r nod o feithrin datblygiad personol, proffesiynol a sgiliau arwain ymysg arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
-
11 Mehefin 2024Myfyriwr Peirianneg Fecanyddol yn ennill rownd derfynol cystadleuaeth 3MT
Mae Oli Fryatt, sy'n astudio am PhD mewn Peirianneg Fecanyddol, wedi ennill rownd derfynol cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.
-
7 Mehefin 2024Prosiect newydd i ymdrin â chanfyddiadau pobl ifanc am ddiogelwch yn yr haul
Mae prosiect dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n gobeithio atal cynnydd pryderus canser y croen yng Nghymru drwy archwilio canfyddiadau presennol plant, rhieni/gofalwyr ac addysgwyr am gael lliw haul. Bydd y canlyniadau'n helpu i ddatblygu pecyn cymorth addysgol newydd am ddiogelwch yn yr haul ar gyfer cwricwlwm Cymru.
-
4 Mehefin 2024Prifysgol Abertawe'n dringo i'w safle uchaf erioed yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS
Mae Prifysgol Abertawe wedi dringo i 298fed yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS 2025, gan gyrraedd y 300 uchaf am y tro cyntaf a sicrhau ei safle uchaf erioed yn y tabl.
-
3 Mehefin 2024Astudiaeth yn dangos bod myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio'n fwy tebygol o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer aseiniadau
Mae astudiaeth seicoleg gan Brifysgol Abertawe wedi canfod bod myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio'n fwy tebygol o ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial – yn enwedig ChatGPT – ar gyfer aseiniadau academaidd, gan godi cwestiynau am uniondeb academaidd a'r angen am ymyriadau rhagweithiol.
-
30 Mai 2024Llwyddiant deublyg wrth i brosiect tagio pysgod y Brifysgol dderbyn £500,000 i gefnogi ei waith
Mae prosiect gan Brifysgol Abertawe i wella dealltwriaeth o ymddygiad pysgod mewn afonydd a moroedd yng Nghymru wedi cael ei hybu gan gyllid gwerth £500,000.
-
30 Mai 2024Morglawdd newydd a fydd yn gartref i fywyd morol – ymchwil wrth wraidd prosiect ecobeirianneg
Wrth i forglawdd newydd gael ei ddatblygu ym mhentref y Mwmbwls ym Mae Abertawe, mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi datgelu sut bydd ei ddyluniad yn helpu i annog bioamrywiaeth, diolch i ymchwil a chydweithredu gofalus.
-
29 Mai 2024Oluwaseun yn ceisio ysbrydoli myfyrwyr sy'n 'galon Abertawe'
Mae un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, Oluwaseun Ayodeji Osowobi, wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i fod yn arweinwyr effeithiol yn ystod ymweliad diweddar â Champws Singleton pan gymerodd amser i gwrdd â myfyrwyr a recordio podlediad i fyfyrwyr.
-
28 Mai 2024Hyrwyddwyr Treftadaeth - Archifau yn cael eu cydnabod am warchod ein gorffennol
Mae Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cadw deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, yn dathlu 10 mlynedd o statws achredu i gydnabod eu safonau uchel, o ran gofalu am gofnodion gwerthfawr a sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr a'r gymuned ehangach.
-
24 Mai 2024Dangosiad cyntaf yn y Brifysgol o dymor newydd o brosiect ffilmiau dogfen i ddathlu Gŵyr
Bydd rhan ddiweddaraf prosiect ffilmiau unigryw sy'n cynnwys myfyrwyr, staff a'r gymuned i arddangos harddwch Gŵyr yn cael ei dangosiad cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe fis nesaf.
-
24 Mai 2024Prifysgol Abertawe'n dathlu rhifyn newydd o nofel arobryn ac ymchwil ddiweddar sy'n portreadu diwydiant dur de Cymru
Yn ddiweddar, ymunodd Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Parthian Books â'r gymuned leol i archwilio llenyddiaeth a hanes Cymru a'i diwydiant dur.
-
23 Mai 2024Academydd o Brifysgol Abertawe yn datgan mewn llyfr newydd y bydd disgwyliad oes yn lleihau yn sgîl methiant polisïau iechyd
Mae llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe yn archwilio pam mae ymagweddau iechyd cyhoeddus presennol at fynd i'r afael â gordewdra wedi methu a pham mae'n annhebygol y byddant yn atal rhagor o gynyddu.
-
20 Mai 2024Cyhoeddi arlwy’r GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024
Mae Prifysgol Abertawe yn noddi pabell y GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni pan fydd yr Eisteddfod yn ymweld ag ardal Meifod ym Maldwyn rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin.
-
20 Mai 2024Ffeithiol neu ffug? Bydd canllaw newydd yn helpu barnwyr i asesu tystiolaeth ffynhonnell agored ddigidol mewn achosion cyfreithiol
Yn oes ddigidol ffugiadau dwfn a deallusrwydd artiffisial, bydd canllaw newydd amserol – sydd wedi’i lansio heddiw – yn helpu barnwyr i asesu a yw lluniau ffynhonnell agored a gyflwynir fel tystiolaeth yn ddilys, yn gredadwy ac yn ddibynadwy.
-
17 Mai 2024Arbenigwyr yn datgelu gwybodaeth newydd am ddefnyddio ymchwil flaengar i ddiogelu plant ar-lein
Mae Prosiect DRAGON+ Prifysgol Abertawe wedi dathlu ei gyfraniad newydd yn y frwydr yn erbyn meithrin perthynas amhriodol ar-lein mewn digwyddiad arbennig i gyflwyno ei fewnwelediadau ymchwil arloesol a'i awgrymiadau ac i lansio allbynnau craidd y prosiect.
-
16 Mai 2024Caleb Azumah Nelson yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe am ei nofel glodwiw Small Worlds
Mae Caleb Azumah Nelson wedi ennill y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel Small Worlds (Viking, Penguin Random House UK).
-
15 Mai 2024Complete University Guide 2025: Prifysgol Abertawe ymysg y 40 prifysgol orau yn y DU
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth nodedig yn nhablau Complete University Guide 2025, gan sicrhau'r 37ain safle yn y DU.
-
14 Mai 2024Cynhaliwyd ymarferiad digwyddiad mawr i baratoi myfyrwyr parafeddygaeth ar gyfer y dyfodol
Mae Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe wedi cynnal ymarferiad hyfforddiant digwyddiad mawr ar gyfer ei myfyrwyr parafeddygaeth yn eu blwyddyn olaf yn ardal y Ddôl ar Gampws Singleton.
-
13 Mai 2024Cysylltu Calonnau: Lansio arddangosfa gelf ymdrochol
Bydd Prifysgol Abertawe’n cydweithredu â'r Human Milk Foundation (IMF) a'r artist portreadau, Lynne Pearce, i lansio'r arddangosfa gelf ymdrochol.
-
7 Mai 2024Ymchwilwyr yn darganfod parth sy'n gweddu i'r dim i alluogi salamandrau i aros yn ifanc am byth
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi meithrin dealltwriaeth esblygiadol o ffenomenon hynod ddiddorol neoteni ymysg salamandrau tyrchol. Mae neoteni, lle mae organebau yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol wrth gadw nodweddion plentynnaidd, wedi bod yn destun chwilfrydedd ym maes bioleg o ganlyniad i'w strategaeth ddatblygiadol anarferol.
-
7 Mai 2024Prifysgol Abertawe'n torri tir newydd drwy lansio Canolfan Ymchwil i Gamblo Milwrol
Mae Prifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Anglia Ruskin, wedi sefydlu'r ganolfan gyntaf yn y byd sy'n ymroddedig i ymchwil ryngddisgyblaethol i broblemau sy'n ymwneud â gamblo yn y gymuned filwrol.
-
7 Mai 2024Podlediad Archwilio Problemau Byd-eang: Lansio cyfres newydd
A allwn ymddiried mewn gwleidyddion? Sut rydym yn sicrhau diogelwch bwyd byd-eang? Pwy sy'n gymwys i gystadlu mewn chwaraeon elît? Dyma'r cwestiynau sy'n cael eu hateb gan academyddion o Brifysgol Abertawe yng nghyfres nesaf y podlediad ymchwil Archwilio Problemau Byd-eang.
-
6 Mai 2024Bionema, cwmni deillio o Abertawe, yn ennill Gwobr Mentergarwch y Brenin am ymdrin yn wyrddach â phlâu cnydau
Mae Gwobrau Mentergarwch y Brenin, y gydnabyddiaeth fwyaf i fusnesau yn y DU, wedi cyhoeddi bod Bionema Group Ltd, cwmni deillio o Brifysgol Abertawe, wedi ennill y wobr uchel ei bri yn y categori Arloesedd.
-
2 Mai 2024Astudiaeth newydd i archwilio a all atchwanegion omega-3 roi hwb i ddatblygiad ymennydd plant
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n archwilio'r effaith y gall atchwanegion omega-3 ei chael ar ymddygiad, hwyliau a lles meddyliol plant, fel rhan o astudiaeth arloesol â goblygiadau ar gyfer iechyd ac addysg.
-
30 Ebrill 2024Ymchwil yn y Gymuned: Archwilio hunaniaethau rhywedd a diwylliant hanesyddol pobl anabl
Bydd tri academydd o Brifysgol Abertawe yn cymryd rhan yn y ddwy sgwrs ddiweddaraf mewn cyfres arbennig sydd â nod o gyflwyno ymchwil i'r gymuned.
-
30 Ebrill 2024Mae gwarchod treftadaeth ddiwylliannol mewn ardaloedd gwrthdaro yn fater dyngarol - rôl Abertawe mewn ffilmiau newydd i hyfforddi sefydliadau cymorth
Bydd cyfres o ffilmiau byr newydd sy’n cynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe yn helpu gweithwyr cymorth i ddeall sut gall gwarchod treftadaeth ddiwylliannol yn ystod gwrthdaro fod yn fater dyngarol hollbwysig, gan ei fod yn atgyfnerthu pobl mewn sefyllfaoedd anodd.
-
29 Ebrill 2024Cystadleuaeth Big Pitch Prifysgol Abertawe yn cefnogi busnesau newydd creadigol myfyrwyr
Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi cael cyfle i ddatblygu eu syniadau busnes arloesol trwy ei Chystadleuaeth Big Pitch, a noddir gan Santander Universities.
-
25 Ebrill 2024Mae myfyrwyr yn rhagnodi gwirfoddoli i gefnogi eu gyrfaoedd meddygol
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi rhoi hwb i'w huchelgeisiau i fod yn feddygon trwy wirfoddoli yn Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys.
-
24 Ebrill 2024Mae sganiau MRI manwl uchel yn helpu radiotherapi i dargedu tiwmorau yn fwy cywir
Mae pobl sy'n cael triniaeth canser yn Abertawe bellach yn elwa ar radiotherapi llawer mwy wedi'i dargedu - sy'n bosibl oherwydd rhoddion elusennol.
-
23 Ebrill 2024Academydd o Brifysgol Abertawe wedi'i benodi'n Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol i Sefydliad Alan Turing
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi'i benodi'n Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol o fewn y rhaglen Innovate UK BridgeAI yn Sefydliad Alan Turing.
-
23 Ebrill 2024Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n cyhoeddi pedwar Cymrawd newydd o Brifysgol Abertawe
Mae pedwar academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith aelodau newydd Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
-
22 Ebrill 2024Cydweithrediad rhyngwladol newydd â'r nod o atal mathau ffliw pandemig
Mae Prifysgol Abertawe'n bartner mewn cydweithrediad rhyngwladol newydd i ddatblygu ffyrdd gwell o atal ffliw pandemig a diogelu iechyd byd-eang.
-
22 Ebrill 2024Icon Creative Design i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru
Bydd Icon Creative Design, asiantaeth ddylunio o Gymru, yn noddi Prifysgol Abertawe eto yn Varsity Cymru eleni.
-
18 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n helpu i gynnwys y gymuned drwy ddarparu mynediad am ddim i'r llyfrgell ar y campws
Mae Prifysgol Abertawe wedi adnewyddu ei hymroddiad i'r Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd a bydd yn parhau i gynnig mynediad am ddim at addysg a gwybodaeth o safon i'r gymuned leol drwy ei llyfrgelloedd.
-
18 Ebrill 2024UNESCO yn dyfarnu Cadair uchel ei bri i Athro o Brifysgol Abertawe
Mae UNESCO wedi dyfarnu Cadair mewn Technolegau Ynni Cynaliadwy i'r Athro Matthew Davies, arweinydd Ffotocemeg Gymhwysol a’r Economi Gylchol yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe.
-
17 Ebrill 2024Ymgyrch yn amlygu llwyddiant myfyrwyr a oedd y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol
Mae llwyddiant anhygoel myfyrwyr megis Caitlin Tanner, a oedd y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol, yn cael ei amlygu mewn ymgyrch genedlaethol newydd a arweinir gan Universities UK.
-
17 Ebrill 2024Mae barn athletwyr ar gynhwysiant trawsryweddol mewn chwaraeon elît yn amrywio'n fawr fesul camp a lefel gystadlu
Mae astudiaeth newydd yn dangos bod y mwyafrif o athletwyr benywaidd (58%) yn cefnogi categoreiddio yn ôl rhyw biolegol, yn hytrach na hunaniaeth rhywedd, ond mae safbwyntiau'n amrywio yn ôl y cyd-destun chwaraeon.
-
16 Ebrill 2024Bydd ysgoloriaethau newydd yn helpu i ddenu myfyrwyr ymchwil tramor i Brifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio ysgoloriaethau mewn amrywiaeth eang o bynciau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig tramor ar lefel PhD dramor sy'n cyflwyno ceisiadau i ddechrau astudio ym mis Medi 2024 ac sy'n gallu dangos cyflawniad academaidd rhagorol.
-
12 Ebrill 2024Mae dewis diodydd llawn siwgr yn hytrach na sudd ffrwythau ar gyfer plant bach yn gysylltiedig â’r risg o ordewdra pan fyddant yn oedolion
Gall yfed diodydd sydd wedi’u melysu â siwgr yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf yn ystod plentyndod fod yn gysylltiedig â phatrymau deiet gwael sy’n cynyddu’r risg o ordewdra’n ddiweddarach mewn bywyd, yn ôl astudiaeth newydd gan Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe.
-
11 Ebrill 2024Ymchwil newydd yn dangos bod arferion cysgu ceirw newydd-anedig yr un mor arbennig â babanod newydd-anedig
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod ceirw braenar newydd-anedig yn wahanol o ran patrymau cysgu a chyfradd datblygiad o enedigaeth ar sail unigol, fel y gwelwn mewn babanod newydd-anedig, yn yr astudiaeth gyntaf o'i bath gan Brifysgol y Frenhines Belfast.
-
11 Ebrill 2024SWITCH-On Skills: Hyfforddiant am ddim i wella sgiliau'r gweithlu dur er mwyn trawsnewid i sero net
Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig platfform hyfforddiant ar-lein am ddim i wella sgiliau'r genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y diwydiant dur. Gall pobl sy'n byw neu'n gweithio yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fanteisio ar y cyrsiau.
-
10 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n un o'r prifysgolion gorau yn y byd ar gyfer 25 o bynciau
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei pherfformiad gorau erioed mewn tabl flaenllaw o'r prifysgolion gorau'n fyd-eang yn ôl pwnc am y trydydd flwyddyn yn olynol.
-
9 Ebrill 2024Abertawe'n croesawu arweinwyr prifysgolion o bob rhan o Ewrop i gynhadledd ryngwladol o bwys
Bydd arweinwyr prifysgolion o wledydd ym mhob rhan o Ewrop yn dod ynghyd yn Abertawe o 11 tan 12 Ebrill am gynhadledd flynyddol Cymdeithas Prifysgolion Ewrop.
-
9 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n cefnogi rhaglen addysg arloesol ynghylch newid yn yr hinsawdd
Mae Prifysgol Abertawe wedi gwneud cyfraniad allweddol at helpu Abertawe i gyflwyno ‘coed hylifol’ i bob ysgol gynradd – y ddinas gyntaf yn y DU i wneud hynny – gan addysgu disgyblion ynghylch newid yn yr hinsawdd a chreu amgylchedd dysgu iachach.
-
8 Ebrill 2024Graddedigion awtistig 'yn un o'r grwpiau lleiaf tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig'
Mae ymchwil newydd yn dangos y gallai dyblu'r gyfradd cyflogi pobl awtistig - sydd ar hyn o bryd tua hanner cyfradd cyflogaeth pobl niwronodweddiadol - hybu'r economi o hyd at £1.5 biliwn.
-
4 Ebrill 2024Prifysgol Abertawe'n ennill £2m i ymchwilio i famau yng Nghymru a newid yn yr hinsawdd
Dyfarnwyd mwy na £2m o gyllid ymchwil i Brifysgol Abertawe i ymchwilio i effaith newid yn yr hinsawdd ar fenywod beichiog.
-
4 Ebrill 2024Syniad dyfeiswyr sy'n astudio yn Abertawe am ddŵr yfed diogel yn cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth ddylunio ryngwladol
Cyrhaeddodd tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi llunio system hidlo i wneud dŵr afonydd yn ddiogel i'w yfed rownd gynderfynol Ewropeaidd cystadleuaeth ddylunio fyd-eang.
-
4 Ebrill 2024Technocamps yn rhoi sylw i fenywod sy'n ysbrydoli mewn digwyddiad blynyddol i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Roedd y sbotolau ar fenywod sy'n ysbrydoli mewn cinio mawreddog yn Abertawe a drefnwyd gan Technocamps, rhaglen sgiliau Cymru gyfan, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024.
-
3 Ebrill 2024Astudiaeth yn amlygu’r sgiliau cadarnhaol sy'n gysylltiedig â chyflyrau niwroddatblygiadol
Yn ôl ymchwil newydd, dylid dathlu'r amrywiaeth eang o sgiliau sy'n cael eu harddangos gan bobl sydd â chyflyrau megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), dyslecsia ac awtistiaeth, er mwyn helpu i leihau stigma a newid disgwyliadau cymdeithas.
-
27 Mawrth 2024Prifysgol Abertawe'n datblygu arweinwyr gofal iechyd y dyfodol
Mae Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr (SLA) Prifysgol Abertawe wedi croesawu grŵp newydd o fyfyrwyr gofal iechyd i'w rhaglen arweinyddiaeth, gan gefnogi eu gallu i ddarparu gofal o safon i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol.
-
26 Mawrth 2024Arolwg yn datgelu lefelau o ddiogelwch haul ffurfiol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
Gallai ysgolion cynradd yng Nghymru wneud mwy i helpu i ddiogelu pobl ifanc rhag peryglon dod i gysylltiad â'r haul, yn ôl astudiaeth newydd.
-
25 Mawrth 2024Penodi academydd o Brifysgol Abertawe'n Gadeirydd Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Annibynnol newydd Panel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS.
-
22 Mawrth 2024Academyddion o Abertawe'n cael grant Horizon Ewrop gwerth €480,000 i gefnogi prosiect ymchwil ac arloesi newydd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn grant newydd gan Horizon Ewrop i roi'r genhedlaeth nesaf o asesiadau peryglon a risgiau cemegolion a deunyddiau newydd ar waith, gan leihau'r angen am brofi ar anifeiliaid wrth ddiogelu iechyd dynol.
-
21 Mawrth 2024Oriel Science Prifysgol Abertawe'n dathlu prosiect arloesol ar y cyd ym maes Rhagnodi Cymdeithasol
Mae Oriel Science, canolfan arddangosiadau cyhoeddus arloesol Prifysgol Abertawe, wedi bod yn helpu cleifion ag anaf i'r ymennydd sy'n cael triniaeth adsefydlu i wella eu hiechyd a'u lles drwy ei phrosiect Rhagnodi Cymdeithasol cyntaf.
-
21 Mawrth 2024Cyhoeddwyr annibynnol yn achub y blaen ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2024
Mae'r rhestr fer ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei datgelu. Mae’n cynnwys chwe llais eithriadol, datblygol sy'n defnyddio dyfeisgarwch ffurfiol wrth ysgrifennu er mwyn archwilio themâu tragwyddol galar, hunaniaeth a theulu.
-
19 Mawrth 2024Abertawe'n croesawu ymweliad gan uwch-arweinwyr o brifysgol bartner yng Nghanada
Mae arweinwyr o un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Canada, sydd wedi bod yn cyfnewid myfyrwyr ag Abertawe fel rhan o bartneriaeth ffyniannus am dros 30 o flynyddoedd, wedi bod yn ymweld â'r campws i ddatblygu cysylltiadau pellach.
-
19 Mawrth 2024Astudiaeth newydd yn rhoi cipolwg ar y nifer sydd wedi manteisio ar frechlynnau Covid ymhlith plant a phobl ifanc
Roedd nifer y bobl sydd wedi cael brechlyn Covid-19 ymhlith plant a phobl ifanc yn isel ar draws y pedair gwlad, o'i gymharu â grwpiau oedran eraill, yn ôl yr astudiaeth ymchwil gyntaf i ystyried data gan bedair gwlad y DU.
-
18 Mawrth 2024Abertawe yn yr 11eg safle yn y DU am brofiad gwaith i fyfyrwyr
Mae Prifysgol Abertawe yn yr 11eg safle yn y DU yn Nhabl Prifysgolion Gorau am Brofiad Gwaith RateMyPlacement 2024/25, gan roi llwyfan i'r 50 prifysgol orau yn y DU sy'n adnabyddus am eu hymrwymiad i gynnig cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr.
-
14 Mawrth 2024Astudiaeth yn dangos bod cawodydd mwy pwerus yn well i'r amgylchedd
Gallai mwynhau cawod fwy pwerus yn y bore eich helpu i leihau allyriadau carbon eich aelwyd, yn ôl ymchwilwyr.
-
14 Mawrth 2024Gwaith adnewyddu gwerth £1.2m ar labordai yn rhoi hwb mawr i ymchwil i'r biowyddorau a daearyddiaeth
Bydd gwaith adnewyddu gwerth £1.2m ar labordai ym Mhrifysgol Abertawe sydd newydd ei gwblhau'n rhoi hwb enfawr i ymchwil i'r biowyddorau a daearyddiaeth.
-
6 Mawrth 2024Effaith COVID ar bobl ag epilepsi: cyfradd uwch o farwolaethau a chyfnodau yn yr ysbyty, yn ôl ymchwil newydd
Roedd pobl ag epilepsi yn fwy tebygol o dreulio cyfnodau yn yr ysbyty o ganlyniad i COVID ac o farw o COVID yn ystod 15 mis cyntaf y pandemig, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caeredin.
-
5 Mawrth 2024Anne Boden, sefydlydd Starling Bank, yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid benywaidd mewn digwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe
Rhannodd Anne Boden, MBE, sefydlydd Starling Bank, sylwadau amhrisiadwy ar oresgyn yr heriau sy'n wynebu entrepreneuriaid benywaidd yn ystod sesiwn ddifyr yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin Prifysgol Abertawe ddydd Llun 4 Mawrth.
-
4 Mawrth 2024Academydd o Abertawe wedi'i enwi'n un o gymrodyr yr Academy of Social Sciences
Mae'r Academy of Social Sciences wedi croesawu 41 o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw i'w chymrodoriaeth uchel ei bri – gan gynnwys yr Athro Stuart Macdonald o Brifysgol Abertawe.
-
1 Mawrth 2024Gwaith celf yr archaeolegydd Howard Carter bellach yn cael ei arddangos yn y Ganolfan Eifftaidd
Mae paentiad prin gan Howard Carter, yr archaeolegydd uchel ei fri a ddarganfu feddrod Tutankhamun, bellach yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe.
-
1 Mawrth 2024Tri academydd o Abertawe'n cael eu henwi’n gymrodyr Turing newydd i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol
Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith carfan newydd o 51 o gymrodyr Turing sydd wedi ymuno â Sefydliad Alan Turing o brifysgolion a sefydliadau ymchwil ledled y DU.
-
29 Chwefror 2024Metel sgrap gwell ar gyfer economi wyrddach: arbenigedd Abertawe wrth wraidd canolfan ymchwil newydd a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig
Bydd arbenigedd Abertawe mewn ailgylchu'n well drwy atgyfnerthu ansawdd metel sgrap wrth wraidd canolfan newydd, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn ymchwilio i sut gallwn ailddefnyddio adnoddau amhrisiadwy – o fetelau i fwynau – yn ehangach.
-
29 Chwefror 2024Lansio'r clinig cyntaf yng Nghymru dan arweiniad prifysgol sy'n rhoi cyngor ar anafiadau personol
Mae Clinig y Gyfraith Abertawe wedi lansio'r clinig pwrpasol cyntaf yng Nghymru sy'n rhoi cyngor ar anafiadau personol mewn cydweithrediad â Hodge Jones & Allen, cwmni arobryn o Lundain.
-
27 Chwefror 2024Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe’n llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i’w helpu i weithio’n agosach ar feysydd hanfodol o ddiddordeb cyffredin fel gweithio’n effeithiol gyda diwydiant a chefnogi datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer y rhanbarth.
-
26 Chwefror 2024Astudiaeth newydd yn datgelu pwysigrwydd ecosystemau dŵr dwfn i rywogaethau mewn perygl
Gan ddefnyddio data olrhain, mae astudiaeth newydd wedi datgelu, am y tro cyntaf, fod môr-grwbanod gwalchbig yn bwydo ar safleoedd rîff sy’n llawer dyfnach nag y credid o’r blaen.
-
22 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am waith banc data o bwys byd-eang
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod gwaith ei banc data o fri rhyngwladol, SAIL, yn yr Uned Gwyddor Data Poblogaethau wrth ddefnyddio data cyhoeddus i wella iechyd a lles poblogaethau.
-
21 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi partneriaeth am sawl blwyddyn â Hoci Cymru
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi partneriaeth arloesol â Hoci Cymru, y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer hoci yng Nghymru.
-
19 Chwefror 2024Mae angen cymorth iechyd meddwl ar anweddogion anwirfoddol (‘incels’)l yn hytrach nag ymyrraeth gwrthderfysgaeth, yn ôl astudiaeth fwyaf y byd ohonynt
Mae astudiaeth arloesol wedi darganfod y berthynas gymhleth rhwng iechyd meddwl, meddylfryd byd-eang cyffredin a rhwydweithio cymdeithasol unigolion sy'n anweddog yn anwirfoddol ('incels').
-
15 Chwefror 2024Astudiaeth newydd yn dadansoddi'r cysylltiad rhwng cymhareb bysedd a defnydd o ocsigen mewn pêl-droedwyr
Mae effeithlonrwydd y cyflenwad ocsigen i feinweoedd yn ffactor o ran difrifoldeb afiechydon pwysig fel Covid-19 a chyflyrau'r galon.
-
15 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe yn cyflwyno llety tymor byr ar y safle i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr
Fel rhan o ddarpariaeth gampws Prifysgol Abertawe, mae'n cynnig llety byr dymor ar y safle i staff, myfyrwyr a chydweithwyr sy'n ymweld.
-
14 Chwefror 2024Prifysgol Abertawe'n helpu i weithgynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy'n lleol yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel
Mae cydweithrediad newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n ceisio helpu gwledydd yn Affrica, Asia a rhanbarth Cefnfor India a'r Môr Tawel i gynhyrchu deunyddiau ffotofoltäig solar cynaliadwy'n lleol ar raddfa fwy.
-
13 Chwefror 2024Eisteddfod Ryng-golegol yn dychwelyd i Abertawe
Mae disgwyl i dros 500 o fyfyrwyr Cymraeg o brifysgolion Cymru heidio i Abertawe ar 1-2 Mawrth wrth i’r Eisteddfod Ryng-golegol ail-ymweld â Phrifysgol Abertawe am y tro cyntaf ers 2019.
-
9 Chwefror 2024Arbenigwyr yn parhau i weithio i helpu i lywio ffordd iachach o fyw ledled Cymru
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi amlygu pwysigrwydd gweithgarwch corfforol i bobl o bob oedran.
-
8 Chwefror 2024Gwyddonwyr yn arwain y ffordd i ddatblygu cadwraeth ac adnewyddu bywyd y môr hanfodol
Mewn astudiaeth newydd, mae tîm rhyngwladol o academyddion wedi nodi'r cwestiynau pwysicaf y mae'n rhaid eu hateb er mwyn datblygu gwaith cadwraeth ac adfer dolydd morwellt yn Ewrop.
-
7 Chwefror 2024Gallai pwerau prawf datganoledig a 'dull cryfach seiliedig ar dystiolaeth' wella diogelwch cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol
Mae grŵp o academyddion o brifysgolion Cymru, ynghyd â swyddogion prawf presennol a chyn-swyddogion prawf, wedi cyhoeddi syniadau ar ddyfodol y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru.
-
7 Chwefror 2024Athro'n derbyn £2.2m i archwilio dyfodol digidol i bawb
Mae'r Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) wedi dyfarnu cymrodoriaeth bersonol uchel ei bri dros bum mlynedd i'r Athro Matt Jones o Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe i ddilyn agenda fentrus ac uchelgeisiol i ymchwilio i ddeallusrwydd artiffisial.
-
5 Chwefror 2024Prosiect cwiltiau arloesol yn dod â mamau newydd at ei gilydd i rannu profiadau bwydo
Mae prosiect unigryw dan arweiniad Prifysgol Abertawe'n cofnodi ac yn rhannu teimladau cymhleth mamau newydd am fwydo eu babanod.
-
31 Ionawr 2024Gradd hyblyg newydd i helpu myfyrwyr i gynnwys astudiaethau nyrsio o amgylch eu bywydau
Mae Prifysgol Abertawe'n lansio gradd hyblyg newydd a fydd yn helpu nyrsys y dyfodol i gydbwyso eu hastudiaethau â gofynion eu bywydau bob dydd.
-
30 Ionawr 2024O'r stryd i ystafell y bwrdd: Cwrs newydd i ddysgu sgiliau busnes i bobl ddifreintiedig
Mae Prifysgol Abertawe ar fin cynnal cwrs newydd unigryw gyda'r nod o gael y gorau o bobl ddifreintiedig a'u hysbrydoli i ddilyn llwybr gwahanol mewn bywyd.
-
29 Ionawr 2024Myfyriwr sy'n gwirfoddoli fel arweinydd sgowtiaid lleol yn cael ei hanrhydeddu â Gwobr Gymdogol
Mae myfyriwr sy'n gwirfoddoli gyda grŵp sgowtiaid lleol yn Abertawe wedi derbyn Gwobr Gymdogol am ei chyfraniad i'r gymuned, ar ôl cael ei henwebu gan arweinydd y sgowtiaid.
-
25 Ionawr 2024Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe'n datgelu rhestr hir ryngwladol 2024
Mae'r rhestr hir ryngwladol ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi.
-
24 Ionawr 2024Llyfryn newydd yn codi pryderon ynghylch bygythiad cyfrifiadurol i ddiogelwch cleifion
Ar ôl i sgandal Horizon Swyddfa'r Post amlygu natur annibynadwy tystiolaeth gyfrifiadurol, mae llyfryn newydd wedi cael ei gyhoeddi sy'n rhybuddio am faterion TG a allai fod yn niweidiol ym maes gofal iechyd.
-
23 Ionawr 2024StreetSnap: Lansio ap cyntaf o'i fath i feithrin gwydnwch y gymuned i gasineb
Mae'r gwyddonydd cymdeithasol blaenllaw o Brifysgol Abertawe Dr Lella Nouri a'i thîm wedi datblygu ap newydd sy'n chwyldroi'r ffordd y gall cymunedau olrhain ac adrodd am graffiti casineb gyda'r nod o ddeall tensiynau mewn cymuned a llunio rhaglenni ymyrraeth er mwyn rhoi diwedd ar y problemau.
-
18 Ionawr 2024Arbenigwr i ymchwilio i hanes brechiadau yn erbyn TB fel rhan o brosiect ymchwil gofal iechyd mawr
Bydd hanesydd o Brifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect sydd am ddefnyddio arbenigedd yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol er mwyn helpu i gynnwys lleisiau cleifion mewn ymchwil ac ymarfer gofal iechyd.
-
17 Ionawr 2024Arbenigwr o Abertawe wedi'i benodi'n Brif Gynghorydd Gwyddonol yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
Mae Llywodraeth y DU wedi penodi arbenigwr mewn polisi digidol o Abertawe'n Brif Gynghorydd Gwyddonol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, er mwyn rhoi arweinyddiaeth wyddonol, goruchwylio blaenoriaethau ymchwil a chynghori gweinidogion a swyddogion.
-
17 Ionawr 2024Mynd i'r afael â chynnwys terfysgol ar-lein: arbenigwyr o Abertawe'n ysgrifennu adroddiad newydd ar y cyd am botensial a pheryglon deallusrwydd artiffisial
Gall deallusrwydd artiffisial wneud cyfraniad hollbwysig at nodi cynnwys terfysgol ar-lein, ond mae mewnbwn gan bobl yn dal i fod yn hanfodol er mwyn diogelu hawliau dynol ac atal grwpiau cyfreithlon rhag cael eu targedu ar gam, yn ôl adroddiad newydd gan dîm sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
-
10 Ionawr 2024Cyllid newydd i helpu busnesau Abertawe adeiladu dyfodol glanach
Gall busnesau a sefydliadau'r trydydd sector yn Abertawe gael mynediad at gymorth sydd wedi'i ariannu'n llawn ac sydd wedi’i fwriadu i'w helpu i sbarduno arloesedd a hybu cynaliadwyedd o fis Chwefror 2024 ymlaen, diolch i gyllid newydd sydd wedi’i sicrhau gan Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC).
-
19 Rhagfyr 2023Hwb ariannol gwerth £10,000 yn helpu myfyrwyr meddygaeth i gael profiad o hyfforddiant hanfodol
Mae myfyrwyr meddygaeth yn Abertawe wedi derbyn cymorth ariannol hanfodol er mwyn manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant gwerthfawr.
-
19 Rhagfyr 2023Cystadleuaeth The Big Pitch Prifysgol Abertawe'n dyfarnu mwy na £18,000 i fyfyrwyr entrepreneuraidd talentog
Dychwelodd cystadleuaeth The Big Pitch Prifysgol Abertawe'n ddiweddar am yr eildro eleni, gan gynnig cyfle i fwy byth o fyfyrwyr entrepreneuraidd addawol ddatblygu eu syniadau busnes i lefelau newydd.
-
15 Rhagfyr 2023Ymchwil newydd yn dangos y gall ymarfer corff leihau'r risg o strôc ar ôl y menopos
Gallai ymarfer corff rheolaidd leihau'r risg o strôc mewn merched ar ôl diwedd y mislif, yn ôl ymchwil newydd a wnaed yn rhannol yn Abertawe.
-
15 Rhagfyr 2023Myfyrwraig nyrsio o Abertawe’n anrhydeddu ei diweddar chwaer ac yn ysbrydoli drwy ei hymrwymiad i’r maes ar ôl graddio
Mae myfyrwraig nyrsio sy'n destun ysbrydoliaeth wedi graddio o Brifysgol Abertawe, gan gyflwyno'r cyflawniad anhygoel hwn er teyrnged i'w diweddar chwaer, a ysgrifennodd gerdyn llongyfarch twymgalon cyn ei marwolaeth drist.
-
13 Rhagfyr 2023Cyllid newydd i archwilio sut gallai deallusrwydd artiffisial frwydro yn erbyn erydu arfordirol
Mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe i sut gellid defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i fynd i'r afael â llifogydd arfordirol newydd sicrhau hwb ariannol mawr.
-
13 Rhagfyr 2023Prifysgol Abertawe yn ennill ei safle uchaf erioed am berfformiad amgylcheddol
Am y nawfed tro yn olynol, mae Prifysgol Abertawe ymhlith prifysgolion gorau'r DU ar gyfer materion amgylcheddol a moesegol, yn ôl y tabl cynghrair newydd wedi'i lunio gan People & Planet a'i gyhoeddi gan The Guardian.
-
13 Rhagfyr 2023Prifysgol Abertawe yn yr 80 uchaf yn y byd yn Nhablau Cynaliadwyedd QS
Mae Prifysgol Abertawe wedi'i dyfarnu ymhlith yr 80 uchaf yn y byd am ei heffaith amgylcheddol a chymdeithasol yn Nhablau Cynaliadwyedd y Byd blynyddol QS.
-
12 Rhagfyr 2023Astudiaeth yn dangos bod un o bob tri dyn yn barod i ystyried cael mwy nag un partner
Mae traean o ddynion yn y DU yn barod i ystyried y syniad o gael mwy nag un wraig neu gariad tymor hir, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe.
-
11 Rhagfyr 2023Prifysgol Abertawe'n agor canolfan ymchwil clefydau prin arbenigol fel rhan o fuddsoddiad gwerth £14m
Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at blatfform newydd sydd â'r nod o ddod â chryfderau'r DU wrth ymchwilio i glefydau prin ynghyd er mwyn eu deall a phennu diagnosisau a thriniaethau'n well ac yn gynt.
-
11 Rhagfyr 2023Glynne Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymuno â Phrifysgol Abertawe i lansio rhaglen cyflogadwyedd newydd
Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe wedi croesawu Glynne Jones CBE, Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i lansio ei rhaglen GO Wales newydd a chyflwyno myfyrwyr i Gyfeiriadur newydd y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.
-
7 Rhagfyr 2023Gwyddonydd o Abertawe ymhlith 75 o Gymrodyr Arweinwyr y Dyfodol newydd a gyhoeddwyd gan UKRI
Mae Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) wedi cyhoeddi y bydd 75 o'r arweinwyr ymchwil mwyaf addawol yn elwa o £101m i fynd i'r afael â materion o bwys byd-eang ac i fasnacheiddio eu harloesiadau yn y DU.
-
7 Rhagfyr 2023Astudiaeth yn datgelu sut mae ‘canolfannau clyd’ Abertawe wedi cael effaith drawiadol ar gysylltiadau cymdeithasol a lles
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe'n amlygu sut mae ‘canolfannau clyd’ Abertawe, a sefydlwyd y gaeaf diwethaf mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, wedi gwneud cyfraniad sylweddol at feithrin cysylltiadau cymdeithasol, lliniaru unigrwydd a gwella lles cyffredinol defnyddwyr.
-
4 Rhagfyr 2023Arbenigwyr yn ymuno â thîm sy'n cynnal ymchwil i sut i droi CO2 yn danwydd adnewyddadwy
Mae Prifysgol Abertawe yn bartner mewn cydweithrediad rhyngwladol newydd sbon â'r nod o ymchwilio i ffyrdd posib o droi'r carbon deuocsid sy'n cael ei allyrru gan ddiwydiannau yn danwydd adnewyddadwy.
-
4 Rhagfyr 2023Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe yn datgelu gwefan newydd
Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) yn falch o gyhoeddi lansiad ei gwefan newydd wedi’i chynllunio i fod yn hyb canolog i addysg oedolion yn yr ardal leol. Mae’r wefan hon yn rhestru ac yn cysylltu â’r amrywiaeth mawr o gyfleoedd addysgol sydd ar gael, a ddarparwyd gan gydymdrechion sefydliadau allweddol ym maes addysg oedolion.
-
4 Rhagfyr 2023Prifysgol Abertawe'n trawsnewid lleoliad myfyrwyr mewn modd ecogyfeillgar ar y cyd â Santander
Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi bod Fusion, ei lleoliad poblogaidd, yn cael ei ailagor. Dyma un o'r lleoliadau cyntaf yn y DU a drawsnewidiwyd mewn modd ecogyfeillgar fel rhan o fenter newydd gan Santander.
-
1 Rhagfyr 2023Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Effaith gyntaf erioed Navitas
Prifysgol Abertawe yw enillydd cyntaf erioed Gwobr Effaith Navitas am ei harloesedd a'i hymroddiad i greu effaith well ar yr amgylchedd.
-
29 Tachwedd 2023Prifysgol Abertawe'n rhan o Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol newydd Cymru
Mae Prifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth newydd sydd wedi sicrhau £18.5 miliwn o gyllid i hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol ar draws Cymru ar amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar gymdeithas heddiw.
-
22 Tachwedd 2023Siarter i ddatblygu arloesi mewn gofal iechyd yng Nghymru
AstraZeneca, sef prif gwmni gwyddor bywyd y Deyrnas Unedig, yw’r sefydliad diweddaraf i ymuno â siarter i hyrwyddo arloesi mewn gofal iechyd yng Nghymru.
-
21 Tachwedd 2023Prifysgol Abertawe i ddatblygu'r labordy ymchwil ac arloesi byw cyntaf yn y byd
Bydd Prifysgol Abertawe'n datblygu'r amgylchedd ymchwil ac arloesi cyntaf yn y byd sy'n defnyddio isadeiledd 5G i wella iechyd a lles y boblogaeth, wrth i gyllid gwerth £2.58m gael ei ddyfarnu i brosiect a fydd yn creu “labordy byw” yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
-
20 Tachwedd 2023National Geographic yn dewis myfyriwr bioleg amgylcheddol Abertawe i ymuno â grŵp Archwilwyr Ifanc o fri
Mae myfyrwraig bioleg amgylcheddol o Abertawe wedi cael ei dewis gan National Geographic i ymuno â'i restr o Archwilwyr Ifanc - unigolion eithriadol yn eu meysydd - ac mae newydd gyflwyno ei gwaith ymchwil ym mhencadlys y sefydliad yn Washington DC.
-
20 Tachwedd 2023Banc data o bwys byd-eang Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod y cyfraniad at wyddor data poblogaethau a wnaed gan y tîm arbenigol yn ei banc data o fri rhyngwladol, sef SAIL.
-
17 Tachwedd 2023Y Brifysgol yn cytuno ar bartneriaeth ymchwil newydd â’r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd
Mae Prifysgol Abertawe a’r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd wedi cytuno ar gydweithrediad ymchwil newydd o bwys yng nghartref y ganolfan sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn ne Cymru.
-
16 Tachwedd 2023Ymweliad Hillary a Bill Clinton ag Abertawe'n rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Bu cyn Ysgrifennydd yr Unol Daleithiau, Hillary Rodham Clinton, a'i gŵr, cyn Arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, yn rhannu eu barn am yr heriau a fydd yn wynebu arweinwyr y dyfodol gerbron cynulleidfa a lenwodd Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
-
15 Tachwedd 2023Astudiaeth fwyaf y byd o greithiau ar yr wyneb ac iechyd meddwl
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cwblhau astudiaeth fwyaf y byd o'r cysylltiad rhwng creithiau ar yr wyneb a gorbryder ac iselder.
-
14 Tachwedd 2023Darlith Zienkiewicz flynyddol Prifysgol Abertawe: sut gall gwyddoniaeth a thechnoleg drawsnewid gofal iechyd
Cyflwynir Darlith Zienkiewicz flynyddol Prifysgol Abertawe'n ddiweddarach y mis hwn, a'r siaradwr gwadd uchel ei fri fydd yr Athro Arglwydd Darzi o Denham OM KBE PC FRS, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Iechyd Byd-eang yng Ngholeg Imperial Llundain.
-
14 Tachwedd 2023Golwg cyntaf: Arteffactau o'r Hen Aifft yn dod i Gymru mewn astudiaeth newydd
Cyfle prin i Ganolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe astudio a rhoi lle i arteffactau sy'n dyddio'n ôl 6000 o flynyddoedd.
-
14 Tachwedd 2023Modiwl newydd ar ap yn rhoi cymorth ychwanegol hollbwysig i bobl â diabetes wrth ofalu am eu traed
Mae teclyn uwch-dechnoleg newydd i helpu pobl â diabetes i gadw eu traed yn iach wedi cael ei lansio i nodi Diwrnod Diabetes y Byd.
-
13 Tachwedd 2023Astudiaeth arloesol yn datgelu seicoleg canfod cariad incels
Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn The Journal of Sex Research wedi datgelu byd cymhleth pobl sy'n sengl yn anwirfoddol, gan gynnig dealltwriaeth bwysig o'r heriau y mae cymuned gynyddol o ddynion a adwaenir yn incels yn eu hwynebu.
-
10 Tachwedd 2023Bydd ymchwil i ddiabetes, mawndiroedd a chefnogi nyrsys byddar yn elwa o ddyfarniadau Cwmni’r Lifrai
Mae tri ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaeth deithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, gan eu galluogi nhw i barhau ymhellach â'u hymchwil.
-
8 Tachwedd 2023Arbenigwr blaenllaw ym maes addysg ddigidol yn ennill Medal Lovelace uchel ei bri
Bydd yr Athro Tom Crick MBE, arbenigwr adnabyddus ym maes polisi digidol o Brifysgol Abertawe, yn derbyn Medal Lovelace gan BCS yn nes ymlaen eleni, gan gydnabod ei gyfraniad sylweddol at addysg cyfrifiadureg.
-
8 Tachwedd 2023Prifysgol Abertawe'n helpu i gryfhau cysylltiadau academaidd rhwng y DU a Tsieina
Mae Prifysgol Abertawe ymhlith nifer bach o brifysgolion a wahoddwyd i ymuno â Chenhadaeth Addysg Uwch y DU i Tsieina 2023 i gryfhau cysylltiadau academaidd rhwng y ddwy wlad.
-
2 Tachwedd 2023Addysg, swyddi a gwaith yn 2035 – grŵp Cymru Sero Net yn galw am fewnbwn arbenigol
Sut olwg a allai fod ar addysg, swyddi a gwaith ledled Cymru erbyn 2035? Mae academydd o Abertawe'n gwahodd cyfraniadau i helpu gwaith grŵp arbenigol sydd am i Gymru gyrraedd y targed sero net erbyn 2035 yn hytrach na 2050.
-
2 Tachwedd 2023Dyfarniadau gan Gwmni Lifrai yn cefnogi ymchwil i iechyd plant
Cyflwynodd tri ymchwilydd i weithgarwch corfforol ac iechyd plant eu gwaith mewn cynhadledd ryngwladol fawr a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth dyfarniadau gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
-
2 Tachwedd 2023Astudiaeth yn archwilio effaith lethol unigrwydd ar bobl awtistig
Mae ymchwil newydd wedi datgelu effaith ddifrifol unigrwydd ar bobl awtistig, sy'n gwrth-ddweud y stereoteip eu bod yn osgoi meithrin perthnasoedd cymdeithasol ystyrlon.
-
1 Tachwedd 2023Dyfarnu Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi 2023 i Maisie Edwards
Maisie Edwards o Gasnewydd sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi 2023, ac mi fydd hi’n defnyddio’r Ysgoloriaeth i ymchwilio i’r defnydd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau iechyd a gofal.
-
1 Tachwedd 2023Academyddion o Brifysgol Abertawe'n galw am sefydlu gwasanaethau trin gamblo niweidiol yn y GIG ar frys yng Nghymru
Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn Frontiers in Psychiatry, mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi galw am sefydlu gwasanaethau trin gamblo niweidiol yn y GIG yng Nghymru, gan amlygu bod diffyg parhaus gwasanaethau triniaeth yn annerbyniol a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef ar frys.
-
31 Hydref 2023Iaith, diwylliant, teisennau caws: myfyrwyr wrth eu boddau i gael rhagflas ar flwyddyn dramor drwy ymweld â'r Almaen
Mae dwy fyfyrwraig o Abertawe wedi gloywi eu sgiliau Almaeneg a meithrin dealltwriaeth fwy cyfoethog o'r Almaen – o'i marchnadoedd enwog i'w theisennau blasus – ar ymweliadau astudio â'r wlad, a ariannwyd gan ysgoloriaethau a ddyfarnwyd iddynt drwy gymorth yr adran Almaeneg.
-
30 Hydref 2023Prifysgol Abertawe yn ymuno â Rhwydwaith Prifysgolion Turing
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno â Rhwydwaith Prifysgolion Turing o fri i gydnabod ei hymchwil a'i haddysgu ym maes AI a gwyddor data.
-
30 Hydref 2023Ffair Yrfaoedd flynyddol Prifysgol Abertawe'n cysylltu miloedd o fyfyrwyr â chyflogwyr o fri
Croesawodd Prifysgol Abertawe 60 o gwmnïau a sefydliadau uchel eu bri i'w Ffair Yrfaoedd yn ddiweddar, gan helpu mwy na 2,300 o fyfyrwyr i gael mynediad at y farchnad swyddi a hybu eu cyflogadwyedd.
-
27 Hydref 2023Cydweithrediad newydd i gynyddu sgiliau sero net yng Nghastell-nedd Port Talbot
Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn £992,312 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i sefydlu prosiect SWITCH-On Skills i fynd i'r afael â heriau Datgarboneiddio, Gweithgynhyrchu Sero Net, Swyddi Gwyrdd a Digidol sy’n galw am sgiliau aml-lefel.
-
27 Hydref 2023Cynlluniau i ddatblygu Clinig Menopos newydd wedi'u cyhoeddi yn ystod digwyddiad arbennig Prifysgol Abertawe
Cynhaliodd Prifysgol Abertawe ddigwyddiad yn ddiweddar a amlygodd sut mae'r Brifysgol yn mynd i'r afael â menopos, gan gynnwys cyhoeddiad arbennig am lansio ‘caffi menopos’ a chynlluniau i ddatblygu ei Chlinig Menopos ei hun.
-
26 Hydref 2023Tri academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn Medalau gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn un o fedalau blynyddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.
-
23 Hydref 2023Prifysgolion yn croesawu cynrychiolwyr Malaysiaidd i feithrin partneriaethau rhyngwladol
Mae arweinwyr o brifysgolion ym Malaysia wedi cael cipolwg unigryw ar yr hyn a gynigir gan addysg uwch yng Nghymru yn ystod ymweliad â Chymru dros chwe diwrnod.
-
18 Hydref 2023Prifysgolion Cymru yn arddangos ymchwil ac arloesed o'r radd flaenaf
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno â digwyddiad arddangos sydd wedi tynnu sylw at ymchwil gan Brifysgolion Cymru, sy'n cael effaith mewn cymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.
-
18 Hydref 2023Llyfrgell Glowyr De Cymru'n dathlu 50 mlynedd o dreftadaeth ddiwydiannol y rhanbarth
Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru'n dathlu hanner canrif o gasglu a chadw atgofion pwysig gorffennol diwydiannol balch y rhanbarth.
-
17 Hydref 2023Entrepreneuriaid y dyfodol yn cael help llaw diolch i bartneriaeth newydd
Mae Prifysgol Abertawe'n helpu i annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.
-
17 Hydref 2023Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2023
Bydd arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n cydweithio â phrifysgolion Bangor a Chaerdydd wrth gynnig diwrnod o ddigwyddiadau anffurfiol, hwyl a rhyngweithiol am les i Gymru gyfan yng Ngŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2023.
-
17 Hydref 2023Anrhydedd i ddarlithydd o Brifysgol Abertawe am ei chyfraniad at iechyd meddwl a lles yng Nghymru
Mae Dr Zoe John, darlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill gwobr Unigolyn Llawn Ysbrydoliaeth yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru eleni.
-
16 Hydref 2023Abertawe yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i ddatgelu polisi cadw hawliau i rymuso ymchwilwyr
Prifysgol Abertawe yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i lansio Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil newydd sy'n ymgorffori egwyddor cadw hawliau, gan sicrhau bod ymchwil a gynhelir yn y Brifysgol drwy gyllid cyhoeddus yn hygyrch, yn agored ac yn gynaliadwy.
-
13 Hydref 2023Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe'n dathlu 25 mlynedd gyda digwyddiad arbennig i nodi'r achlysur
Yn ddiweddar, cynhaliodd y Ganolfan Eifftaidd ddigwyddiad arbennig i ddathlu 25 mlynedd ers i'w drysau agor am y tro cyntaf.
-
11 Hydref 2023Rhowch eich troed gorau ymlaen ac ymunwch â thaith gerdded elusennol ar y traeth
Mae Prifysgol Abertawe yn annog gwirfoddolwyr i ddod i helpu gyda'i digwyddiad codi arian blynyddol i helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad.
-
10 Hydref 2023Prifysgol Abertawe'n dathlu adnewyddu ei phartneriaeth â Phrifysgolion Santander
Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi ei bod yn estyn ei phartneriaeth â Phrifysgolion Santander am dair blynedd arall, gan addo rhagor o gyfleoedd ac adenoidal amhrisiadwy i fyfyrwyr ar eu taith tuag at lwyddiant yn eu gyrfaoedd.
-
10 Hydref 2023Dyfarniad newydd i annog prosiect treftadaeth
Mae Prifysgol Abertawe yn un o bum sefydliad addysg uwch ledled y DU i dderbyn dyfarniad gan raglen Cymunedau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) i gynnal Cynllun Peilot Ymarferydd Arloesi Cymunedol (CIP), ar gyfer prosiect a fydd yn archwilio ffyrdd o adfywio safleoedd treftadaeth yn y rhanbarth a fydd o fudd i gymunedau nawr ac yn y dyfodol.
-
9 Hydref 2023Grant gwerth £5 miliwn i gyflymu'r SWITCH i Adeiladau Sero Net
Mae cartrefi ac adeiladau yn ne Cymru sy'n garbon isel ac sydd â chostau ynni rhatach gam yn nes diolch i grant gwerth £5 miliwn ar gyfer prosiect Cymreig.
-
6 Hydref 2023Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn cydnabod arbenigwr polisi cyffuriau
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad hirsefydlog at y gwyddorau cymdeithasol.
-
5 Hydref 2023Astudiaeth ar farn y cyhoedd yn ystod pandemig Covid yn datgelu canfyddiadau allweddol a gwersi ar gyfer y dyfodol
Mae astudiaeth gynhwysfawr o Farn y Cyhoedd ar Bandemig Covid-19 (PVCOVID) wedi datgelu canfyddiadau allweddol a mewnwelediadau gwerthfawr sy'n taflu goleuni ar brofiadau'r cyhoedd yn ystod y pandemig.
-
4 Hydref 2023Astudiaeth newydd yn mynegi pryderon am beiriannau paratoi llaeth fformiwla i fabanod
Yn ôl astudiaeth gan academyddion Prifysgol Abertawe i ddiogelwch paratoi llaeth fformiwla i fabanod, roedd yn ymddangos nad oedd 85% o'r 74 peiriant paratoi fformiwla i fabanod a brofwyd gan rieni yng nghartrefi'r DU yn cynhesu dŵr a fyddai'n ddigon poeth i ladd pob bacteria niweidiol mewn fformiwla i fabanod, a gallai hyn beri risg ddifrifol i iechyd babanod.
-
3 Hydref 2023Cydweithrediad ALPHA yn CERN yn cadarnhau am y tro cyntaf bod gwrthfater yn disgyn yn yr un modd â mater
Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe, sy’n aelodau arweiniol o gydweithrediad ALPHA (Cyfarpar Ffiseg Laser Gwrth-hydrogen) yn CERN, wedi dangos, am y tro cyntaf, fod atomau gwrth-hydrogen yn disgyn i'r Ddaear yn yr un modd ag atomau mater.
-
27 Medi 2023Dull newydd ar gyfer puro dŵr yfed y gellid ei ddefnyddio mewn ardaloedd trychineb
Mae dull newydd o droi dŵr y môr yn ddŵr yfed, a allai fod yn ddefnyddiol mewn ardaloedd trychineb lle mae pŵer trydanol cyfyngedig, wedi'i ddatblygu gan dîm o wyddonwyr, gan gynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe.
-
26 Medi 2023Nofio Cymru'n partneru â Phrifysgol Abertawe
Mae Nofio Cymru, Corff Llywodraethu Gweithgareddau Dyfrol Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi partneriaeth nodedig â Phrifysgol Abertawe.
-
25 Medi 2023Myfyrwyr Camu Ymlaen yn cael eu gwobrwyo mewn seremoni raddio arbennig
Mae mwy na 100 o bobl ifanc wedi dod ynghyd â'u teuluoedd a'u ffrindiau i ddathlu graddio o Raglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe mewn seremoni arbennig iawn yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
-
22 Medi 2023Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd yn ystod hanner tymor
Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd ar ôl hir ymaros, gan argoeli i fod yn daith wefreiddiol i fyd difyr gwyddoniaeth yn ystod hanner tymor mis Hydref.
-
21 Medi 2023Matthew G Rees yn ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023
Mae'r awdur Matthew G Rees wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023 am ei stori Harvest.
-
18 Medi 2023Disgyblion o Abertawe’n cael cipolwg ar ochr wyddonol Cwpan Rygbi’r Byd
Mae disgyblion ysgol wedi cael cipolwg unigryw ar ochr wyddonol Cwpan Rygbi'r Byd mewn digwyddiad allgymorth arbennig a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe.
-
14 Medi 2023Abertawe i arwain y ffordd yn y DU wrth arloesi cynhyrchion naturiol
Bydd Abertawe yn arwain y ffordd yn y DU yn y sector ymchwil a menter o ran cynhyrchion naturiol, gan fod y Brifysgol wedi llwyddo mewn cais am gyllid gwerth £587,000 i greu canolfan newydd a adwaenir fel y BioHYB.
-
14 Medi 2023Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Phrifysgol Abertawe'n estyn eu partneriaeth
Mae'n bleser gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe gyhoeddi estyniad i'w bartneriaeth â Phrifysgol Abertawe am sawl blwyddyn arall.
-
13 Medi 2023Dathlu 25 mlynedd o'r Ganolfan Eifftaidd
Mae Canolfan Eifftaidd arobryn Prifysgol Abertawe'n gwahodd gwirfoddolwyr o’r gorffennol a’r presennol i helpu i ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed.
-
8 Medi 2023Galwad am welliannau brys ar ôl i astudiaeth ddatgelu diffygion yn y Pasbort Iechyd Awtistiaeth
Mae ymchwilwyr wrthi'n galw am ymagweddau newydd at leihau anghydraddoldebau gofal iechyd ar gyfer pobl awtistig pan fydd angen triniaeth feddygol arnynt ar ôl i ddiffygion difrifol ddod i'r amlwg yn y pasbortau iechyd a argymhellir gan NICE.
-
31 Awst 2023Un o raddedigion Abertawe'n ennill gwobr fyd-eang uchel ei bri i gyn-fyfyrwyr yn y DU
Mae Oluwaseun Ayodeji Osowobi, a raddiodd o Brifysgol Abertawe, wedi ennill y Wobr Fyd-eang yn y categori Effaith Gymdeithasol yng ngwobrau uchel eu bri Study UK y British Council i gyn-fyfyrwyr eleni.
-
30 Awst 2023Cyhoeddi rhestr o awduron arobryn ar gyfer Gŵyl Llên Plant Abertawe
Mae rhestr o’r awduron sy’n cymryd rhan yng Ngŵyl Llên Plant Abertawe a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn ystod penwythnos 7-8 Hydref, wedi’i chyhoeddi.
-
29 Awst 2023Prosiect clirio yn sicrhau bod pentref y myfyrwyr yn gadael etifeddiaeth werdd ar ei ôl
Bu Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan yn gartref i filoedd o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am fwy na hanner canrif cyn i'r safle gau am y tro olaf yn gynharach eleni.
-
22 Awst 2023Myfyriwr Graddedig Affganaidd yn goresgyn Cynnwrf y Taliban, gan ganfod gobaith a llwyddiant ym Mhrifysgol Abertawe
Mae myfyriwr graddedig rhagorol o Brifysgol Abertawe'n dechrau ar bennod nesaf ei bywyd ddwy flynedd ar ôl gorfod ffoi o'i chartref yn Affganistan i ddianc rhag y Taliban.
-
21 Awst 2023Datgelu cyfrinachau arferion teithio anifeiliaid: sut mae nodweddion rhywogaethau wedi dylanwadu ar eu teithiau ar draws y byd
Mae gallu anifeiliaid i deithio ar draws rhwystrau mawr, megis cefnforoedd neu gadwyni mynyddoedd, wedi bod o ddiddordeb mawr i wyddonwyr ers amser maith oherwydd ei ddylanwad ar fioamrywiaeth y Ddaear. Mae astudiaeth newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu gwybodaeth sy'n torri tir newydd am y broses hon, gan ddangos sut mae nodweddion, megis maint corff a hanes bywyd, yn gallu dylanwadu ar ymlediad anifeiliaid dros y byd.
-
21 Awst 2023Plant sy'n derbyn gofal a chymorth yn fwy tebygol o fod wedi cael y brechiadau diweddaraf
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod cyfraddau brechu cyffredinol plant sy'n derbyn gwasanaethau dan gynllun gofal a chymorth yn uwch, a bod mwy ohonynt wedi cael y brechiadau diweddaraf, na phlant yn y boblogaeth yn gyffredinol yng Nghymru.
-
18 Awst 2023Dadorchuddio cerflun newydd yn Nhwyni Crymlyn sy’n dathlu bioamrywiaeth a'r gymuned leol
Mae cerflun newydd wedi'i osod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, sy'n gartref i Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, i ddathlu bywyd gwyllt ac amrywiaeth y safle arfordirol gwarchodedig a'i bwysigrwydd i'r gymuned leol.
-
17 Awst 2023Cydweithio'n helpu Prifysgol Abertawe i ennill dyfarniad Masnach Deg
Mae staff Prifysgol Abertawe yn dathlu ar ôl ennill Dyfarniad Prifysgol Masnach Deg am y tro cyntaf ers pum mlynedd.
-
16 Awst 2023Grant gan Sefydliad Wolfson yn hybu ymchwil a datblygu ym maes lled-ddargludyddion
Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant uchel ei fri gan Sefydliad Wolfson a fydd yn rhoi hwb sylweddol i'w Chanolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) wrth greu'r technolegau lled-ddargludol a ddefnyddir mewn bron pob dyfais dechnolegol soffistigedig fodern.
-
14 Awst 2023Dr Rhian Hedd Meara yn derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Dr Rhian Hedd Meara, Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, am ei hymroddiad wrth ddatblygu elfen sylweddol o'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes Daearyddiaeth yn y brifysgol.
-
14 Awst 2023Gwarchod rhag COVID-19: archwilio'r polisi
Mae astudiaeth newydd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi archwilio'r rhesymeg dros greu’r polisi i warchod pobl agored i niwed yn glinigol rhag COVID-19. Mae wedi canfod bod llunwyr y polisi wedi bwriadu iddo wneud gwahaniaeth cadarnhaol, ond nad oeddent yn gwybod i ba raddau y byddai'n llwyddo na pha effeithiau eraill y byddai'n eu cael.
-
14 Awst 2023Yr Athro Alan Llwyd yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol
Alan Llwyd, Athro yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
-
11 Awst 2023Tîm meddygol o Brifysgol Abertawe’n rhannu ei arbenigedd mewn efelychu clinigol â Zambia
Mae tîm o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ymweld â Zambia er mwyn hyfforddi meddygon, nyrsys a bydwragedd sy'n addysgu yn y wlad honno i ddefnyddio efelychu clinigol, sy'n galluogi myfyrwyr i ddysgu sgiliau newydd heb roi cleifion mewn perygl. Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i'r tîm ddysgu gan eu cydweithwyr yn Zambia a thrafod partneriaethau ymchwil a chyfleoedd i fyfyrwyr yn y dyfodol.
-
10 Awst 2023Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gweithgynhyrchu yn ne Cymru
Cafodd disgyblion ysgol lleol gyfle'n ddiweddar i ddysgu am gynaliadwyedd a gweithgynhyrchu yn ne Cymru mewn digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe.
-
9 Awst 2023Arbenigwyr Rhith-realiti yn ymuno i greu hyfforddiant iechyd arloesol
Mae cwmni rhith-realiti o Gymru wedi ymuno â Phrifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu hyfforddiant gofal iechyd arloesol.
-
8 Awst 2023Cloc ffynnon atomig yn ceisio datrys dirgelion gwrthfater
Gallai dyfais sy'n cynhyrchu ffynnon o atomau cesiwm hybu dealltwriaeth o'r bydysawd drwy fesur amledd y golau sy'n cael ei amsugno gan wrthfater.
-
2 Awst 2023Astudiaeth newydd yn dangos cynnydd mewn cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn ystod y pandemig
Dangosodd astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe y bu cynnydd mewn cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru yn ystod y pandemig.
-
1 Awst 2023Baneri gwyrdd yn chwifio eto ym Mhrifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe'n parhau i arwain y ffordd o ran pwysigrwydd mannau gwyrdd yng Nghymru.
-
1 Awst 2023Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn cael cipolwg ar ymchwil ddiweddaraf Prifysgol Abertawe
Cafodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru gipolwg ar feysydd ymchwil gwahanol sydd ar y gweill ym Mhrifysgol Abertawe, gan amrywio o feddygaeth i led-ddargludyddion, yn ystod ymweliad diweddar â'r Brifysgol.
-
1 Awst 2023Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd rhwng 5-12 Awst 2023.
-
1 Awst 2023Myfyrwraig o Abertawe'n ennill Gwobr Myfyriwr Gorau uchel ei bri'r Cyngor Pwyllgorau Addysg Filwrol
Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Myfyriwr Gorau uchel ei bri'r Cyngor Pwyllgorau Addysg Filwrol (COMEC).
-
28 Gorffennaf 2023Llwyddiant academaidd i fyfyrwraig sydd am gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf
Mae myfyrwraig sy'n gobeithio cystadlu yn y rasys bobsled am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2026 yn dathlu cwblhau ei hastudiaethau israddedig mewn Eifftoleg a Gwareiddiad Clasurol ym Mhrifysgol Abertawe.
-
28 Gorffennaf 2023Astudiaeth newydd yn dangos pŵer cysylltu data'r heddlu â data gofal iechyd i nodi pobl sy'n agored i niwed
Mae cysylltu data'r heddlu â data gofal iechyd wedi datgelu bod modd canfod pobl sy'n agored iawn i niwed cyn i'r heddlu ymwneud â hwy. Nawr, mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n datgan y gallai rhannu a chysylltu data helpu i leihau nifer y galwadau ar yr heddlu a derbyniadau meddygol brys yn y dyfodol.
-
19 Gorffennaf 2023Arweinwyr o brifysgol bartner yn Wcráin yn ymweld ag Abertawe i gryfhau cysylltiadau addysgu ac ymchwil
Mae pedwar uwch-arweinydd o brifysgol bartner Abertawe yn Wcráin yn ymweld â Chymru er mwyn helpu i gryfhau'r cydweithrediad rhwng y ddau sefydliad o ran ymchwil, addysgu a chreu cyfleoedd i fyfyrwyr.
-
18 Gorffennaf 2023Gall hyfforddi staff ar ymyriadau seicolegol dwysedd isel ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl leihau salwch yn y man gwaith
Gall gwella dealltwriaeth gweithlu o strategaethau triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl leihau salwch staff yn sylweddol yn ogystal ag annog pobl i ofyn am gymorth, yn ôl ymchwil newydd.
-
13 Gorffennaf 2023Y Brifysgol yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cyfamod i gydnabod y gwerth y mae'r rhai hynny sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, boed yn aelodau rheolaidd neu’n aelodau wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol yn ei gyfrannu at y brifysgol a'r wlad.
-
7 Gorffennaf 2023Ymweliad gan ddisgyblion yn helpu i hybu dealltwriaeth o'r argyfwng hinsawdd
Cafodd mwy na 250 o bobl ifanc gyfle i ddarganfod mwy am ganlyniadau go iawn newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau sy'n wynebu amgylchiadau heriol yn ystod digwyddiad arbennig a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe.
-
7 Gorffennaf 2023Oriel Science Prifysgol Abertawe yn dadorchuddio arddangosfa newydd drawiadol: IMAGING
Mae Oriel Science yn falch o gyhoeddi lansiad ei harddangosfa ddiweddaraf, IMAGING sy'n addo rhoi golwg unigryw a rhyngweithiol ar sut mae ymchwilwyr uchel eu bri o Brifysgol Abertawe'n delweddu, yn cofnodi ac yn dehongli'r byd y tu mewn i ni ac o'n cwmpas.
-
7 Gorffennaf 2023Clinig y Gyfraith yn cynnig sesiynau cyngor cyfreithiol am ddim i breswylwyr Abertawe ym mis Gorffennaf
Bydd preswylwyr Abertawe'n gallu elwa o sesiynau cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim ym mis Gorffennaf.
-
7 Gorffennaf 2023Prifysgolion yn ennill £15m ar gyfer Canolfan Ymchwil ac Arloesi Rheilffyrdd newydd yn y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd yn ne Cymru
Mae UKRPIF (Cronfa Buddsoddi Partneriaethau Ymchwil y DU) wedi dyfarnu £15m i Brifysgol Birmingham a chonsortiwm o brifysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, i sefydlu canolfan ymchwil ac arloesi rheilffyrdd newydd a fydd yn arwain y ffordd yn fyd-eang.
-
5 Gorffennaf 2023Y Brifysgol i gynnal canolfan fel rhan o fuddsoddiad gwerth £14m mewn ymchwil i glefydau prin
Mae Prifysgol Abertawe'n barod i wneud cyfraniad allweddol at blatfform newydd sydd â'r nod o ddod â chryfderau'r DU wrth ymchwilio i glefydau prin ynghyd i feithrin dealltwriaeth a phennu diagnosisau a thriniaethau'n well ac yn gynt.
-
30 Mehefin 2023Cynhadledd AIMLAC yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol
Daeth myfyrwyr ac ymchwilwyr ynghyd i drafod deallusrwydd artiffisial a'i amrywiaeth eang o ddibenion mewn digwyddiad arbennig a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe.
-
30 Mehefin 2023Ymchwil arloesol yn archwilio sut mae dilyniant caffael afiechyd yn effeithio ar ddisgwyliad oes
Mae ymchwil newydd, dan arweiniad Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd yn The Lancet Public Health, yn archwilio sut mae clefydau sy'n cydfodoli yn datblygu dros amser a sut maent yn effeithio ar ganlyniadau cleifion ac adnoddau gofal iechyd.
-
28 Mehefin 2023Abertawe'n cyrraedd y safle uchaf erioed yn nhablau prifysgolion y byd
Mae Prifysgol Abertawe'n dringo 118 o leoedd i gyrraedd y 307 safle ar y cyd, ei safle uchaf erioed, yn y rhifyn diweddaraf o Dablau Prifysgolion y Byd QS 2024.
-
27 Mehefin 2023Ymchwil yn y gymuned: Dadansoddi tueddiadau pleidleisio ac archwilio materion addysg ar gyfer y dyfodol
Bydd dau academydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe yn cymryd rhan yn y sgyrsiau arbennig diweddaraf mewn cyfres sydd â nod o gyflwyno ymchwil i'r gymuned.
-
27 Mehefin 2023Prosiect newydd i gynyddu sgiliau sero net yn ne-orllewin Cymru
Mae Prifysgol Abertawe ar fin gwneud cyfraniad allweddol at lywio'r sgiliau y bydd eu hangen ar y gweithlu i gyflawni sero net, ar ôl sicrhau cyllid gan raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe i sefydlu prosiect Sgiliau Sero Net Cymru (NØW).
-
26 Mehefin 2023Cyfres newydd o'r podlediad ‘Archwilio Problemau Byd-eang’
Beth yw dyfodol Deallusrwydd Artiffisial a ChatGPT? A all technoleg ddigidol helpu i atal aildroseddu? A allwn greu systemau sy'n ddiogel ac yn wydn yn wyneb bygythiadau i ddiogelwch?
-
23 Mehefin 2023Mapio'r ddaear o dan y rhewlif sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn Antarctica am y tro cyntaf
Mae'r ddaear o dan y rhewlif sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn Antarctica wedi'i mapio am y tro cyntaf, gan dîm sy'n cynnwys arbenigwr o Abertawe, gan helpu gwyddonwyr i feithrin dealltwriaeth well o effaith newid yn yr hinsawdd arno.
-
22 Mehefin 2023Deg ymchwilydd wedi'u dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru
Mae deg ymchwilydd o Brifysgol Abertawe – traean o'r garfan eleni – wedi'u dewis ar gyfer Crwsibl Cymru 2023, rhaglen datblygu personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth arobryn ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
-
22 Mehefin 2023Arbenigwr mewn eithafiaeth o Abertawe yn ennill gwobr am ymchwil a gwaith cymunedol i wrthsefyll casineb
Mae arbenigwr mewn eithafiaeth o Abertawe sydd wedi cyfranogi mewn gweithgarwch cymunedol i wrthsefyll negeseuon casineb wedi ennill gwobr am ei gwaith gan Gymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig.
-
22 Mehefin 2023Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi partneriaethau llety myfyrwyr swyddogol
Mae Prifysgol Abertawe wedi cytuno ar bartneriaeth â dau ddarparwr llety myfyrwyr a adeiladwyd at y diben (PBSA) i gynnig llety o safon uchel i fyfyrwyr yn y ddinas.
-
22 Mehefin 2023Technoleg y gofod i grebachu wrth i derfynau ffiseg cwantwm gael eu profi ar y Ddaear a'r tu hwnt
Mae consortiwm ledled y DU yn datblygu technolegau i ddefnyddio nanoronynnau fel synwyryddion o'r radd flaenaf ar loerennau'r un maint â blwch esgidiau a elwir yn CubeSats.
-
20 Mehefin 2023Prosiect ymchwil newydd yn archwilio profiadau iechyd meddwl academyddion benywaidd
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n lansio astudiaeth newydd a fydd yn archwilio profiadau academyddion benywaidd o ran gwaith ac iechyd meddwl yn sector addysg uwch y DU.
-
20 Mehefin 2023Abertawe ymysg sefydliadau gorau'r DU am gwmnïau deillio
Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei statws ymysg y sefydliadau academaidd mwyaf blaenllaw yn y DU am greu cwmnïau deillio, yn ôl adroddiad newydd gan gwmni dadansoddi data Beauhurst.
-
19 Mehefin 2023Caitlin yn defnyddio ei phrofiad ei hun fel nyrs byddar i helpu eraill
Byddai dechrau eich swydd gyntaf fel nyrs sydd newydd gymhwyso ychydig cyn i'r pandemig daro yn ddigon o her i unrhyw un.
-
16 Mehefin 2023Tîm o fyfyrwyr yn cyrraedd yr entrychion i ennill cystadleuaeth peirianneg awyrofod
Cyrhaeddodd tîm o fyfyrwyr o Abertawe yr entrychion i ennill her unigryw â'r nod o ddathlu doniau peirianwyr awyrofod y dyfodol.
-
15 Mehefin 2023Y Brifysgol yn croesawu partneriaid prosiect CutCancer
Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu cynrychiolwyr o Sefydliad Bioleg Cenedlaethol (NIB) Slofenia fel rhan o brosiect gefeillio CutCancer.
-
15 Mehefin 2023Ymchwil newydd yn dangos manteision addysgu disgyblion am iechyd meddwl yn yr ystafell ddosbarth
Gall rhoi’r adnoddau a’r hyfforddiant cywir i ysgolion addysgu disgyblion am iechyd meddwl gael effaith gadarnhaol ar lesiant pobl ifanc.
-
15 Mehefin 2023Rhestr fer wedi'i chyhoeddi ar gyfer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023
Mae cynorthwy-ydd llyfrgell, dau athro Saesneg a myfyriwr prifysgol ymhlith y 12 awdur sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023.
-
14 Mehefin 2023Academydd yn rhan o’r tîm sy'n arwain rhaglen deallusrwydd artiffisial gwerth £31m
Academydd o Brifysgol Abertawe yn rhan o’r tîm sy'n arwain rhaglen gwerth £31m sydd â'r nod o sicrhau bod deallusrwydd artiffisial y dyfodol yn gyfrifol ac yn ddibynadwy.
-
13 Mehefin 2023Academydd i arddangos ymchwil i adeiladau solar yn Arddangosiad yr Haf yr Academi Brydeinig
Bydd ffilm sy'n portreadu effeithiau trawsnewidiol adeilad solar mewn pentref yn India, wedi'i datblygu drwy bartneriaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn cael ei harddangos yn Arddangosiad o fri yr Haf yr Academi Brydeinig.
-
12 Mehefin 2023Dyddiadau yn yr Unol Daleithiau i hyrwyddo llyfr newydd arbenigwr ar freuddwydion
Mae'r arbenigwr mewn cwsg o Brifysgol Abertawe, Mark Blagrove, yn mynd i Galiffornia ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo ei lyfr newydd.
-
6 Mehefin 2023Ymchwilwyr yn datblygu deunydd storio gwres arloesol newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni gwell
Mae ymchwilwyr o Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC a rhaglen COATED M2A ym Mhrifysgol Abertawe wedi cydweithio â Phrifysgol Caerfaddon i wneud cynnydd arloesol mewn ymchwil i storio thermol, gan ddatblygu deunydd effeithlon newydd sy'n hawdd ei uwchraddio ac y gellir ei fesur a'i siapio i gyd-fynd â chymwysiadau niferus.
-
6 Mehefin 2023Myfyriwr PhD Ysgrifennu Creadigol yn ennill cystadleuaeth 3MT Prifysgol Abertawe
Mae Eilian Richmond, sy'n astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, wedi ennill cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.
-
31 Mai 2023Tîm yn archwilio’r heriau y mae gofal cymdeithasol ataliol yn eu hwynebu
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi bod yn ymchwilio’n fanylach i’r cyfraniad y gall gwaith atal ei wneud at wella gofal cymdeithasol y rhai sydd fwyaf agored i niwed.
-
31 Mai 2023Gwaith celf wedi'i ysbrydoli gan Dylan Thomas yn cael ei arddangos ym Mhrifysgol Abertawe
Mae casgliad o lithograffau gan yr artist uchel ei fri o Gymru Ceri Richards, a ysbrydolwyd gan gerddi Dylan Thomas, yn cael eu harddangos yn barhaol yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
-
26 Mai 2023Olrhain drwy GPS yn datgelu sut rhoddodd babŵn benywaidd y gorau i ddefnyddio mannau trefol ar ôl rhoi genedigaeth
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cape Town yn darparu'r dystiolaeth ddogfennol gyntaf o fabŵn benywaidd yn rhoi'r gorau i ddefnyddio mannau trefol ar ôl rhoi genedigaeth: enghraifft arall o'r ffordd y mae anifeiliaid gwyllt yn ymateb i drefoli drwy ymaddasu.
-
26 Mai 2023Prifysgol Abertawe'n lansio Canolfan newydd ar gyfer datblygu ymchwil addysgol
Mae Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Prifysgol Abertawe wedi lansio Canolfan newydd ar gyfer Ymchwil i Ymarfer (CRIP) a fydd yn helpu addysgwyr i wella eu harferion addysgu.
-
25 Mai 2023Tri academydd yn rhan o grŵp o arbenigwyr sy'n ceisio cyflawni targed sero net Cymru ynghynt
Mae academyddion o Abertawe yn chwarae rhan allweddol wrth archwilio sut y gall Cymru gyflymu'r broses o newid i sero net a helpu i ddiwygio ei tharged i 2035 o 2050.
-
24 Mai 2023Astudiaeth newydd: gallai cyffur ar gyfer diabetes math 2 drin anhwylderau awtoimiwnedd
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi canfod y gall cyffur a ddefnyddir yn gyffredin i drin diabetes helpu i drin anhwylderau awtoimiwnedd o bosib.
-
17 Mai 2023Y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyrraedd carreg filltir bwysig o ran lleihau gwastraff
Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd a lleihau gwastraff wedi cael ei gydnabod gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.
-
16 Mai 2023Cenhadaeth tîm arbenigol i helpu pobl â diabetes ar ynys Bermuda
Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol y Frenhines, Belfast wedi helpu i ddarparu gofal llygaid sy'n newid bywydau pobl â diabetes ar ynys Bermuda.
-
12 Mai 2023Adnodd dysgu arloesol yn helpu academydd i ennill gwobr addysgu o fri
Mae'r academydd Tom Wilkinson wedi cael ei anrhydeddu am helpu i ddatblygu ffyrdd o addysgu imiwnoleg a wnaeth ysbrydoli myfyrwyr yn ystod Covid.
-
11 Mai 2023ARINZE IFEAKANDU YN ENNILL GWOBR DYLAN THOMAS PRIFYSGOL ABERTAWE 2023 AR GYFER EI LYFR, GOD’S CHILDREN ARE LITTLE BROKEN THINGS
Mae Arinze Ifeakandu, awdur o Nigeria, wedi ennill un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei lyfr cyntaf gwefreiddiol, God’s Children Are Little Broken Things, casgliad nodedig o ffuglen fer, y mae ei naw stori yn mudlosgi ag unigrwydd a chariad, ac yn darlunio goblygiadau bod yn hoyw yn Nigeria heddiw.
-
11 Mai 2023Sesiwn Codi Sbwriel Prifysgol Abertawe i nodi coroni'r Brenin
Cyfrannodd dwsinau o aelodau staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe at sesiwn codi sbwriel leol mewn sawl lleoliad ar 10 Mai fel rhan o The Big Help Out i nodi coroni'r Brenin.
-
11 Mai 2023Arwr rygbi Cymru, Ryan Jones yw llysgennad Hanner Marathon Abertawe Prifysgol Abertawe
Enwyd Ryan Jones, cyn-gapten Camp Lawn Cymru, yn llysgennad swyddogol Hanner Marathon Prifysgol Abertawe, a gynhelir ar 11 Mehefin 2023.
-
10 Mai 2023Y Pwynt Tyngedfennol: Lle nesaf i iechyd a gofal?
Comisiwn Bevan yn cynnal cynhadledd bwysig
Wedi ei eni o adfeilion byd mewn argyfwng, mae’r GIG yn dyst parhaus i’r pethau anhygoel sy’n digwydd pan mae pobl yn dod ynghyd er lles pawb.
-
9 Mai 2023Myfyrwyr o Wcráin yn mynd i Dŷ'r Arglwyddi i ddathlu pen-blwydd y bartneriaeth efeillio
Mae dau fyfyriwr o Wcráin sy'n astudio ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe wedi mynd i dderbyniad yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan nodi diwedd blwyddyn gyntaf partneriaeth efeillio rhwng prifysgolion yn y DU ac Wcráin.
-
28 Ebrill 2023Canolfan ymchwil Prifysgol Abertawe i arwain partneriaeth newydd gwerth £1.4m
Mae cydweithrediad ymchwil newydd sydd â'r nod o sbarduno galluoedd a gwella ymchwil i iechyd mamau a babanod wedi derbyn hwb ariannol gwerth £1.4m.
-
27 Ebrill 2023Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Abertawe'n dathlu 10 mlynedd gyda gweithgareddau ar-lein am ddim
I ddathlu ei 10fed flwyddyn, mae Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe (S4) yn rhoi mynediad agored at ei holl gynnwys gwyddoniaeth ar-lein i athrawon a dysgwyr yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd.
-
27 Ebrill 2023Galw am weithredu i gasglu data am fwydo ar y fron er mwyn mesur effaith meddyginiaethau
Prin yw'r wybodaeth yn aml i fenywod sy'n defnyddio meddyginiaethau ar bresgripsiwn wrth fwydo ar y fron.
-
26 Ebrill 2023Abertawe yw'r ddinas fwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru
Abertawe yw'r ddinas fwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru, yn ôl astudiaeth gan y Complete University Guide (CUG), sy'n ddibynadwy ac yn annibynnol.
-
25 Ebrill 2023Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n cyhoeddi pedwar Cymrawd Prifysgol Abertawe newydd
Mae pedwar o academyddion o Brifysgol Abertawe ymhlith aelodau newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
-
24 Ebrill 2023Cystadleuaeth The Big Pitch Prifysgol Abertawe'n dathlu entrepreneuriaeth ac arloesedd ymysg myfyrwyr
Dychwelodd cystadleuaeth The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi’i noddi gan Brifysgolion Santander, yn ddiweddar, gan gynnig hwb mawr i fyfyrwyr entrepreneuraidd am eu syniadau busnes.
-
24 Ebrill 2023Arbenigwyr yn archwilio sut mae gweithgarwch corfforol yn newid bywydau
Mae effeithiolrwydd chwaraeon fel ffordd o fynd i'r afael â throseddau ieuenctid wedi cael ei ddadansoddi gan academyddion o Gymru a bydd eu canfyddiadau bellach yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i lywio arweinwyr yr heddlu.
-
21 Ebrill 2023Astudiaeth newydd: Dim tystiolaeth bod gwarchod wedi lleihau heintiadau COVID-19 yng Nghymru
Ni wnaeth gwarchod leihau heintiadau COVID-19 yng Nghymru: astudiaeth newydd yn cwestiynu buddion y polisi i bobl agored i newid.
-
18 Ebrill 2023Astudiaeth yn dangos sut gall dysgu peirianyddol nodi ymddygiad tacluso cymdeithasol o signalau cyflymu mewn babŵns gwyllt
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cape Town wedi olrhain ymddygiad tacluso cymdeithasol mewn babŵns gwyllt gan ddefnyddio mesuryddion cyflymu ar goleri.
-
14 Ebrill 2023Ymchwilwyr yn datgelu sut gall yr economi sylfaenol hybu ffyniant Cymru
Mae ymchwil newydd sy'n archwilio sut y gellir cefnogi'r economi sylfaenol yng Nghymru yn helpu i lywio polisi'r llywodraeth ar gyfer y dyfodol.
-
14 Ebrill 2023Prifysgol Abertawe'n rhoi iwnifformau nyrsys i sefydliadau meddygol ledled Affrica islaw'r Sahara
Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi mwy na 600 o iwnifformau myfyrwyr nyrsio amrywiol i sefydliadau difreintiedig yng ngwledydd Affrica islaw'r Sahara, gan helpu i ddiogelu gweithwyr gofal iechyd rhag dal clefydau trosglwyddadwy wrth iddynt ddarparu cymorth meddygol i gleifion sy'n agored i niwed.
-
13 Ebrill 2023Fideo o'r Antarctig i ysgolion ar doddi iâ a lefel y môr yn codi'n ennill gwobr nodedig The Geographical Association (GA)
Mae ffilm i ddisgyblion ysgol am doddi iâ yn Antarctica a lefel y môr yn codi, a wnaed gan dîm sy’n cynnwys arbenigwr pegynol o Brifysgol Abertawe, wedi ennill Gwobr Arian nodedig The Geographical Association (GA).
-
13 Ebrill 2023Ymchwil y Brifysgol i ganser y prostad yn cael hwb gwerth £400,000
Gallai ymchwil gan wyddonwyr o Abertawe sy'n archwilio siwgrau yn y gwaed arwain at brofion mwy effeithiol a diagnosisau cynharach o ran canser y prostad – a fyddai'n achub bywydau dynion di-rif.
-
12 Ebrill 2023Melysydd artiffisial yn gallu lleihau ymateb imiwnyddol llygod i glefydau
Mae gwyddonwyr yn Sefydliad Francis Crick wedi darganfod bod bwyta llawer o felysydd artiffisial cyffredin, sef sucralose, yn lleihau'r broses o actifadu celloedd T, cydran bwysig o'r system imiwnedd, mewn llygod.
-
5 Ebrill 2023Grant yn hybu cenhadaeth ymchwilydd i archwilio niwed i'r nerfau yn yr ymennydd
Dr Roberto Angelini yw'r academydd diweddaraf ym Mhrifysgol Abertawe i dderbyn anrhydedd gwobr Academy of Medical Science Springboard.
-
5 Ebrill 2023Astudiaeth newydd yn dangos potensial dysgu peirianyddol i nodi pobl ag arthritis llidiol yn gynnar
Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu sut gall dysgu peirianyddol helpu i ganfod yr arthritis llidiol sbondylitis ymasiol (AS) yn gynnar a gweddnewid sut mae meddygon teulu'n nodi pobl ac yn rhoi diagnosis iddynt.
-
3 Ebrill 2023£900,000 o gyllid i ddatblygu hyfforddiant VR ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yn y dyfodol
Mae menter uwch-dechnoleg gan Brifysgol Abertawe i ddatblygu hyfforddiant rhith-wirionedd arbenigol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi sicrhau hwb ariannol mawr.
-
31 Mawrth 2023Y cyflwynydd teledu Owain Wyn Evans yn annog cynulleidfa i fentro
Mae Owain Wyn Evans, darlledwr ar y teledu a'r radio, wedi annog aelodau cynulleidfa yn Abertawe i fod yn driw iddynt hwy eu hunain a pheidio â bod yn rhy ofnus i fentro.
-
31 Mawrth 2023“Asim Hafeez – O fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe i Gyfarwyddwr yn y Swyddfa Gartref”: Gŵr Graddedig uchel ei fri'n rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar y Gwasanaeth Sifil
Dychwelodd Asim Hafeez, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol, Strategaeth, Ymgysylltu a Datganoli yn y Swyddfa Gartref, i'w alma mater yn ddiweddar i rannu llwybr trawiadol ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil â myfyrwyr o Brifysgol Abertawe.
-
30 Mawrth 2023Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli 2023
Mae gwyddoniaeth a chelf breuddwydio, yr argyfwng cyfergydion ym myd chwaraeon a theitl buddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymysg y pynciau a fydd yn difyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 36ed tro rhwng 25 Mai a 4 Mehefin.
-
29 Mawrth 2023Astudiaeth arloesol o effaith technoleg ddigidol ar sgiliau cyfathrebu plant: gwahodd pobl i gyfrannu at arolwg ar-lein
Mae ymchwilwyr prifysgol yn chwilio am gyfranogwyr i gwblhau arolwg ar-lein a fydd yn cynorthwyo gyda'r astudiaeth fanylaf hyd yn hyn o'r ffordd y mae cysylltiad beunyddiol babanod a phlant ifanc iawn â thechnolegau digidol yn dylanwadu ar sut maent yn siarad ac yn rhyngweithio ag eraill.
-
29 Mawrth 2023Y pwmp sy'n gwneud dŵr llygredig yn ddiogel i'w yfed - syniad dyfeiswyr sy'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth fyd-eang
Mae tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe sydd wedi dyfeisio pwmp sy'n gwneud dŵr afonydd llygredig yn ddiogel i'w yfed wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ddylunio fyd-eang, a gynhelir yn Nhecsas ym mis Ebrill.
-
28 Mawrth 2023Tîm rhyngwladol yn defnyddio catalyddion naturiol i ddatblygu ffordd rad o gynhyrchu hydrogen gwyrdd
Mae arbenigwyr o Abertawe a Grenoble wedi dod at ei gilydd er mwyn datblygu ffordd ymarferol o gynhyrchu hydrogen gwyrdd gan ddefnyddio catalyddion cynaliadwy.
-
27 Mawrth 2023Ffilm yn amlygu gweithredu cymunedol ar adeg argyfwng o ran yr hinsawdd ac ecoleg
Mae ffilm newydd sy'n amlygu sut mae grŵp cymunedol o ffrindiau a chymdogion yng Nghastell-nedd yn gweithio'n gadarnhaol i liniaru newid yn yr hinsawdd wedi cael ei dangos am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf i gyd-fynd ag Awr y Ddaear.
-
23 Mawrth 2023Myfyriwr o Abertawe'n cydweithredu â'r Swyddfa Dywydd i helpu i ddatblygu model arwynebedd tir
Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi cydweithredu â'r Swyddfa Dywydd i nodi sut gellir gwella un o'i modelau arwynebedd tir, gan hwyluso rhagamcanion mwy cywir o ryngweithiadau rhwng yr hinsawdd a llystyfiant yn y dyfodol.
-
23 Mawrth 2023Llyfrau newydd yn dwyn y sylw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023
Heddiw, cyhoeddir rhestr fer un o wobrau llenyddol mwyaf y byd sy'n dathlu llenorion ifanc - Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe - gan amlygu ehangder a dyfnder doniau ysgrifennu rhyngwladol newydd.
-
22 Mawrth 2023Prifysgol Abertawe'n sicrhau rhan o £40m o gyllid i hybu buddion ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol
Mae Prifysgol Abertawe'n un o 32 sefydliad ymchwil ledled y DU a fydd yn elwa o gefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) drwy ddyfarniad Cyfrif Cyflymu Effaith gwerth £1.25m dros bum mlynedd.
-
22 Mawrth 2023Prifysgol Abertawe'n parhau i wella ei safle yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei pherfformiad gorau erioed yn un o’r tablau pwysicaf sy’n rhestru prifysgolion y byd fesul pwnc am yr ail flwyddyn yn olynol.
-
21 Mawrth 2023Rhaglen y Brifysgol yn derbyn cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Gemeg America
Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang am safon uchel yr addysg gemeg y mae'n ei chynnig.
-
20 Mawrth 2023Prifysgol Abertawe'n cyrraedd y rhestr fer am wobr recriwtio gyrfaoedd cynnar o fri
Mae Rhaglen Cymorth i Raddedigion Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd addysg uwch y flwyddyn yng Ngwobrau Recriwtio Graddedigion Cenedlaethol targetjobs 2023.
-
20 Mawrth 2023Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni eleni.
-
17 Mawrth 2023Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Amaeth a Thechnoleg Tokyo i arwain prosiect pwysig i ganfod clefyd Alzheimer yn gynnar
Dyfarnwyd £1.3 miliwn i wyddonwyr o Sefydliad Arloesol Prifysgol Abertawe ym maes Deunyddiau, Prosesau a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT) ac o Japan, er mwyn datblygu pecyn newydd “profion pwynt gofal” sy’n gallu canfod biofarcwyr Clefyd Alzheimer.
-
17 Mawrth 2023Astudiaeth newydd yn cyfrif cost amgylcheddol rheoli clymog
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi ystyried effaith amgylcheddol dulliau gwahanol o reoli clymog Japan yn y tymor hir.
-
17 Mawrth 2023£1 miliwn ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys arbenigwyr o Abertawe yn mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymhlith cyn-filwyr y lluoedd arfog
Mae ymchwil i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymysg cyn-filwyr y lluoedd arfog wedi derbyn hwb sylweddol gyda thri dyfarniad, cyfanswm o £1 miliwn, ar gyfer prosiectau newydd yn y maes sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
-
16 Mawrth 2023Cydweithrediad yn sicrhau grant gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol i ddatblygu maes newydd sef Deunyddiau ar gyfer Gwytnwch Cymdeithasol
Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn grant ymchwil gyda Sefydliad Technoleg Massachusetts a Phrifysgol Cornell noddir gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol ar gyfer project ymchwil aml-sefydliadol.
-
16 Mawrth 2023Aelod o Staff Prifysgol Abertawe'n cael ei chydnabod mewn Gwobrau Prentis o Fri
Mae Katie Harris o Brifysgol Abertawe wedi cael ei henwi'n Brentis Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad ar Yrfaoedd y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe eleni.
-
15 Mawrth 2023Digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales yn dathlu 20 mlynedd o Technocamps
Cynhaliwyd digwyddiad ITWales, wedi’i drefnu gan Technocamps, i ddathlu menywod ym meysydd STEM ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Arena Abertawe.
-
15 Mawrth 2023Academyddion o Brifysgol Abertawe'n datblygu'r celloedd solar perofsgit cyntaf yn y byd y gellir eu hargraffu'n llwyr o rolyn i rolyn
Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau dull inc carbon rhad y gellir ei ehangu sy'n gallu manteisio, am y tro cyntaf, ar botensial celloedd solar perofsgit i gael eu gweithgynhyrchu ar raddfa fawr.
-
14 Mawrth 2023Llyfr newydd yn datgelu sut gall breuddwydion greu cysylltiadau rhwng pobl
Bydd llyfr newydd gan Mark Blagrove, arbenigwr cwsg Prifysgol Abertawe, yn cael ei lansio yn ystod digwyddiad y gwerthwyd pob tocyn ar ei gyfer yn ddiweddarach yr wythnos hon.
-
13 Mawrth 2023Effaith pandemig Covid-19 ar achosion o gyflyrau hirdymor yng Nghymru
Mae astudiaeth cyswllt data poblogaeth sy’n defnyddio cofnodion iechyd gofal sylfaenol ac eilaidd yn datgelu bod llai o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o gyflyrau hirdymor na’r disgwyl yn 2020 a 2021.
-
13 Mawrth 2023Cynhadledd sy'n amlygu sut y gall economy gylchol lywio dyfodol Cymru
Cynhelir Cynhadledd Wanwyn Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) ar ddydd Gwener, 24 Mawrth yn Stadiwm Swansea.com. Mae'r gynhadledd yn wahoddiad agored i hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o Dde Cymru a thu hwnt i drafod sut y gall ymdrechion cynyddrannol sydd wedi'u cynllunio'n dda gael effaith sylweddol.
-
10 Mawrth 2023Tîm ymchwil yn ymestyn cysylltiadau rhyngwladol i Awstralia
Mae ymchwilwyr gartref ac oddi cartref wedi dod at ei gilydd ar gyfer cydweithrediad rhyngwladol newydd gyda'r nod yn y pen draw o wella gofal cleifion.
-
9 Mawrth 2023Tîm rhyngwladol yn archwilio sut gallai seleniwm helpu i ymladd canser yr ofari
Mae seleniwm yn ficro-faetholyn sy'n chwarae rôl hanfodol mewn iechyd dynol ond mae'n wenwynig mewn lefelau uchel. Fodd bynnag, dengys ymchwil fiofeddygol newydd fod gan seleniwm nodweddion gwrth-ganser pan gaiff ei ddefnyddio mewn dosau uchel.
-
8 Mawrth 2023Ap yn ceisio cyflwyno artist i gynulleidfa newydd ac ehangach
Mae ap newydd wedi cael ei lansio i geisio dathlu ac amlygu gwaith Gwen John, yr artist o Gymru.
-
7 Mawrth 2023Arbenigwyr o'r Ganolfan Eifftaidd yn barod i ddatgelu hanes arteffactau hynafol
Mae llu o henebion Eifftaidd wedi cyrraedd Abertawe cyn cael eu harddangos i'r cyhoedd a chael eu hastudio gan arbenigwyr o'r Brifysgol am y tro cyntaf.
-
6 Mawrth 2023Ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n dangos y gall defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd wella eich iechyd
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n dangos y gall defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol am 15 munud yn llai bob dydd wella iechyd cyffredinol a gweithrediad y system imiwnedd yn sylweddol a lleihau unigrwydd ac iselder.
-
1 Mawrth 2023Y Brifysgol yn ennill cyllid i hybu sgiliau gweithgynhyrchu batris yng Nghymru
Mae Prifysgol Abertawe'n barod i wneud cyfraniad allweddol at lywio gweithlu gweithgynhyrchu'r dyfodol yng Nghymru.
-
1 Mawrth 2023Ymchwilwyr i ddatblygu technolegau clyfar cynaliadwy, wedi'u hunan-bweru ar gyfer y genhedlaeth hŷn
Dyfarnwyd £740,000 i dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu technolegau’r "Rhyngrwyd Pethau" digidol, cynaliadwy ac wedi'u hunan-bweru er mwyn mynd i'r afael â hygyrchedd ar gyfer pobl hŷn.
-
24 Chwefror 2023Data olrhain yn dangos sut mae rhywogaethau adar môr yn mabwysiadu strategaethau gwahanol i ymdopi â stormydd eithafol
Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck yn yr Almaen a Phrifysgol Abertawe wedi datgelu sut mae rhywogaethau adar môr gwahanol yn defnyddio strategaethau gwahanol i ymdopi â seiclonau gyda rhai ohonynt yn hedfan yn uniongyrchol tuag at y storm ac eraill yn defnyddio tactegau osgoi.
-
24 Chwefror 2023Myfyrwyr sy'n ymweld o Wcráin yn cael eu croesawu'n swyddogol i Abertawe
Cafodd myfyrwyr o Wcráin, gan gynnwys rhai o brifysgol bartner Abertawe yn y wlad, eu croesawu'n swyddogol i Abertawe mewn derbyniad ar y campws, lle cawsant eu hannerch gan yr Is-ganghellor ac Universities UK.
-
23 Chwefror 2023Y Brifysgol yn helpu i greu ap realiti rhithwir newydd i ennyn diddordeb mewn gyrfaoedd lled-ddargludyddion
Mae Prifysgol Abertawe wedi partneru â chwmni technoleg ymgolli i greu profiad realiti rhithwir newydd â'r nod o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddilyn gyrfa mewn pynciau STEM.
-
20 Chwefror 2023Prifysgol Abertawe wedi'i henwi’n brif noddwr newydd Hanner Marathon Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb tair blynedd i fod yn brif noddwr ras arobryn Hanner Marathon Abertawe.
-
17 Chwefror 2023Grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn rhannu ag ymchwilwyr brofiadau o fyw drwy Covid
Mae ymchwil newydd wedi datgelu sut gwnaeth aelodau o grwpiau lleiafrifoedd ethnig ymdopi â heriau a achoswyd gan bandemig Covid.
-
16 Chwefror 2023Y Brifysgol yn y 12fed safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei chanlyniad gorau erioed ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, gan ddringo 14 o safleoedd i rif 12 yn y DU yn gyffredinol.
-
15 Chwefror 2023Prifysgol Abertawe yn cydweithio â Chlwb Pêl Droed Dinas Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i gefnogi Mis y Galon
Mae Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe yn ymuno â Phrifysgol Abertawe a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru i ddangos eu cefnogaeth i Fis y Galon ym mis Chwefror.
-
15 Chwefror 2023Tîm o Brifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi cael £2.2m i wella ymchwil i ddementia
Mae tîm o'r uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe'n rhan o bartneriaeth ledled y DU sydd wedi sicrhau gwerth £2.2 miliwn mewn cymorth gan ADDI (Alzheimer’s Disease Data Initiative) er mwyn helpu i bontio'r bwlch rhwng darganfyddiadau sylfaenol yn y labordy a threialu'n llwyddiannus ffyrdd newydd o drin dementia.
-
14 Chwefror 2023Astudiaeth newydd yn nodi ffactorau risg sy'n gysylltiedig â phwysau geni isel
Mae genedigaethau lluosog, cyfnod byr rhwng beichiogrwydd a mamau sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, mewn mwy o berygl o gael babi â phwysau geni isel yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.
-
14 Chwefror 2023Ymchwil newydd yn dangos yr arweinir postio hun-luniau gan ymddygiad ymosodol
Dengys ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe fod menywod yn postio hun-luniau sy'n gysylltiedig â strategaethau cyflwyno'ch hunan mewn ffordd fygythiol, sy'n cyd-fynd â lefelau uchel o ymddygiad ymosodol.
-
13 Chwefror 2023Car newydd yn rhoi hwb i gefnogaeth hanfodol canolfan rhoddwyr llaeth i fabanod sâl a chynamserol
Bydd mwy o fabanod yng Nghymru yn elwa wrth i gerbyd trydan newydd gyrraedd sy’n cefnogi casgliadau llaeth gan roddwyr.
-
9 Chwefror 2023Dur gwyrddach a glanach: technoleg rithwir yn asesu hydrogen fel tanwydd ar gyfer ffwrneisi i dorri allyriadau carbon
Mae arbenigwyr dur wedi bod yn edrych yn rhithwir y tu mewn i siafft ffwrnes, fel rhan o brosiect newydd i brofi pa mor dda y byddai hydrogen yn gweithio fel adweithydd ar gyfer gwneud dur. Os bydd newid i hydrogen o danwydd ffosil yn profi i fod yn ddichonadwy, byddai'n torri allyriadau carbon o'r broses gwneud dur yn sylweddol.
-
31 Ionawr 2023Prifysgol Abertawe yw prif noddwr cynhadledd ac arddangosfa yn y ddinas
Prifysgol Abertawe yw prif noddwr Cynhadledd ac Arddangosfa Canol Dinas Abertawe 2023, a fydd yn dychwelyd i Arena Abertawe ddydd Mercher, 29 Mawrth, yn dilyn llwyddiant y gynhadledd y llynedd yn y lleoliad.
-
30 Ionawr 2023Gŵyl Varsity Cymru'n dychwelyd i'r brifddinas wrth iddi gael ei chynnal am y 25ain tro
Bydd gŵyl Varsity Cymru 2023 yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2019 wrth i dimau o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd fynd benben â'i gilydd yn ei 25ain flwyddyn.
-
27 Ionawr 2023Hwb gwerth £100,000 i CADR i gefnogi oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw
Mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £100,000 i roi hwb i dystiolaeth a dealltwriaeth hanfodol am bwysigrwydd creu cymdogaethau priodol, cymdeithasol, cynaliadwy a gwydn yn ogystal ag amgylchoedd ar gyfer oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw.
-
26 Ionawr 2023Pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a straeon pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio yn cael lle blaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023
Cyhoeddir rhestr hir ryngwladol un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – heddiw, ddydd Iau 26 Ionawr. Gydag awduron yn hanu o'r DU, Iwerddon, Nigeria, Cenia, Somalia, Libanus ac Awstralia, mae'r rhestr hir eleni o 12 yn cynnwys cynifer o newydd-ddyfodiaid ag enwau cyfarwydd, gyda lleisiau pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a menywod yn cael lle blaenllaw ar y rhestr hir.
-
25 Ionawr 2023Gellid defnyddio ‘patshyn clyfar’ sydd newydd ei ddatblygu i ganfod clefyd Alzheimer
Mae gwyddonydd amlwg ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu ‘patshyn clyfar’ newydd sy’n gallu canfod biofarcwyr llidhyrwyddol afiechydon niwroddirywiol megis clefydau Parkinson ac Alzheimer trwy ddefnyddio technoleg micronodwyddau.
-
24 Ionawr 2023240 o swyddi a gwaith ymchwil ac arloesi hollbwysig ar ymyl y dibyn heb gamau brys i wneud iawn am golli cyllid yr UE, yn ôl Pennaeth Prifysgol Abertawe
Mae Pennaeth Prifysgol Abertawe wedi rhybuddio bod dyfodol y sector ymchwil ac arloesi yng Nghymru – gan gynnwys mwy na 240 o swyddi medrus iawn ym Mhrifysgol Abertawe, mewn meysydd hollbwysig o ynni glân i ymchwil feddygol – yn y fantol yn ystod yr wythnosau nesaf, oni bai bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau ar unwaith i wneud iawn am golli cyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE).
-
23 Ionawr 2023Adroddiad sero net blaenllaw yn enwi Prifysgol Abertawe
Prifysgol Abertawe yw'r unig brifysgol yng Nghymru sydd wedi cael ei henwi yn adroddiad cyntaf The Royal Anniversary Trust, sy'n amlinellu cynllun uchelgeisiol i ddatgarboneiddio'r sector addysg drydyddol.
-
17 Ionawr 2023Gwobr i ymchwilydd o Abertawe am waith sy'n lleihau llygredd afonydd o hen fwynfeydd
Mae arbenigwr o Abertawe wedi ennill y wobr gyntaf mewn cynhadledd ryngwladol o fri am ei waith sy'n mynd i'r afael â llygredd afonydd o hen fwynfeydd.
-
17 Ionawr 2023Y 'dallbwynt' sy'n ein hatal rhag gweld peryglon gyrru
Ydy'n dderbyniol niweidio rhywun arall? Yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn y DU, gall yr ateb ddibynnu ar a oes car yn rhan o'r sefyllfa. Maent wedi dangos bod gan bobl 'ddallbwynt' cyffredin sy'n gallu achosi iddynt ddefnyddio safonau moesol a moesegol wrth feddwl am yrru ceir sy'n wahanol i'r rhai byddent yn eu defnyddio mewn agweddau eraill ar eu bywydau.
-
16 Ionawr 2023Penodiad newydd ar gyfer ymchwilydd yw'r cyntaf i fenywod yng Nghymru
Mae ymchwilydd arloesol y mae ei waith ar drawma ar y frest wedi cael effaith fyd-eang wedi sgorio apwyntiad cyntaf yng Nghymru.
-
13 Ionawr 2023Cymrawd o Abertawe'n ymuno ag Academi’r Ifanc gyntaf y DU gyfan
Mae Dr Muhammad Naeem Anwar, o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe, ymhlith aelodau cyntaf Academi’r Ifanc newydd y DU – sef rhwydwaith o ymchwilwyr gyrfa gynnar ac ymarferwyr proffesiynol a grëwyd i helpu i fynd i'r afael â materion lleol a byd-eang a hyrwyddo newid ystyrlon.
-
13 Ionawr 2023Bydd sgrinio pobl ddigartref am hepatitis C yn cyflymu diagnosis a thriniaeth
Bydd pobl sy'n ddigartref neu mewn cartrefi ansefydlog iawn yn cael cynnig profion llif unffordd ar gyfer hepatitis C, ac yn fuan wedi hynny, profion PCR i gyflymu diagnosis a thriniaeth, a thrwy hynny, caiff y risg o drosglwyddiad ei leihau.
-
10 Ionawr 2023Interniaid ym Mhrifysgol Abertawe'n rhannu safbwyntiau myfyrwyr am uniondeb academaidd
Mae grŵp o interniaid y gyfraith yn Abertawe wedi bod yn helpu i lywio'r drafodaeth ynghylch uniondeb academaidd drwy rannu eu barn ag ymarferwyr addysg uwch proffesiynol.
-
22 Rhagfyr 2022Ymchwilwyr yn datblygu system sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i flaenoriaethu triniaeth cleifion niwmonia
Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu ‘efaill digidol’ i helpu i flaenoriaethu cleifion ar gyfer gofal dwys brys a chefnogaeth peiriant anadlu.
-
22 Rhagfyr 2022"Gwnes i gwympo mewn cariad â'r wlad hon o'r diwrnod cyntaf" - myfyriwr meddygol o Wcráin yn disgrifio ymweliad astudio ag Abertawe
Mae myfyriwr meddygaeth o Wcráin sy'n treulio semester yn Abertawe fel rhan o bartneriaeth newydd gyda phrifysgol yn ei mamwlad wedi dweud ei bod wedi cwympo mewn cariad â'r wlad o'r diwrnod cyntaf ac wedi diolch i'r ddwy brifysgol am wneud yr ymweliad yn bosib.
-
21 Rhagfyr 2022Staff Prifysgol Abertawe'n rhoi cannoedd o hamperi Nadolig i fanciau bwyd lleol
Mae mwy na 600 o hamperi Nadolig wedi cael eu rhoi i fanciau bwyd yn Abertawe drwy haelioni staff Prifysgol Abertawe.
-
21 Rhagfyr 2022Canolfan ymchwil o'r radd flaenaf yn cyflwyno ymgyrch newydd sy'n amlygu'r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia
Mae Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) Prifysgol Abertawe wedi lansio ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o'r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia.
-
20 Rhagfyr 2022Ymchwilwyr yn chwilio am gyfranogwyr ar gyfer astudiaeth o heintiau anadlol yng Nghymru
Mae astudiaeth newydd yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio sut mae heintiau anadlol, megis peswch, anwydau, y ffliw a Covid-19, yn effeithio ar bobl yng Nghymru y gaeaf hwn.
-
20 Rhagfyr 2022Myfyrwyr Abertawe yn cael cyfle i astudio yn Awstralia, diolch i gynllun cyfnewid newydd gyda Phrifysgol Canberra
Bydd myfyrwyr israddedig Abertawe yn cael y cyfle i astudio dramor yn Awstralia, diolch i gytundeb cyfnewid myfyrwyr newydd wedi'i lofnodi gyda Phrifysgol Canberra.
-
20 Rhagfyr 2022Y Brifysgol yn rhan o brosiect gefeillio CutCancer newydd Horizon Ewrop
Mae Prifysgol Abertawe'n rhan o brosiect gefeillio CutCancer newydd sy'n ceisio cryfhau a gwella galluedd ymchwil ac arloesi a rhagoriaeth cydlynydd y prosiect, y Sefydliad Bioleg Cenedlaethol (NIB) yn Slofenia.
-
19 Rhagfyr 2022Y Brifysgol yn dadorchuddio hwb uwch-dechnoleg i fyfyrwyr awyrofod
Mae un o gyfleusterau mwyaf cyffrous Prifysgol Abertawe wedi cael ei ymestyn i gynnig amgylchedd dysgu gwell i'w fyfyrwyr.
-
19 Rhagfyr 2022Dyn 74 oed yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i wireddu eich breuddwydion drwy raddio o Abertawe
Mae athro 74 oed a fethodd ei arholiad 11+ wedi graddio o Brifysgol Abertawe gyda theilyngdod ac mae’n annog pobl eraill i ddal ati i ddysgu am byth.
-
16 Rhagfyr 2022Astudiaeth newydd yn archwilio'r cysylltiadau rhwng incwm rhieni a thueddfryd rhywiol eu plant
Mae cael eich denu at bartneriaid o'r un rhyw yn gyffredin mewn bodau dynol ond nid yw dylanwadau biolegol ar gyfunrhywiaeth a deurywioldeb wedi'u deall yn llawn.
-
16 Rhagfyr 2022Ymchwil yn dangos pam gall cynnwrf rhywiol ddifetha diddordeb dynion mewn perthnasoedd tymor hir
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod cynnwrf rhywiol yn peri i ddynion ffafrio ar unwaith baru tymor byr ar draul perthnasoedd ymrwymedig tymor hwy, megis priodas.
-
13 Rhagfyr 2022Ymchwil newydd yn dangos y gallai’r cyfryngau cymdeithasol roi’r Gymraeg a'i siaradwyr dan anfantais
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi amlygu sut gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn fygythiad i ddyfodol y Gymraeg ac iechyd seicolegol ei siaradwyr.
-
12 Rhagfyr 2022ASTUTE 2020+ yn cyfrannu £541 miliwn i Economi Cymru
Wrth i Ganolfan Ragoriaeth ASTUTE newydd gael ei sefydlu yn lle prosiect ASTUTE 2020+, mae llwyddiannau ASTUTE 2020+ yn fwy trawiadol byth trwy ei chyfraniad sylweddol sy'n werth £541 miliwn at economi Cymru trwy gydweithredu rhwng Diwydiant a'r byd academaidd yn y sector gweithgynhyrchu.
-
12 Rhagfyr 2022Ymchwil yn datgelu mai ond 1 o bob 3 menyw beichiog yng Nghymru fyddai'n cael brechiad Covid-19
Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu mai ond 1 o bob 3 menyw feichiog o bosib yng Nghymru fyddai'n cael y brechlyn Covid-19 yn ystod beichiogrwydd, er bod dwy o bob tair yn dweud y byddent yn cael y brechlyn.
-
12 Rhagfyr 2022Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2023 yn derbyn ceisiadau
Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies, a gynhelir bob blwyddyn, bellach yn derbyn ceisiadau.
-
8 Rhagfyr 2022Hwb gwerth £700,000 i ymchwilio i wreiddio hawliau plant mewn ystafelloedd dosbarth
Mae cydweithrediad ymchwil sy'n archwilio sut gellir gwreiddio hawliau plant ifanc mewn ymarfer addysgu wedi sicrhau hwb cyllid mawr.
-
6 Rhagfyr 2022Partneriaeth yn cael ei sefydlu i wella canlyniadau i gleifion cardiofasgwlaidd yng Nghymru
Mae cydweithrediad newydd mawr wedi'i lansio gyda'r nod o wella diagnosis a thriniaeth cleifion cardiofasgwlaidd ar draws Cymru.
-
6 Rhagfyr 2022Astudiaeth newydd yn dangos bod ofn COVID-19 yn parhau i niweidio lles seicolegol
Mae ymchwil gan seicolegwyr o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe wedi canfod bod iechyd meddwl pobl wedi gwaethygu o ganlyniad i ofn COVID-19. Daeth yr astudiaeth, sydd newydd gael ei chyhoeddi yn y Journal of Health Psychology, i'r casgliad hefyd mai cyfranogwyr hŷn a phobl o leiafrifoedd ethnig oedd fwyaf tebygol o ofni COVID-19.
-
5 Rhagfyr 2022Canllawiau ar gael am ddim i blant sy'n ceisio lloches yng Nghymru
Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, wedi diweddaru cyfres o ganllawiau ar gyfer plant sy'n ceisio lloches yng Nghymru, a'r gweithwyr cymdeithasol a'r gofalwyr maeth sy'n gofalu amdanynt.
-
5 Rhagfyr 2022Hen dechneg yn cynnig ffordd newydd o oresgyn ofn Covid-19 a thactegau osgoi
Mae'n bosib bod gan hen dechneg o oresgyn ofnau'r potensial i ryddhau pobl rhag ofnau a phryderon ynghylch Covid-19, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe.
-
30 Tachwedd 2022Darlith Prifysgol Abertawe'n trafod effaith radicalaidd bosib technoleg gefeillio digidol
Mae darlith uchel ei bri Prifysgol Abertawe o'r enw “Asking the Next Evolution of Twins to Radically Shape Our Future” wedi cael ei thraddodi gan yr Athro Royston Jones, Is-lywydd Gweithredol Gweithrediadau Ewropeaidd a Phrif Swyddog Technoleg Byd-eang Altair, sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang o ran efelychu, deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadura perfformiad uchel, mewn digwyddiad yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
-
28 Tachwedd 2022Llyfr yn archwilio gwleidyddiaeth defnyddio ffyrdd uwch-dechnoleg o arddangos casgliadau amgueddfa
Mae llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe yn archwilio sut cafodd arddangosyn digidol arloesol ei ddefnyddio i arddangos delweddau ffotograffig hanesyddol ar draws safleoedd y ddinas ac yn archwilio ei oblygiadau ar gyfer arferion y dyfodol.
-
24 Tachwedd 2022Technocamps yn ennill gwobr fawreddog am arfer gorau mewn addysg
Mae Technocamps wedi’i enwi’n enillydd Gwobr Arferion Gorau mewn Addysg 2022 Informatics Europe.
-
23 Tachwedd 2022Arbenigwyr yn dadansoddi effaith cynheswr seddau arloesol ar oedolion hŷn sy'n agored i niwed
Mae arbenigedd ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei ddefnyddio i brofi gorchudd rhad sy'n cynhesu seddau, a all gadw oedolion hŷn sy'n agored i niwed yn dwym drwy bwyso botwm.
-
22 Tachwedd 2022Ymchwilwyr o Abertawe yn cael eu hychwanegu at y Rhestr o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth 2022
Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe wedi cael eu henwi yn Rhestr o Ymchwilwyr a Ddyfynnir yn Helaeth 2022 flynyddol, wedi ymaros mawr.
-
16 Tachwedd 2022Gall hediad adar helpu i ragfynegi tyrfedd, yn ôl astudiaeth newydd
Mae astudiaeth newydd a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe wedi cynnig dealltwriaeth newydd o amodau amgylcheddol ar raddfa fanwl o safbwynt meteorolegol.
-
16 Tachwedd 2022Prosiect cadwraeth forol yn galluogi disgyblion i rannu gwybodaeth am fioamrywiaeth a sgiliau technoleg peirianneg yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Mae disgyblion ysgolion cynradd wedi cael cyfle unigryw i ddefnyddio dulliau peirianneg creadigol er mwyn dysgu am gadwraeth forol fel rhan o brosiect sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe.
-
15 Tachwedd 2022Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n anrhydeddu tri arbenigwr o'r Brifysgol
Mae tri academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr diweddaraf medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
-
15 Tachwedd 2022Abertawe'n gefeillio â phrifysgol o Wcráin gan hwyluso cydweithrediad a chymorth
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb gefeillio â phrifysgol o Wcráin sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer partneriaethau ymchwil, rhannu deunyddiau dysgu ac addysgu ar-lein, a chyfleoedd i fyfyrwyr a staff o Wcráin ymweld ag Abertawe.
-
11 Tachwedd 2022Adroddiad newydd yn dangos peryglon cynnwys am hunan-niweidio ar y cyfryngau cymdeithasol
Nid yw safleoedd ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud digon i fynd i’r afael â’r broses o wthio cynnwys am hunan-niwed ar eu defnyddwyr, meddai’r Samariaid.
-
7 Tachwedd 2022Partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a byd busnes yn llwyddo yng Ngwobrau Technoleg Cymru
Mae menter gydweithredol rhwng Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be, sef iBroadcast wedi cael ei henwi'n bartneriaeth orau'r flwyddyn rhwng y byd academaidd a busnes yng Ngwobrau Technoleg Cymru 2022.
-
7 Tachwedd 2022Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) yn llwyddo yng Ngwobrau STEM Cymru
Cafodd Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) Prifysgol Abertawe ei enwi'n Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn yng nghategori'r Sector Cyhoeddus yng Ngwobrau STEM Cymru eleni.
-
7 Tachwedd 2022Ymchwil yn dangos effaith Covid ar les arweinwyr ysgolion Cymru
Mae ymchwil newydd wedi datgelu'r effaith a gafodd pandemig Covid-19 ar staff uwch ysgolion Cymru.
-
7 Tachwedd 2022Darlith Zienkiewicz Flynyddol Prifysgol Abertawe'n dychwelyd gyda'r Athro Syr Jim McDonald yn westai arbennig
Nos Fercher, 9 Tachwedd, bydd Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe'n cynnal Darlith Zienkiewicz am y chweched tro, gyda'r Athro Syr Jim McDonald, BSc, MSc, PhD, DSc, CEng, un o beirianwyr mwyaf medrus yr Alban, yn siaradwr gwadd uchel ei fri.
-
7 Tachwedd 2022Tynnu sylw at ymchwil Abertawe-Affrica i'r argyfwng hinsawdd cyn i COP 27 ymgynnull yn yr Aifft
Wrth i arweinwyr y byd ymgynnull yn yr Aifft ar gyfer yr uwchgynhadledd COP27 nesaf, wedi'i threfnu gan y Cenhedloedd Unedig, bydd pedwar arbenigwr o Abertawe sy'n cynnal ymchwil i wahanol agweddau ar yr argyfwng hinsawdd yn rhan o arddangosiad o gydweithrediadau yng Nghymru â phrifysgolion yn Affrica.
-
2 Tachwedd 2022Athro o Brifysgol Abertawe'n derbyn medal uchel ei bri am ei gyfraniad rhagorol at addysg STEM
Mae'r IET (Institution of Engineering and Technology) wedi dyfarnu Medal Cyflawniad i'r Athro Tom Crick MBE o Brifysgol Abertawe.
-
2 Tachwedd 2022Y sector cyhoeddus yn uno i rannu syniadau mewn cynhadledd economi gylchol
Mae’r ffyrdd arloesol y mae’r sector cyhoeddus yn Ne Cymru’n mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd wedi’u hamlygu mewn cynhadledd a drefnwyd gan yr arbenigwyr economi gylchol.
-
1 Tachwedd 2022Beth yw pryd a gwedd academydd? Arbenigwraig o Abertawe'n cyfrannu at lyfr newydd sy'n amlygu amrywiaeth ymchwil ac ymchwilwyr
Mae llyfr newydd sy'n dangos amrywiaeth ymchwil ac ymchwilwyr i ddisgyblion ysgol yn cynnwys pennod gan arbenigwraig mewn cemeg ac addysg am newid yn yr hinsawdd o Abertawe sydd wedi darganfod ei bod yn awtistig.
-
31 Hydref 2022Arbenigwyr yn amlygu cysylltiad rhwng meintiau dwylo gwahanol ac achosion difrifol o Covid-19
Gall y gwahaniaeth o ran hyd bysedd rhwng llaw chwith a llaw dde rhywun ddarparu gwybodaeth hollbwysig ynghylch pa mor sâl y gallai fod pe bai'n dal Covid-19.
-
28 Hydref 2022Covid-19: Astudiaeth annibynnol i edrych ar brofiadau pobl o brofedigaeth ac ymateb y DU i'r pandemig
Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio profiadau'r cyhoedd o brofedigaeth yn ystod pandemig Covid-19 a gofyn am eu barn ynghylch sut ymdriniwyd â'r pandemig, a'r cymorth, neu'r diffyg cymorth, a gawsant.
-
27 Hydref 2022Prosiect newydd i ddatblygu radiotherapi ar gyfer triniaethau canser y genhedlaeth nesaf
Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe yn defnyddio'r ymchwil y maent yn ymgymryd â hi yng nghyfleuster y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) mewn prosiect o bwys. Y nod yw datblygu radiotherapi rhad ar gyfer triniaethau canser y genhedlaeth nesaf a fydd yn arbennig o effeithiol wrth drin plant a thiwmorau sy'n agos at feinweoedd sensitif.
-
27 Hydref 2022Astudiaeth yn dangos bod yr argyfwng costau byw'n cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl
Mae ymchwil newydd wedi canfod bod yr argyfwng costau byw'n cael effeithiau sylweddol ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl.
-
27 Hydref 2022Prifysgol Abertawe'n disgleirio yn y tablau pynciau byd-eang diweddaraf
Mae Prifysgol Abertawe ymysg sefydliadau gorau'r byd yn 10 o'r 11 grŵp o bynciau yn Nhablau Prifysgolion y Byd Times Higher Education 2023.
-
26 Hydref 2022Ffiseg ddamcaniaethol yn y DU yn derbyn cyllid gwerth mwy nag £20m
Mae'r grŵp Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg Ddamcaniaethol yn Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe yn un o 25 sefydliad yn y DU y dyfarnwyd mwy nag £20m iddynt er mwyn ehangu a phrofi damcaniaethau ynghylch sut mae'r bydysawd yn gweithio.
-
25 Hydref 2022Athro prifysgol yn parhau i hyrwyddo uniondeb academaidd yn rhyngwladol
Mae'r Athro Michael Draper o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gwneud cyfraniad allweddol at ddigwyddiadau rhyngwladol i amlygu moeseg ac uniondeb academaidd.
-
25 Hydref 2022Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe'n cael ei chydnabod am fod yn Fenter Fwyaf Arloesol y flwyddyn
Mae Peirianneg Gyffredinol ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill gwobr am fod yn Fenter Fwyaf Arloesol 2022 yn yr Engineering Talent Awards.
-
20 Hydref 2022Prifysgol Abertawe'n rhoi croeso swyddogol i fyfyrwyr o Wcráin
Cafodd myfyrwyr o Wcráin eu croesawu'n swyddogol i Abertawe yn ystod derbyniad yn y Brifysgol, lle y cawsant gyfle i gwrdd â'i gilydd a chael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn ystod eu hastudiaethau.
-
19 Hydref 2022Cyfleusterau efelychu newydd i hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol y dyfodol
Mae gwaith bellach yn mynd yn ei flaen ar gyfleusterau addysgu newydd uwch-dechnoleg a fydd yn rhoi Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran addysg gofal iechyd.
-
19 Hydref 2022Adnodd diagnostig newydd a allai gyflwyno canlyniadau prawf iechyd mewn dwy funud
Adnodd diagnostig newydd a allai gyflwyno canlyniadau prawf iechyd mewn dwy funud gan ddefnyddio sampl blaen bys – ymchwilwyr yn datblygu prawf o gysyniad.
-
18 Hydref 2022Ymchwil yn y gymuned: academyddion o Brifysgol Abertawe'n rhannu eu canfyddiadau mewn sgyrsiau cyhoeddus
Yn y sgwrs gyntaf mewn cyfres arbennig, gwahoddir cynulleidfaoedd i rannu canrif o straeon ffermio a chymryd rhan mewn trafodaeth am ystyr entrepreneuriaeth i'r Cymry.
-
17 Hydref 2022Cemeg werdd yn trawsnewid mygydau yn geblau ether-rwyd
Mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi arloesi proses sy'n trosi'r carbon a geir mewn mygydau a daflwyd er mwyn creu nanodiwbiau carbon ag un wal, a ddefnyddiwyd wedi hynny i wneud ceblau ether-rwyd o ansawdd band eang.
-
13 Hydref 2022Ymagwedd gynaliadwy at reoli plâu bwyd – Abertawe'n cynnal cynhadledd ryngwladol fawr i arbenigwyr
Mae cynhadledd ryngwladol fawr ym Mhrifysgol Abertawe wedi dod ag arbenigwyr mewn rheoli plâu yn integredig ynghyd i drafod ffyrdd newydd o leihau dibyniaeth ar bryfladdwyr cemegol niweidiol.
-
10 Hydref 2022Astudiaeth ôl Covid newydd yn datgelu bod plant eisiau mwy o le ac amser i chwarae
Hoffai plant gael mwy o le ac amser i chwarae gyda'u ffrindiau yn yr ysgol a gartref, yn ôl astudiaeth newydd a arweinir gan ymchwilwyr Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe.
-
7 Hydref 2022Taith gerdded i gefnogi elusen atal hunanladdiad
Mae taith gerdded ar y traeth i godi arian ac ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn dychwelyd i Abertawe'n hwyrach y mis hwn.
-
7 Hydref 2022Ymchwil arloesol yn datgelu bod adar y môr pelagig yn hedfan tuag at lygad y ddrycin wrth wynebu amodau tywydd eithafol
Mae ymchwil newydd a arweinir gan Brifysgol Abertawe wedi canfod bod rhai adar y môr pelagig yn hedfan yn uniongyrchol tuag at lygad y ddrycin, y mae ymchwilwyr yn meddwl sy'n eu helpu i osgoi cael eu cyfeirio i'r tir, gan leihau'r perygl o anaf neu farwolaeth.
-
6 Hydref 2022Prifysgol Abertawe yn cynnal Cynhadledd Ryngwladol o fri i Addysgwyr Entrepreneuriaeth (yr IEEC) 2022
Yn ddiweddar, gwnaeth Prifysgol Abertawe groesawu academyddion, ymchwilwyr ac addysgwyr entrepreneuriaeth o bedwar ban byd yn y Gynhadledd Ryngwladol i Addysgwyr Entrepreneuriaeth (sef yr IEEC), a hynny wyneb yn wyneb am y tro cyntaf mewn tair blynedd.
-
6 Hydref 2022Annog chwaraewyr rygbi ddoe a heddiw i helpu ymchwil i drawiadau i’r pen a chyfergydion
Wrth i gyfergydion yn y byd rygbi gael sylw helaeth, mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe'n gwahodd chwaraewyr rygbi ddoe a heddiw i'w helpu i ymchwilio i drawiadau i’r pen, drwy rannu eu profiadau'n ddienw drwy arolwg.
-
5 Hydref 2022Y Gweilch a Phrifysgol Abertawe: llwybr ar gyfer chwaraewyr rygbi talentog yng Nghymru
Yn eu pedwaredd flwyddyn fel partneriaid perfformiad rygbi, mae'r Gweilch a Phrifysgol Abertawe (Chwaraeon Abertawe) wedi atgyfnerthu eu hymrwymiad i gefnogi a datblygu chwaraewyr ifanc y tymor hwn.
-
5 Hydref 2022Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi rhaglen orau erioed Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni'n cynnwys rhaglen wythnos o hyd a fydd yn cynnwys sgwrs gan y cyflwynydd teledu a'r cadwraethwr arobryn Chris Packham, pan fydd hi'n dychwelyd yr hydref hwn.
-
5 Hydref 2022Cloddio am fetelau allweddol heb niweidio'r amgylchedd – prosiect yn Ynysoedd Philippines yn cynnwys arbenigwr afonydd
Cloddio am fetelau sy'n hollbwysig ar gyfer technolegau sero net, heb niweidio'r amgylchedd, yw nod prosiect ar y cyd rhwng y DU ac Ynysoedd Philippines sy'n cynnwys arbenigwr o Brifysgol Abertawe sydd newydd ddychwelyd ar ôl ymweliad ymchwil â'r wlad.
-
4 Hydref 2022Sêr chwaraeon Prifysgol Abertawe'n cael eu dathlu mewn llyfr newydd
Mae llyfr newydd a ysgrifennwyd gan Stan Addicott, A Century of Sport (Y Lolfa), yn cyflwyno stori'r 100 mlynedd diwethaf o weithgarwch chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, o'i sefydlu ym 1920 i'r presennol.
-
4 Hydref 2022Prosiect lles newydd yn creu cyffro ym Mhrifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflwyno cychod gwenyn ar ei champysau fel rhan o brosiect i wella lles myfyrwyr a staff.
-
4 Hydref 2022Ymweliad gan arbenigwr o Abertawe â banc meinweoedd yn hybu ymchwil i sglerosis ymledol yng Nghymru
Mae ymweliad gan arbenigwr o Abertawe, a hwyluswyd gan ysgoloriaeth a ddyfarnwyd gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, wedi cryfhau ymchwil i sglerosis ymledol yng Nghymru.
-
3 Hydref 2022Dwy o raglenni Prifysgol Abertawe'n cyrraedd rhestr fer Gwobrau STEM Cymru 2022
Mae Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) a Technocamps Prifysgol Abertawe wrth eu boddau eu bod ymysg y busnesau a'r unigolion uchel eu bri sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Stem Cymru 2022.
-
3 Hydref 2022Y Brifysgol yn helpu disgyblion i dynnu sylw at fioburfa
Mae grŵp o ddisgyblion wedi bod yn dysgu am ffordd newydd o ddefnyddio allyriadau carbon gwastraff, yn ogystal â chreu eu ffilm eu hunain i ledaenu'r neges am y prosiect cyffrous.
-
30 Medi 2022Athrawes Saesneg yn ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022
Mae Laura Morris, athrawes Saesneg o Gaerffili, wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022 am ei stori ‘Cree’, sydd, yn ôl y beirniad gwadd, Rachel Trezise, “yn frith o bruddglwyf hudolus ac yn gorlifo â hyder beiddgar”.
-
27 Medi 2022Arbenigwyr yn rhannu syniadau technolegol soffistigedig ar gyfer gwella profiadau trychedigion
Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n dweud y gallai trawsnewid y bwlch rhwng gwybodaeth, technoleg chwyldroadol a seicoleg cleifion, er mwyn gwella profiadau trychedigion (amputees) a chlinigwyr.
-
26 Medi 2022Ffilm newydd i helpu i atal perthnasoedd amhriodol ar-lein yn cael ei lansio yn y Senedd
Mae ffilm animeiddiedig ac adroddiad newydd, a ddatblygwyd gan brosiect diogelwch ar-lein DRAGON-S Prifysgol Abertawe i gynorthwyo gyda hyfforddiant ar atal perthnasoedd amhriodol ar-lein, yn cael eu lansio mewn cyfarfod rhithwir o'r Senedd heddiw.
-
22 Medi 2022Ymchwil i ganser ac i gyfergydion ym myd rygbi menywod i elwa o ddyfarniadau Cwmni Lifrai
Mae dau ymchwilydd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau teithio gyda Chwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
-
22 Medi 2022Prosiect £130m y Fargen Ddinesig yn creu argraff ar Weinidog yr Economi
Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi ymweld â phrosiect £130 miliwn Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe, er mwyn deall mwy am sut bydd y datblygiad cyffrous hwn yn hybu arloesi a thwf busnes yn sectorau cynyddol Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon.
-
22 Medi 2022Ymchwil i Gilfach Tywyn yn datgelu cysylltiad rhwng dŵr glanach a chocos llai sy'n marw'n gynt
Mae cysylltiad rhwng ansawdd gwell y dŵr yn ardal gocos enwocaf Cymru a chocos llai sydd â chyfradd marwolaethau uwch, yn ôl arolwg newydd o hanner can mlynedd o ddata.
-
21 Medi 2022Astudiaeth newydd yn nodi cysylltiad rhwng llythrennedd iechyd rhieni a chanlyniadau profion Covid-19 plant
Mae astudiaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi amlygu pwysigrwydd llythrennedd iechyd rhieni ac yn awgrymu bod y rhai hynny sy'n meddu ar ddealltwriaeth well a mynediad at wybodaeth feddygol yn fwy tebygol o fynd â'u plentyn i gael prawf am Covid-19 a chael canlyniad positif.
-
20 Medi 2022Plant sy'n cael llyfrau o Imagination Library Dolly Parton yn darllen yn amlach ac yn cael canlyniadau gwell yn yr ysgol, yn ôl ymchwil newydd
Mae plant sy'n derbyn llyfrau gan yr Imagination Library, a sefydlwyd gan y gantores eiconig Dolly Parton, yn darllen yn amlach ac yn cael canlyniadau gwell na'u cyfoedion mewn asesiadau darllen a datblygu, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.
-
2 Medi 2022Astudiaeth newydd o ddaearyddiaeth arfordirol a map canoloesol yn awgrymu bod ynysoedd coll yn llên gwerin Cymru yn gredadwy
Mae traddodiad Cymreig sy'n dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol sy'n crybwyll tirwedd a gollwyd i'r môr yn gredadwy, yn ôl tystiolaeth newydd o esblygiad morlin gorllewin Cymru.
-
1 Medi 2022Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol yn enwi academydd o Brifysgol Abertawe'n Gymrawd
Mae Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol wedi enwi 40 o wyddonwyr cymdeithasol rhagorol yn Gymrodorion – gan gynnwys yr Athro Tom Crick MBE o Brifysgol Abertawe.
-
30 Awst 2022Galw ar fyd diwydiant i gefnogi safle didoli technolegol soffistigedig i leihau gwastraff a hybu ailgylchu
Ailgylchu mwy o ddeunydd o gynhyrchion ar ddiwedd eu hoes – o reiliau a thrawstiau i geir a pheiriannau golchi – yw nod tîm dan arweiniad Prifysgol Abertawe sy'n bwriadu adeiladu safle didoli technolegol soffistigedig newydd, ac sy'n galw am gefnogaeth byd diwydiant.
-
29 Awst 2022Adroddiad yn mynegi pryderon am iechyd a lles plant a phobl ifanc
Mae adroddiad am lefelau gweithgarwch corfforol cyffredinol plant a phobl ifanc wedi dyfarnu gradd F i Gymru – ac yn peri pryderon y gallai hyn arwain at oblygiadau tymor hir i'w hiechyd a'u lles.
-
25 Awst 2022Sut mae trasiedi deuluol wedi annog awydd myfyrwyr i wella gofal iechyd yn ei chymuned
Mae marwolaeth ddiangen perthynas annwyl wedi annog angerdd Bethel Ohanugo dros wella gofal iechyd yn Nigeria, ei mamwlad.
-
23 Awst 2022Y Brifysgol yn dangos cefnogaeth barhaus i Wcráin wrth iddi ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y wlad
Wrth i Wcráin ddathlu ei diwrnod cenedlaethol ar 24 Awst, mae Prifysgol Abertawe a'i staff yn parhau i wneud ymdrechion i gefnogi'r wlad a'i phobl, yn dilyn yr ymosodiad ar ei thir gan luoedd Rwsia ym mis Chwefror.
-
23 Awst 2022Cynhadledd CEIC i rannu syniadau ar ddyfodol cynaliadwy yng Nghymru
Bydd hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o dde Cymru a'r tu hwnt yn gallu rhannu syniadau a chael ysbrydoliaeth werthfawr er mwyn cefnogi dyfodol cynaliadwy yng Nghymru mewn digwyddiad arbennig y mis nesaf.
-
22 Awst 2022Cwrs newydd yn darparu llwybr uniongyrchol i yrfa yn gofalu am gleifion llawfeddygol
Os ydych chi erioed wedi ystyried gweithio mewn theatr llawdriniaeth, wrth galon gofal iechyd ysbyty, gallai cwrs newydd eich rhoi ar y llwybr gyrfa perffaith.
-
18 Awst 2022Model 3D newydd yn datgelu bod megalodon yn pwyso mwy na 61 dunnell ac yn gallu bwyta morfilod danheddog cyfan
Mae megalodon a ddarganfuwyd yn y 1860au wedi galluogi tîm rhyngwladol o wyddonwyr dan arweiniad Prifysgol Zurich, Prifysgol Abertawe a'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol i greu'r model 3D mwyaf cyflawn hyd yn hyn o fegalodon – y siarc mwyaf sydd wedi byw erioed.
-
17 Awst 2022Prifysgol Abertawe i hyfforddi hyd yn oed mwy o fyfyrwyr meddygol
Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau mwy o lefydd ar ei rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion lwyddiannus fel rhan o fuddsoddiad gan y llywodraeth i gynyddu nifer y meddygon a hyfforddwyd yng Nghymru ar gyfer Cymru.
-
17 Awst 2022Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n ennill gwobr am ei chyfraniad rhagorol at y Gymraeg
Cafodd Alpha Evans o Brifysgol Abertawe ei choroni'n enillydd Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst.
-
16 Awst 2022Gwyddor deunyddiau a pheirianneg ar y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr
Mae gwyddor deunyddiau a pheirianneg wedi cyrraedd y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS). Mae'r llwyddiant diweddaraf hwn yn dilyn gwobrau am waith arloesol yr adran ar dechnoleg ynni adnewyddadwy.
-
16 Awst 2022Arbenigwyr yn rhannu gwybodaeth er mwyn lleihau perygl tanau gwyllt ledled Ewrop
Gyda'r argyfwng hinsawdd yn cynyddu risg tanau gwyllt yn y DU a llawer o rannau eraill yng ngogledd Ewrop, mae gwyddonwyr o bedwar ban byd yn rhannu eu harbenigedd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r peryglon.
-
12 Awst 2022Annog myfyrwyr i ganfod eu lle am ddyfodol disglair yn Abertawe
Gyda chanlyniadau Safon Uwch ar y gorwel yr wythnos nesaf, efallai fod rhai myfyrwyr yn teimlo'n ansicr ynghylch dechrau cwrs mewn prifysgol ar ôl heriau'r blynyddoedd diwethaf.
-
11 Awst 2022Tymereddau cynyddol ac amodau eithriadol o sych yn cyfrannu at berygl digynsail tanau gwyllt yn y DU
Yn ogystal â’r tymereddau uchaf a gofnodwyd erioed, mae’r DU yn wynebu amodau digynsail sy’n achosi perygl tanau gwyllt ac ymddygiad eithafol gan danau, yn ôl arbenigwyr tanau gwyllt.
-
10 Awst 2022Anrhydedd newydd i’r Athro am ei gyfraniad i Covid
Mae academydd o Abertawe sydd ar flaen y gad o ran llywio ein dealltwriaeth o Covid-19 wedi cael cydnabyddiaeth bellach am ei waith ym maes gwyddor data.
-
8 Awst 2022Gwobrau busnes uchel eu bri yng Nghymru'n dathlu graddedigion mentrus o Brifysgol Abertawe
Mae dau fusnes dan arweiniad graddedigion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn yr anrhydeddau mwyaf yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru eleni.
-
6 Awst 2022Prifysgol Abertawe'n cael ei henwi'n un o fannau gwyrdd gorau'r wlad
Barnwyd unwaith eto fod tiroedd nodedig ac amrywiol dau gampws Prifysgol Abertawe ymysg y mannau gwyrdd gorau yng Nghymru.
-
5 Awst 2022Gêm fideo arloesol sy'n cefnogi sgiliau iechyd meddwl a hyblygrwydd seicolegol
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi datblygu ffordd unigryw o helpu pobl ifanc i feithrin gwytnwch seicolegol, gan ddefnyddio gêm fideo at ddibenion ymyriadau iechyd meddwl a dysgu corfforedig.
-
5 Awst 2022Morwellt yn fwy gwerthfawr na'r disgwyl i ddyfodol y blaned
Mae arbenigwyr sydd wrth wraidd ymdrechion i adfer dolydd morwellt arfordirol y DU yn dweud y dylid ailasesu cyfraniad y planhigyn anhygoel at y rhestr bwysicaf o bethau i'w gwneud yn hanes y ddynolryw.
-
5 Awst 2022Rhagolygon economaidd Cymru ar eu mwyaf ansicr am 20 mlynedd – arbenigwr yn dweud bod angen ymyrraeth strategol ac ymwybyddiaeth o ryngddibyniaeth
Mae rhagolygon economaidd Cymru'n fwy ansicr nag y buont ar unrhyw adeg ers sefydlu'r Cynulliad – ac mae angen mwy o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru a mwy o gydweithrediad rhwng gwleidyddion ar bob lefel, yn ôl barn arbenigwr blaenllaw mewn arolwg newydd o economi Cymru ers datganoli.
-
4 Awst 2022Sut gall dysgu am les hybu lles myfyrwyr prifysgol
Gallai astudio gwyddor lles fel rhan o'u cyrsiau fod yn ffordd allweddol o wella sut mae myfyrwyr heddiw yn ymdopi â'r llu o bethau sy'n achosi straen iddynt, yn ôl ymchwil.
-
3 Awst 2022OASIS solar: Trydan glân, gwyrdd a dibynadwy i bentref wrth i Adeilad Gweithredol cyntaf India agor
Bydd pentref yng nghefn gwlad India bellach yn cael trydan glân a dibynadwy am y tro cyntaf, diolch i Adeilad Gweithredol newydd ei agor, sy'n debyg i'r rhai hynny mae Abertawe wedi'u harloesi, sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ei bŵer solar ei hun.
-
2 Awst 2022Galwad am gasglu data am fwydo ar y fron er mwyn mesur effaith meddyginiaethau
Mae papur newydd gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â ConcePTION, prosiect a gefnogir gan IMI (Innovative Medicines Initiative), wedi galw am gasglu data am fwydo ar y fron yn rheolaidd mewn cronfeydd data gofal iechyd. Y nod yw meithrin dealltwriaeth well o effeithiau tymor hir meddyginiaethau a gymerir gan fenywod yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron.
-
2 Awst 2022Arbenigedd y Brifysgol i helpu preswylwyr mewn “Adeilad Byw” newydd yng nghanol Abertawe i dyfu eu bwyd eu hunain
Mae Canolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy Prifysgol Abertawe (CSAR) yn bartner allweddol mewn menter arloesol gan Biophilic Living a fydd yn darparu ymagwedd newydd at fyw a gweithio yn y ddinas.
-
2 Awst 2022Astudiaeth newydd yn datgelu bod y cyhoedd yn ei gwneud hi'n anos i fenywod fwydo ar y fron
Yn ôl ymchwilwyr, anghymeradwyaeth neu hyd yn oed ffieidd-dod gan y cyhoedd yw un o'r rhesymau pam mae rhai menywod yn amharod i fwydo ar y fron y tu allan i'r cartref.
-
30 Gorffennaf 2022Prifysgol Abertawe'n cydweithredu â'r brifysgol fwyaf i fenywod yn y byd er mwyn hybu'r sector ynni
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth â'r brifysgol fwyaf i fenywod yn y byd er mwyn darparu rhaglen ar y cyd a fydd yn grymuso ysgolheigion benywaidd ifanc o Saudi Arabia yn y sector ynni.
-
29 Gorffennaf 2022Cyhoeddi enillwyr cyntaf erioed Gwobr y Canghellor
Dathlodd Prifysgol Abertawe gyflawniadau tri enillydd cyntaf erioed Gwobr y Canghellor yn ystod seremonïau graddio a gynhaliwyd yn Arena Abertawe yr wythnos hon.
-
29 Gorffennaf 2022Arbenigwr bioleg y môr yn coroni ei yrfa yn Abertawe gyda PhD ar ymddygiad morloi
Mae myfyriwr bioleg y môr a ddewisodd astudio am ei radd Baglor a'i radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe bellach wedi coroni'r cwbl drwy raddio gyda PhD yn y Gwyddorau Biolegol.
-
27 Gorffennaf 2022Torri ei chwys ei hun – llwyddiant nodedig Jessica yn dangos nad yw cyflwr ar y sbectrwm awtistig yn rhwystr iddi
Mae menyw sydd ymhlith y bobl gyntaf yn ei theulu i fynd i'r brifysgol, ac sy’n byw gyda syndrom Asperger ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), wedi talu teyrnged i bawb sydd wedi ei chefnogi, gan annog eraill i ddilyn ei hesiampl, wrth iddi ennill gradd meistr – gyda rhagoriaeth – mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe.
-
27 Gorffennaf 2022Arbenigwyr yn uno i ddathlu hwb gwerth £2m ar gyfer Uwchgyfrifiadura Cymru
Mae arbenigwyr data, cyflenwyr technoleg a llunwyr polisi wedi dod ynghyd i ddathlu pŵer a dyfodol uwchgyfrifiadura yng Nghymru.
-
27 Gorffennaf 2022Cyhoeddi arlwy Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.
-
26 Gorffennaf 2022Michelle yn rhoi aren wrth weithio ac astudio i fod yn barafeddyg yn ystod y pandemig
Mae menyw o'r Barri'n dathlu graddio heddiw, gan goroni taith academaidd, broffesiynol a phersonol lle cymhwysodd i fod yn barafeddyg wrth weithio i'r GIG yn ystod y pandemig. Yn ogystal, cymerodd ran mewn proses cyfnewid arennau a helpodd ei gor-nith i wella ar ôl salwch difrifol.
-
22 Gorffennaf 2022Mae bwrsariaethau mathemateg Carol Vorderman gwerth £2,000 ar agor i bob myfyriwr – gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno cais drwy glirio
Mae naw bwrsariaeth mynediad at fathemateg Carol Vorderman – sy’n werth £2,000 yr un – ar gael i’r holl fyfyrwyr sy’n cyflwyno cais i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno cais drwy glirio.
-
21 Gorffennaf 2022Myfyrwraig sy'n gwella ar ôl anhwylder bwyta'n dathlu graddio
Mae menyw sydd wedi dioddef o iechyd meddwl gwael ac anhwylder bwyta'n dathlu heddiw wrth iddi raddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd israddedig mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.