Teitl y Swydd: Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol, Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Cyfeirnod y Swydd: WAYST 
Lleoliad: Abertawe
Dyddiad cau: canol dydd, ddydd Gwener 16 Awst 2024
 

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sy'n ffynnu ar archwilio a darganfod ac yn darparu ymagweddau arloesol at ddarparu addysgu a phrofiad ardderchog i fyfyrwyr. Yn y 25ain safle yn y DU, a'r safle 1af yng Nghymru yn The Guardian University Guide 2024, ar hyn o bryd mae gennym dros 25,000 o fyfyrwyr ar draws ein dau gampws glan môr trawiadol, sy'n cynnig awyrgylch cyfeillgar ac ymlaciol sydd wrth wraidd "profiad Abertawe".

Sefydlwyd y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn 2021 ac mae'n un o dair cyfadran y Brifysgol. Mae'r Gyfadran yn cynnwys 3 ysgol (Meddygaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Seicoleg), ac yng nghalon ei hamgylchedd ymchwil mae’r Sefydliad Gwyddor Bywyd. Datgelodd canlyniadau diweddar REF2021 bod 85% o ymchwil yr adran wedi'i graddio fel "arwain y ffordd yn fyd eang" neu'n "ardderchog yn rhyngwladol".

Gan adrodd i'r Is-ganghellor, dyma rôl allweddol yn Uwch-dîm Rheoli'r Brifysgol, a bydd yn darparu arweinyddiaeth strategol ac arloesol ar gyfer y Gyfadran, gan sicrhau bod ei hamcanion academaidd ac ariannol yn cael eu gwireddu, ynghyd â rhai'r Brifysgol yn ehangach. Rydym yn chwilio am arweinydd academaidd dadansoddol a strategol sydd â’r gallu i ddatblygu a chyflawni ar strategaethau sefydliadol. Hefyd, bydd yn meddu ar y gallu i arwain, annog a datblygu ffydd a pharch. Bydd y Dirprwy Is-ganghellor newydd yn gwella ansawdd yr ymdrechion academaidd, yn gwella enw da'r brifysgol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn llywio effeithlonrwydd, gan gynnwys llifoedd incwm newydd, ac yn gwireddu cynaliadwyedd ariannol. Yn unol â diwylliant, ymddygiadau a gwerthoedd y Brifysgol, bydd y Dirprwy Is-ganghellor newydd hefyd yn arweinydd ardderchog ac yn meithrin diwylliant sy'n annog arloesedd, gonestrwydd a gwaith tîm, ac yn hyrwyddo cynwysoldeb. Dyma gyfle gwych i wneud gwahaniaeth go iawn i Brifysgol Abertawe.

Fel Cyfadran, ac fel rhan o'r Brifysgol ehangach, rydym yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein holl weithgareddau, ac rydym yn gwahodd ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried ymgeisio am y cyfle hwn.

Mae Saxton Bampfulfe Ltd yn gweithredu fel ymgynghorydd asiantaeth gyflogi i Brifysgol Abertawe. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gan gynnwys manylion ynghylch sut i gyflwyno cais, ewch i https://www.saxbam.com/appointment/swansea-university-15/, gan ddefnyddio'r cyfeirnod WASYT. Neu e-bostiwch Belinda.beck@saxbam.com. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn canol dydd ddydd Gwener 16 Awst 2024.