Rydym yn ein datblygu ein hunain a’n timau trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac yn defnyddio adborth i wella. Rydym yn creu diwylliant sy’n cyflawni canlyniadau llwyddiannus trwy bobl, gan gefnogi, datblygu a herio ein timau i lwyddo. Rydym ni’n cynnwys ein pobl yn y gwaith o ddatblygu gweledigaeth at y dyfodol a galluogi arloesedd a newid, gan wella perfformiad y Brifysgol, y tîm a’r unigolyn.
- enghreifftiau- Fel arweinyddion ym Mhrifysgol Abertawe byddwn ni’n:
- Mynd ati i roi, ceisio a derbyn adborth, gan ddefnyddio hynny'n gyfle i feithrin hunanymwybyddiaeth a gwella ein perfformiad ein hunain ac eraill
- Hyrwyddo pwysigrwydd strategol pobl, gan greu diwylliant dysgu sy'n gosod gwerth ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn ei alluogi er mwyn mwyafu potensial unigolion a'r tîm, gan gynnwys hyfforddiant tywys, mentora, profiad yn y swydd, a chymwysterau proffesiynol priodol
- Galw ein hunain a'r timau i gyfrif am gyflawni canlyniadau, gan greu diwylliant sy'n symbylu eraill i fod yn arloesol a chanolbwyntio ar ganlyniadau, a pherfformio'n effeithiol yn ystod cyfnodau heriol a newidiol
- Arwain newid, gan roi sylw i'r effaith ar bobl ac anghenion a blaenoriaethau Abertawe
- Mynd ati'n weithredol i gyfleu'r rhesymau sy'n sail ar gyfer penderfyniadau a chynlluniau strategol, gan gynnwys y staff wrth ddatblygu gweledigaeth feiddgar, arloesol, sy'n adlewyrchu gwerthoedd craidd y Sefydliad ac yn creu ymdeimlad o falchder
- enghreifftiau - Fel arweinyddion ym Mhrifysgol Abertawe ni fyddwn yn:
- Sefydlu diwylliant sy'n ofni cymryd risgiau, lle mae timau'n parhau i wneud pethau yn yr un ffordd, neu'n defnyddio pwysau amser yn esgus i beidio â meddwl am bethau mewn ffordd wahanol neu gyflawni pethau’n llawn
- Osgoi sgyrsiau anodd ynghylch perfformiad gwael neu er mwyn cydnabod a gosod gwerth ar lwyddiannau
- Methu â chynllunio a blaenoriaethu’n strategol, gan osod nodau amwys neu ddi-ysbrydoliaeth sydd heb ddisgwyliadau clir
- Brin o hyder neu effaith ar lefel uwch, gan golli cyfleoedd i gyfleu negeseuon neu gael ein gweld fel rhai sy’n rhy barod i gwyno yn hytrach na gwneud rhywbeth am y sefyllfa
- Methu ag arwain prosesau pobl yn weithredol, gan gynnwys recriwtio, cyfnod prawf a PDR, er mwyn adeiladu timau sy'n cyflawni ar lefel uchel.