Rydym ni’n ymfalchïo mewn cymhwyso ein gwybodaeth, ein sgiliau, ein gallu creadigol, ein huniondeb a’n gallu i farnu er mwyn darparu gwasanaethau arloesol, effeithiol, effeithlon a datrysiadau o ansawdd ardderchog
- enghreifftiau - Byddwn ni, staff gwasanaethau proffesiynol Prifysgol Abertawe, yn:
- Teimlo balchder wrth dderbyn ac arddangos cyfrifoldeb personol wrth gwblhau pethau ar amser ac i’r safon a ddisgwylir
- Darparu, ceisio a gwerthfawrogi adborth adeiladol rheolaidd, gan ei ddefnyddio i nodi datblygiad personol a gwella ein darpariaeth o ragoriaeth
- Meddwl yn agored am syniadau a chynigion newydd er mwyn darparu a chreu atebion arloesol
- Bod yn atebol am fethiant yn ogystal â llwyddiant, gan wneud penderfyniadau cytbwys a chymryd cyfrifoldeb drostyn nhw
- enghreifftiau - Ni fyddwn ni, staff gwasanaethau proffesiynol Prifysgol Abertawe, yn:
- Methu â deall pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus wrth ddysgu sgiliau newydd, datblygu dealltwriaeth a gadael i bobl wybod beth sy’n digwydd; naill ai wrth osgoi cyfleoedd datblygu neu drwy fethu â rhoi sgiliau newydd ar waith
- Methu terfynau amser, defnyddio pwysau amser fel esgus dros beidio â meddwl am bethau’n wahanol neu orffen pethau
- Osgoi gwneud penderfyniadau a methu â chymryd cyfrifoldeb dros flaenoriaethu ein gwaith, sy’n arwain at waith o safon isel
- Methu â gofyn am eglurdeb pan rydyn ni’n ansicr o’r hyn a ddisgwylir gennym ni, neu osgoi derbyn adborth