Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00540
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
2 Hyd 2024
Dyddiad Cyfweliad
8 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Prof Trystan Watson t.m.watson@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Prifysgol Abertawe am benodi Swyddog Ymchwil i weithio ar raglen grant y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, STRIP5 (Partneriaeth Ffyniant Ymchwil ac Arloesi TATA Abertawe ar gyfer Ffotofoltäig Perofsgit Argraffedig). Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig i arwain gwerthuso perfformiad byd go iawn a gweithgareddau ymchwil sy'n ymwneud â deunyddiau dyfais perofsgit o fewn y grŵp. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar brosesu, ehangu a gweithgynhyrchu arwynebedd mawr  ffotofoltäig perofsgit gyda phrofion gwerthuso gydol oes cysylltiedig. Bydd y gwaith yn cynnwys saernïo perofsgit arwynebedd mawr sy'n hyfyw ac yn sefydlog yn ddiwydiannol ynghyd â dylunio, sefydlu a chynnal systemau mesur sefydlogrwydd hirdymor. Y brif dasg fydd datblygu prosesau ac offeryniaeth ar gyfer gweithgynhyrchu rhôl i rôl modiwlau perofsgit oes hir ar swbstradau hyblyg.

Mae STRIP5 yn rhaglen partneriaeth ffyniant y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol rhwng Prifysgol Abertawe a TATA Steel sy'n cynnwys cydweithrediad diwydiannol a phresenoldeb carfan gref yn SPECIFIC IKC Prifysgol Abertawe. Bydd y Swyddog Ymchwil a benodir yn flaenllaw yn y tîm ymchwil sy'n cynnwys carfan o 6 ysgoloriaeth ymchwil PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol sy'n astudio hyfywedd masnachol Ffotofoltäig Perofsgit o ffilm hyblyg i swbstradau dur hyblyg.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod wedi’u tangynrychioli yn y byd ymchwil a byddem yn croesawu ceisiadau gan fenywod yn benodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.Penodir ar sail teilyngdod bob amser. 

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr