Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00551
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
1 Hyd 2024
Dyddiad Cyfweliad
11 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Dr Tracey Maegusuku-Hewett T.Maegusuku-Hewett@Swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hon yn swydd tymor penodol tan 30 Medi 2025, yw hon (35 awr yr wythnos)

Mae gan yr Adran Gwaith Cymdeithasol enw da am ddarparu addysg ac ymchwil ym maes gwaith cymdeithasol cyn ac ar ôl cymhwyso. Mae'r adran, sy’n rhan o Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, yn ymroddedig i ddarparu addysg gwaith cymdeithasol cynhwysol o safon ac i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr, dinasyddion, Gofal Cymdeithasol Cymru a'n sefydliadau partner Awdurdod Lleol. 

Dyma gyfle cyffrous i unigolyn profiadol sy'n siarad Cymraeg yn rhugl ac sydd â hanes proffesiynol o weithio ym maes gwaith cymdeithasol a hyfforddiant. Bydd y brif rôl yn cynnwys addysgu, asesu a chefnogi myfyrwyr Cymraeg a helpu i gryfhau'r cysylltiadau rhwng ein rhaglenni astudio amrywiol a'n rhanddeiliaid allweddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Brifysgol i lynu wrth Strategaeth y Gymraeg ac yn helpu i gyflawni'r targedau a osodwyd ar gyfer darpariaeth Gymraeg a myfyrwyr sy'n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y pwnc hwn.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd ym Mhrifysgol Abertawe a ledled Cymru sy'n gweithio tuag at hyrwyddo'r Gymraeg fel cyfrwng addysgu ac ymchwil yn yr Adran Gwaith Cymdeithasol.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi’u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn croesawu ceisiadau gan ddynion yn benodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.Penodir ar sail teilyngdod bob amser. 

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr