- Rhif y Swydd
- SU00623
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £33,882 i £37,999 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 8 Rhag 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 16 Rhag 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Dr William Allen w.l.allen@swansea.ac.uk
- Prof James Higham j.higham@nyu.edu
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma gyfle ar gyfer ymchwilydd ôl-ddoethurol llawn ysgogiad i weithio ar gwestiwn pwysig sydd heb ei ateb o ran lliw primatiaid: pam mae lliw epil cynifer o rywogaethau primat mor amlwg. Er enghraifft, mae oedolion langwriaid Hatinh (Trachypithecus hatinhensis) yn ddu tra bod yr epil yn oren llachar. Bydd y prosiect yn ymchwilio i sawl damcaniaeth pam y gallai fod yn fanteisiol i aelodau mwyaf diamddiffyn grŵp cymdeithasol fod yn weladwy.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r Labordy Ecoleg Esblygiadol a Synhwyraidd i weithio ar brosiect a ariennir gan yr NSF-BBSRC “Primate natal coats: Form and function” ar y cyd â grŵp Ecoleg ac Esblygiad Primatiaid ym Mhrifysgol Efrog Newydd. Bydd yr ymgeisydd yn ymuno hanner ffordd drwy'r prosiect cyffredinol, ac yn cael y cyfle i arwain prosiect byr ar liw genedigol primatiaid ar y cyd ag ymchwilwyr arweiniol a chyfrannu at gydrannau eraill y prosiect sy'n mynd rhagddo. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddi data a pharatoi llawysgrifau, a byddai'n addas ar gyfer ymgeisydd sydd am ddatblygu arbenigedd a chofnod o gyhoeddiadau mewn ecoleg synhwyraidd ac esblygol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.