Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00664
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£33,882 i £33,882 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
30 Ion 2025
Dyddiad Cyfweliad
12 Chwef 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Fel cynorthwy-ydd ymchwil, byddwch yn gweithio'n agos gyda thîm y prosiect ymchwil am gyfnod o bedwar mis (7 awr yr wythnos) i ddylunio a datblygu prototeip rhyngweithiol yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil a gafwyd o ymchwil barhaus gyda Chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a darparwyr gwasanaethau ar gyfer y gymuned honno. Gallai'r prototeip fod ar y we neu ffonau clyfar. Rydym yn chwilio am rywun sydd â gradd mewn Cyfrifiadureg, Dylunio Rhyngweithio, Gwybodeg, neu ddisgyblaeth debyg. Mae angen profiad blaenorol o ddylunio a datblygu prototeipiau ar gyfer cymwysiadau gwe a ffonau clyfar. Mae hefyd yn ddymunol bod gan yr ymgeisydd gefndir mewn dylunio UX/UI, rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron (HCI), a dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Contract: 4 mis 

Oriau gwaith: 7 awr y wythnos

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr