Mae ‘Stolen Bikes UK’ yn cynnig nifer o wasanaethau i'ch helpu i ddod o hyd i'ch beic os yw wedi ei ddwyn:
Find that Bike: Mae https://findthatbike.co.uk/ yn dwyn ynghyd hysbysebion am feiciau ail law o nifer o wefannau, gan gynnwys Gumtree ac eBay, mewn un oriel fawr y gellir ei chwilio. Gallwch hefyd osod rhybudd e-bost fydd yn rhoi gwybod i chi os caiff beic o'r un disgrifiad â’ch chwiliad ei restru ar werth.
Check that Bike: Mae https://checkthatbike.co.uk/ yn coladu gwybodaeth gan gwmnïau yswiriant, gwneuthurwyr beiciau a'r Heddlu am feiciau sydd wedi'u dwyn, sy'n galluogi aelodau'r cyhoedd i wirio rhif ffrâm eu beic yn erbyn cofnodion ar y gronfa ddata.
Rhowch wybod i’r Heddlu am unrhyw wybodaeth ynghylch trosedd beiciau trwy alw 101, neu 999 wrth iddo ddigwydd.