Adran Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol Prifysgol Abertawe
Ffilmio / Ffotograffiaeth / Bywgraffiadau/ Proffiliau / Cyfweliadau
Nodyn: At ddibenion yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn,
Ystyr "chi" neu "eich" yw unigolyn yr ydym yn casglu data personol amdano
Ystyr "ni", "ein" neu "y Brifysgol" yw Prifysgol Abertawe
Ystyr "data" neu "data gweledol" yw eich gwybodaeth adnabod bersonol yr ydych wedi'i rhoi i ni neu rydym wedi'i chasglu a/neu ffotograffau neu ddelweddau ohonoch sy’n symud.
Hysbysiad Preifatrwydd: Ffilmio / Ffotograffiaeth / Bywgraffiadau / Proffiliau / Cyfweliadau drafft f1.1
Enw a manylion cyswllt y Rheolwr Data
Prifysgol Abertawe yw'r Rheolwr Data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).
Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu â nhw drwy e-bost.
Pan fyddwn yn casglu eich data personol
Gall y Tîm Gwasanaethau Creadigol gasglu eich data a'ch safbwyntiau personol drwy'r dulliau canlynol:
- ffurflenni casglu data a holiaduron naill ai'n bersonol neu drwy ein gwefan
- dros y ffôn drwy gyfweliad
- drwy e-bost
- trwy gyfweliad
- gwybodaeth yr ydych wedi'i rhoi i ni'n uniongyrchol
- tynnu llun neu greu ffilm
Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?
Gall y Tîm Gwasanaethau Creadigol gasglu a storio’r wybodaeth ganlynol amdanoch:
- Enw
- Manylion cyswllt (megis cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, dolen gymdeithasol)
- Dyddiad geni
- Eich gweithgareddau wrth baratoi ar gyfer addysg uwch, e.e. mynychu diwrnod agored
- Eich cwrs astudio gyda ni
- Eich campws astudio gyda ni
- Enw eich cyflogwr presennol
- Teitl eich swydd
- Blwyddyn graddio / astudio
- Eich barn ar eich amser gyda ni
- Eich gweithgareddau yn ystod eich amser gyda ni
- Eich dewisiadau cyfathrebu
- Unrhyw gwestiynau rydych wedi'u gofyn neu fanylion personol eraill rydych wedi'u rhannu â ni
- Eich delwedd ar ffotograff neu mewn ffilm
Rydym yn ystyried prosesu eich data (a rhannu eich data gyda'r trydydd partïon a restrir isod), yn yr achos hwn, yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd, h.y. codi ymwybyddiaeth o opsiynau addysg bellach ac uwch, fel prifysgol.
Data Personol Arbennig
Lle rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol amdanoch, rydym yn dibynnu ar eich caniatâd penodol, naill ai drwy e-bost neu drwy lenwi ein ffurflen casglu data, er mwyn prosesu eich data personol arbennig.
- Data personol
- atgelu tarddiad hiliol neu ethnig
- Barn wleidyddol
- Credoau crefyddol neu athronyddol
- Aelodaeth a hynt Undebau Llafur
- Data genetig
- Data biometreg (at ddibenion adnabod person naturiol yn unigryw)
- Data sy'n ymwneud ag iechyd, neu
- Data yn ymwneud â'ch bywyd rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio gan y tîm Gwasanaethau Creadigol fel a ganlyn:
- Dim ond i'ch adnabod chi ac i'r brifysgol gysylltu mewn perthynas â'ch bywgraffiad/proffil/cyfweliad y defnyddir eich enw, eich gwybodaeth gyswllt a'ch dyddiad geni.
- Cyhoeddi ar wefan y Brifysgol a safleoedd cysylltiedig
- Defnyddio mewn cyhoeddiadau, print a digidol, e.e. y prosbectws
- Ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol, e.e. Facebook, Snapchat, YouTube, ac ati.
- Defnyddio mewn datganiadau byd-eang i'r wasg
- Defnyddio mewn hysbysebu byd-eang
- Defnyddio mewn darllediadau byw, a'u recordiadau
- Defnyddio mewn digwyddiadau hyrwyddo
- Defnyddio mewn ffilmiau cyhoeddusrwydd, e.e. diwrnodau agored
- Defnyddio mewn cyflwyniadau cyhoeddusrwydd
- Defnyddio mewn deunyddiau addysg
Gyda phwy y bydd eich data'n cael ei rannu?
Mae gennym restr o gyflenwyr cymeradwy y byddwn yn rhannu eich data â nhw, pan fo angen, gan gynnwys:
- Argraffwyr
- Meddalwedd Rheoli Asedau Digidol
- Meddalwedd Rheoli Perthynas Cwsmeriaid
- Cwmnïau Cynhyrchu’r Cyfryngau, a ddefnyddir ar gyfer ffilmio a golygu
- Asiantaethau Dylunio Graffig
Am ba hyd y byddwn yn cadw'r ffeiliau gwreiddiol?
Byddwn yn cadw'r data gwreiddiol am uchafswm o bum mlynedd, ac ar ôl hynny caiff ei ddileu. Rydym yn cadw'r hawl i gadw data am fwy o amser, ond byddwn yn gofyn am ganiatâd pellach cyn gwneud hynny. Sylwer, os yw'r data'n cael ei ddosbarthu oherwydd print neu ddarlledu y tu allan i'r Brifysgol, gall y data fodoli am gyfnod amhenodol oherwydd natur y math o ffeil.
Eich hawliau
Mae deddfwriaeth diogelu data yn rhoi nifer o hawliau gwahanol i unigolion mewn perthynas â'u data. Rhestrir y rhain isod ac maent yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau:
Gofyn am fynediad i'ch gwybodaeth bersonol (a elwir yn gyffredin yn "gais gwrthrych am wybodaeth"). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch ac i wirio ein bod yn ei phrosesu'n gyfreithlon.
Gofyn am gywiro y wybodaeth bersonol sydd gennym ar eich cyfer. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi.
Gofyn am ddileu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ar wybodaeth bersonol lle nad oes rheswm da i ni barhau i'w phrosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu neu ddiddymu eich gwybodaeth bersonol neu ddelweddau lle rydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu prosesu (gweler isod).
Gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac mae rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy'n gwneud i chi fod eisiau gwrthwynebu prosesu ar y sail hon. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol.
Gofyn am gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch, er enghraifft os ydych am i ni sefydlu ei chywirdeb neu'r rheswm dros ei phrosesu.
Gofyn am hygludedd data eich gwybodaeth bersonol. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych yr hawl i'w gwneud yn ofynnol i ni ddarparu copi electronig o'ch gwybodaeth bersonol i chi, naill ai at eich defnydd eich hun neu fel y gallwch ei rhannu â sefydliad arall. Lle bo'r hawl hon yn berthnasol, gallwch ofyn i ni, lle bo hynny'n ymarferol, drosglwyddo eich data personol yn uniongyrchol i'r parti arall.
Os ydych am adolygu, dilysu, cywiro neu ofyn am ddileu eich gwybodaeth bersonol, gwrthwynebu prosesu eich data personol, neu gofyn i ni drosglwyddo copi o'ch gwybodaeth bersonol i barti arall, cysylltwch â:
Mrs Bev Buckley
Swyddog Diogelu Data
Swyddfa’r Is-Ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Newidiadau i'r hysbysiad hwn
Byddwn yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i roi gwybod i chi am newidiadau i'r hysbysiad hwn.
Fersiwn 1 - diweddariad ddiwethaf: 20 Medi 2019