Rydym wrth ein boddau i'ch hysbysu bod y gwaith i adnewyddu cegin Tŷ Fulton wedi cael ei gwblhau!
Diolch am eich amynedd gyda ni yn ystod y datblygiad pwysig hwn ar y campws a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth y prosiect buddsoddi hanfodol hwn sy'n cefnogi datblygiad ein strategaeth arlwyo.
Mae'r gegin newydd wedi'i thrawsnewid yn gegin fasnachol fodern a fydd yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau i ddarparu profiad arlwyo cynaliadwy o safon uchel ar y campws, sy'n diwallu anghenion ein cymuned amrywiol o fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.
Dyma hefyd gam terfynol gwireddu Harbwr Fulton, ac rydym yn falch iawn o weld ein gofod bwyta a chymdeithasu diweddaraf ar Gampws Singleton yn barod i agor.
Bwyta ac Yfed yn Harbwr
Gallwch weld beth sy'n cael ei gynnig yn Harbwr ar ap Uni Food Hub, lle gallwch archwilio mannau arlwyo ar y campws, pori bwydlenni, archebu eich bwyd ar-lein a chael cynigion a gwobrwyon, i gyd mewn un lle - gallwch hefyd archebu o'r ciosg y tu mewn i'r lleoliad.
Rydym wir yn gobeithio eich bod yn mwynhau'r gofod newydd hwn ar y campws. Os nad ydych wedi cael y cyfle i ymweld â Harbwr eto, rydym yn eich annog i gymryd cipolwg!
Yn y cyfamser, mae popeth sydd angen i chi ei wybod am fwyta ac yfed yn Abertawe, yn cynnwys manylion am oriau agor y tu allan i ddyddiau'r tymor, ar wefan y Brifysgol: www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/gwasanaethau-arlwyo/ . Ac i gael yr holl newyddion diweddaraf am fwyd, dilynwch @swanseaunifood ar Instagram.
Gwaith Dymchwel y Gegin dros dro - Gwybodaeth Bwysig
O 12 Mehefin, bydd y gegin dros dro a leolir ar ochr ddwyreiniol Tŷ Fulton ar gau ac bydd gwaith paratoi i'w dymchwel yn dechrau. Bydd y gwaith i ddymchwel yr uned yn digwydd ddydd Mercher 19 a dydd Iau 20 Mehefin, a bydd craen ar y safle. Bydd mynediad i'r ffordd sydd ar ochr ddwyreiniol Tŷ Fulton lle lleolir y gegin ar gau i gerbydau a cherddwyr, ac ni fydd modd defnyddio’r rheseli beiciau - bydd rhwystrau yn eu lle a bydd y Gwasanaethau Diogelwch ar ddyletswydd yn yr ardal i sicrhau diogelwch defnyddwyr y campws. Ni fydd modd parcio ychwaith yn y cilfannau gollwng y tu cefn i Dŷ Fulton yn ystod y cyfnod hwnnw. Sylwer, yn dilyn dymchwel y gegin, bydd y ffordd fynediad ar gau ar gyfer gwaith hanfodol dros y penwythnos, o ddydd Gwener 21 Mehefin. Bydd y ffordd yn ailagor yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 24 Mehefin.
Bydd y ffordd at faes parcio Taliesin yn parhau ar agor, fodd bynnag gall fod cyfnodau byr pan na fydd mynediad iddi.
|
📅 Dydd Llun - Dydd Gwener 🕐 8am-6pm 📅 Dydd Sadwrn - Dydd Sul 🕐 Ar Gau |