Cynlluniwyd y Gerddi Botaneg rhestredig i gychwyn gan y botanegydd arloesol o Brydain a Deon y Gyfadran Wyddoniaeth, yr Athro Florence Annie Mockeridge, a ymddeolodd ym 1954 cyn cwblhau’r prosiect. Daeth Dr Herbert ‘Bertie’ Street i olrhain yr Athro Mockeridge, gan ddylunio cynllun terfynol yr ardd a goruchwylio’r broses o’i chreu.
Mae’r ardd yn cynnwys sawl nodwedd allweddol:
Yr Ymlusgdy: Cafodd yr enw hwn gan yr oedd yn wreiddiol yn gartref i grŵp bach o grwbanod a oedd yn byw ar yr ynys. Fe’i defnyddid hefyd mewn rhaglen fridio gwiberod a ryddhawyd yn y pen draw ar Benrhyn Gŵyr.
Y Pwll Addurniadol: Mae’r pwll yn cynnwys llyswennod, crethyll ac ambell bysgodyn aur ac mae hefyd yn gartref i anifeiliaid di-asgwrn-cefn a gweision y neidr.
Yr Oracl: Gweithiodd myfyrwyr y Brifysgol gydag elusen leol Down to Earth i adeiladu’r Oracl (sef yr Amgylchedd Dysgu Cymunedol ac Ymchwil Awyr Agored) yn y gerddi. Defnyddiodd y tîm ddeunyddiau lleol ag effaith ecolegol isel gan ddefnyddio sgiliau megis adeiladu waliau cerrig sych, ffurfio fframiau pren a chobio.
Y Ddôl: Mae’r ddôl fach yn y gerddi’n rhestredig a chaiff ei thorri unwaith y flwyddyn yn unig, gan gynyddu tirwedd fioamrywiol y Brifysgol.
Llwybr y Goedwig: Helpodd myfyrwyr y Brifysgol i adfer llwybrau cerdded y goedwig a oedd yn tueddu i foddi mewn llifogydd. Bellach, maent yn arwain at y ddôl restredig. Yn ogystal, adeiladwyd cyfres o ‘westai trychfilod’ a thomenni cynefin ganddynt ar hyd y llwybr, gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u huwchgylchu.
Cychod Gwenyn: Ym mis Ionawr 2014, cyflwynwyd cychod gwenyn i’r Gerddi Botaneg. Ar hyn o bryd, mae chwe chwch ar y safle y mae’r Brifysgol yn berchen arnynt ac yn gofalu amdanynt.
Manteisiwyd ar safle yr Ardd Fotaneg i elwa o’r microhinsoddau a grëwyd gan yr adeiladau a’r tir naturiol gerllaw, gan alluogi i blanhigion tyner, ecsotig ac yn aml brin iawn i gael eu tyfu. Yn gynyddol, mae’r ardd yn cael ei defnyddio fel meithrinfa i gynyddu stoc y planhigion presennol ac ychwanegu at gasgliadau presennol, gan wella bioamrywiaeth a hwyluso dysgu a lles. Mae myfyrwyr yn defnyddio’r ardd fel labordy byw ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud ag astudio gwenyn, ystlumod, madfallod dŵr ac amffibiaid.