Gweithiodd myfyrwyr y Brifysgol gydag elusen leol Down to Earth i adeiladu’r Oracl (sef yr Amgylchedd Dysgu Cymunedol ac Ymchwil Awyr Agored) yn y gerddi. Defnyddiodd y tîm ddeunyddiau lleol ag effaith ecolegol isel gan ddefnyddio sgiliau megis adeiladu waliau cerrig sych, ffurfio fframiau pren a chobio.


