Am Y Neuadd Fawr
Lleoliad celfyddydau diwylliannol amlbwrpas ar gyfer y Brifysgol a'r gymuned ehangach gan gynnwys awditoriwm â 700 o seddi, darlithfeydd o’r radd flaenaf, ystafelloedd cyfarfod a chaffi hyfryd sy’n cynnig golygfeydd godidog dros Fae Abertawe.
Dyluniwyd y cyfleuster hwn gwerth £32m gan y pensaer byd-enwog Dr Demetri Porphyrios fel gofod amlbwrpas a’r gobaith yw y bydd yn ymestyn allan y tu hwnt i’r Brifysgol i’r gymuned ehangach.
Dyluniwyd y Neuadd Fawr i ddarparu cartref newydd i’r celfyddydau yn y Brifysgol; ac adeiladu ar gynigion presennol y celfyddydau diwylliannol sef theatr, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, crefft a sinema a ddarperir gan theatr Taliesin ar Gampws Parc Singleton.