Cynghreiriau Cymdeithasol
I bobl ag ochr fwy cystadleuol nad ydynt am ymrwymo i glwb, mae ein rhaglen Cynghreiriau Cymdeithasol yn cynnig fformat cynghrair rheolaidd a strwythuredig i bawb, gan gynnwys sawl gwahanol fath o chwaraeon.
Mae rhaglen Cynghreiriau Cymdeithasol Chwaraeon Abertawe yn cynnig fformat cynghrair hwyliog, rheolaidd a strwythuredig ar gyfer nifer o wahanol chwaraeon. Mae gennym gynghreiriau amrywiol sydd ar gael yn wythnosol, a thwrnameintiau, gwyliau, a digwyddiadau hwyliog a chystadleuol, sy'n rhedeg drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein cynghreiriau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol naill ai ar gampysau’r Brifysgol neu'n agos atynt mewn amgylchedd trefnus, cyfeillgar, a fforddiadwy sy'n agored i bob lefel gallu. Mae ein cynghreiriau cymdeithasol yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd a phresennol gydag opsiynau i ymuno fel unigolyn neu fel grŵp.
Cymerwch gipolwg ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig isod.