CHWARAEWCH GOLFF TÎM CYNTAF YM MHRIFYSGOL ABERTAWE
Mae ein rhaglen golff yn cynnig cyfle i chwaraewyr golff addawol gystadlu mewn amgylchedd BUCS, fel rhan o gystadlaethau tîm ac unigol.
Mae ein rhaglen golff yn dîm llwyddiannus iawn, sy'n chwarae yng nghynghrair y Gorllewin 1A BUCS gan lwyddo i gyrraedd rownd penderfynu'r Uwch-gynghrair yn nhymor 2022/23. Caiff gemau BUCS eu chwarae yng Nghlwb Golff y Clun, sef cwrs golff gwych ar Benrhyn Gŵyr, dafliad carreg o Gampws Singleton.
Fel rhan o raglen Chwaraeon Ffocws Chwaraeon Abertawe, mae'r tîm yn cael cyllid tuag at Hyfforddwr PGA, yn ogystal â sesiynau cryfder a chyflyru a chymorth ychwanegol gan y tîm.