Cynhyrchwyd Cynllun gwreiddiol Campws y Bae gan Porphyrios Associates, cwmni o fri rhyngwladol sy'n cynnig gwasanaethau pensaernïaeth, dylunio trefol a chynllunio. Mae Cynllun Campws y Bae yn ddogfen fyw sy'n ategu nwyddau, cadernid a phleser fel egwyddorion gweithiol pensaernïaeth a threfolaeth.
Mae gan Porphyrios Associates enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth dylunio, ac mae wedi ennill sawl gwobr a chlod. Mae prosiectau dylunio trefol yn cynnwys tref Pitiousa yn Spetses; Cynllun Gorsaf Ganolog King's Cross yn Llundain; a Chynllun Campws y Bae.
Uchelgais Prifysgol Abertawe yw creu cyfadeilad ymchwil, arloesi ac addysg newydd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang. Mae'r Brifysgol yn gwireddu'i huchelgais drwy greu Campws y Bae, un o'r prosiectau economi gwybodaeth mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac un o'r pump mwyaf yn Ewrop. Dyluniwyd cynllun gwreiddiol Campws y Bae gan Porphyrios Associates gan weithio'n agos gyda Sefydliad y Tywysog ar gyfer Adeiladu Cymuned i sicrhau creu campws cynaliadwy a pharhaol â mannau cyhoeddus o ansawdd uchel.
Wrth gynllunio, roedd yr elfen ardaloedd cyhoeddus yr un mor bwysig â'r adeiladau eu hunain. Mae mannau cyhoeddus Campws y Bae yn hygyrch, yn gyfeillgar i ddefnyddwyr ac yn gain i bawb sy'n eu defnyddio. Maent yn gwneud y Campws yn ddiogel i'w ddefnyddio, yn hawdd ei ddeall ac yn lle bywiog i fyw ynddo. Adeiladwyd y Campws gydag adeiladau o'r radd flaenaf wedi'u canoli ar ardaloedd iard colegol a stryd fewnol i greu synnwyd o gymuned.
Mae Prifysgol Abertawe'n sefydliad integredig i fyfyrwyr, busnesau a'r cyhoedd – mae cynllun Campws y Bae yn galluogi i ni ddarparu hyn yn wirioneddol.
Sefydlwyd Porphyrios Associates ym 1985 gan Dr Demetri Porphyrios, ac mae'r cwmni'n cynnig gwasanaethau proffesiynol pensaernïaeth, cynllunio a dylunio trefol.