Dysgwch ragor am y prosiectau a'r adeiladau ar Gampws y Bae fel rhan o'n rhaglen Datblygu Campws a ddechreuodd yn 2010.
Prosiectau Allweddol
IMPACT
Mae IMPACT ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe yn rhan o'r Coleg Peirianneg fel Sefydliad Ymchwil lled-ymreolaethol, gydag amcanion ymchwil strategol y'u pennir gan Fwrdd Llywio Gwyddonol a chyngor gan randdeiliaid diwydiannol, llywodraethol ac academaidd allanol. Bydd yn darparu labordai hynod arbenigol sydd wedi'u diogelu at y dyfodol ar gyfer ymchwil sylfaenol a swyddfeydd yn creu amgylchedd deinamig ar gyfer cydweithio rhwng diwydiant a'r byd academaidd, gyda'r nod o ddenu ariannu ymchwil sylweddol.
Bydd cam hwn y Sefydliad Ymchwil lled-ymreolaethol yn gweithredu ym maes blaenoriaeth Her Fawr Peirianneg a Deunyddiau Uwch i ychwanegu at alluoedd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang y Coleg Peirianneg.
Bydd IMPACT yn galluogi newid sylweddol mewn ymchwil ac arloesi yng ngrwpiau ymchwil rhagorol cyfredol y Coleg mewn Technolegau Deunyddiau, Prosesu a Rhifiadol.
Caiff rhaglen ymchwil IMPACT ei chyflwyno gan dîm sy'n gystadleuol yn rhyngwladol o fwy na 65 o ymchwilwyr academaidd mewnol a mwy na 155 o ymchwilwyr ychwanegol yn gweithio mewn cyfleusterau ymchwil o ansawdd uchel. Bydd ethos pendant IMPACT yn sicrhau bod ei ymchwil yn dod ag arbenigedd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ar draws y Coleg Peirianneg at ei gilydd i greu timau amlddisgyblaethol sy'n gallu denu arbenigwyr a doniau sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac ariannu ychwanegol sylweddol i gynnal ymchwil ymestynnol sylfaenol.
Fe'i hategir gan feysydd mwy newydd, megis ymchwil ffotofoltäig drwy gydleoliad Consortiwm Ymchwil Academaidd Ffotofoltäig Solar (SPARC II) Cymru.
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Bydd y Ffowndri Gyfrifiadol ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe yn trawsnewid Abertawe, gorllewin Cymru, y cymoedd a'r genedl yn gyrchfan byd-eang ar gyfer gwyddonwyr cyfrifiadol. Bydd y Ffowndri'n sefydlu ecosystem ddigidol o fri rhyngwladol ar gyfer ymchwil gwyddor gyfrifiadol o'r radd flaenaf gan ddod ag ymchwil rhyngddisgyblaethol at ei gilydd a mynd i'r afael â'r heriau mawr y mae'r economi a chymdeithas yn eu hwynebu dan dair thema, sef Cynnal Bywyd, Gwella Bywyd a Sicrhau Bywyd. Bydd yn parhau i gynyddu gallu Prifysgol Abertawe o ran ei chryfderau ymchwil o fri rhyngwladol mewn gwyddor gyfrifiadol.
Bydd y Ffowndri Gyfrifiadol yn amgylchedd pwrpasol a adeiledir at ddiben darparu cartref i wyddonwyr cyfrifiadol yng nghanol Campws y Bae. Nod y Ffowndri yw cynyddu cydweithio rhwng diwydiant a'r gymuned academaidd, a chynnig lleoedd ysbrydoledig ac ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau, seminarau a chyfarfodydd i alluogi i'r sgyrsiau hyn ffynnu.
Bydd y Crwsibl Ymchwil yn y Ffowndri'n cynnig cyfleusterau i fwy na 150 o ymchwilwyr, gan gynnwys labordai ymchwil a datblygu, cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr, ac ardal rwydweithio. Bydd yn cynnwys labordai ymchwil pwrpasol a fydd yn cefnogi gwaith profi cysyniadau a phrototeipiau diwydiannol, yn ysgogi cyfleoedd masnachol, entrepreneuriaeth a chreu swyddi, gan arwain at ymgysylltu ystyrlon â diwydiant a busnesau o bob maint ac ym mhob sector.
Ariennir y Ffowndri Gyfrifiadol yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae'r Ffowndri Gyfrifiadol yn rhan o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe.
Y Coleg
Mae Prifysgol Abertawe'n cryfhau ei phartneriaeth a sefydlwyd degawd yn ôl â Navitas, 'Coleg Rhyngwladol Cymru Abertawe (ICWS)', yn sgil llofnodi cytundeb ar gyfer menter ar y cyd a fydd yn darparu buddsoddiad allanol o ryw £45m yn ystâd y Brifysgol. O ganlyniad, bydd dau adeilad newydd yn cael eu creu ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, sef adeilad academaidd a phreswylfa ar gyfer 411 o fyfyrwyr, yn ogystal ag enw newydd. Caiff y bartneriaeth ei hadnabod fel 'Y Coleg, Prifysgol Abertawe’.
Coleg Peirianneg
Adeilad Canolog Peirianneg
Mae Adeilad Canolog Peirianneg yn rhan o’r Coleg Peirianneg ac mae’n canolbwyntio ar beirianneg a gweithgynhyrchu uwch. Mae'n gartref i Hyb Arloesi Bae Abertawe sydd, yn ogystal â'r Ganolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg (EMC), wedi'u hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae gan Adeilad Canolog Peirianneg gyfleusterau o safon fyd-eang ar gyfer addysgu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â chyfleusterau ymchwil a datblygu diwydiannol mewn adeilad o'r radd flaenaf. Mae Adeilad Canolog Peirianneg yn cynrychioli buddsoddiad oddeutu £36 miliwn a fydd yn galluogi i'r Brifysgol gynyddu ei gweithgareddau mewn peirianneg a gweithgynhyrchu uwch.
Mae Adeilad Canolog Peirianneg yn cynorthwyo gyda'r canlynol hefyd:
- Addysgu israddedig ac ôl-raddedig.
- Iechyd a'r Biowyddorau i ddatblygu atebion peirianneg i heriau iechyd, gan gynnwys nanodechnoleg a dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu er mwyn cynhyrchu ar sail dyfeisiau prototeip.
- Economi Carbon Isel mewn meysydd megis datblygu deunyddiau ar gyfer lleihau pwysau a pherfformiad erodeinamig.
- Clwstwr Economi Digidol i ddatblygu caledwedd a thechnolegau diwifr.
Mae'r rhyngweithio rhwng y meysydd pwnc yn gymhleth iawn ac mae sawl maes lle gellir integreiddio a chynnig cefnogaeth rhwng un ddisgyblaeth a'r llall.
Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Adeilad Dwyreiniol Peirianneg – cartref y Cyfleuster Cynhyrchu
Mae Adeilad Dwyreiniol Peirianneg ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe yn rhan o'r Coleg Peirianneg. Mae’n darparu cyfleusterau addysgu israddedig ac ôl-raddedig, ardaloedd gwaith a gofod ymchwil i staff a myfyrwyr ymchwil sy’n ymwneud â Pheirianneg Sifil, Peirianneg Drydanol, Peirianneg Ddeunyddiau a Pheirianneg Fecanyddol. Bydd yr adeilad yn cynnwys y prif gyfleusterau gweithdy ar gyfer y Coleg Peirianneg cyfan hefyd.
Mae Adeilad Dwyreiniol Peirianneg yn gartref i'r Cyfleuster Cynhyrchu, sy'n adnodd ymchwil a datblygu ar gyfer cymwysiadau gweithgynhyrchu yn y sector gweithgynhyrchu uwch. Mae'n gartref i gyfleuster Microsgop Sganio Electron o'r radd flaenaf, Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru a phrosiect y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC).
Mae Adeilad Dwyreiniol Peirianneg yn cynnwys grwpiau ymchwil sy'n astudio polymerau a deunyddiau cyfansawdd, deunyddiau, peirianneg sifil, electroneg a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Mae ganddo wyth Hyb Ymchwil yn lletya hyd at 60 aelod staff academaidd a hyd at 275 o ymchwilwyr.
Dyluniwyd yr adeilad i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i fyfyrwyr ac ar gyfer ymchwil, yn enwedig ym maes gweithgynhyrchu. Mae'n cynnig gofod ymchwil sy'n hyblyg ac yn fawr a fydd yn galluogi cynnal arbrofion a datblygu prototeipiau ar raddfa lawn.
Mae Adeilad Dwyreiniol Peirianneg yn gartref i'r Ganolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg (EMC) sydd, ar y cyd â Hyb Arloesi Bae Abertawe, wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Darllenwch ragor am y Ganolfan Gweithgynhyrchu Peirianneg.
Yr Ysgol Reolaeth
Mae adeilad o'r radd flaenaf yr Ysgol Reolaeth yn gartref i fyfyrwyr a staff Cyfrifeg, Rheoli Busnes ac Economeg. Cynigir ymchwil cymhwysol, arloesedd a chyfleoedd cyflogaeth gan yr amgylchedd gwaith eithriadol hwn.
Wedi'i lleoli ar lan y môr, bydd gan yr Ysgol Reolaeth ystafelloedd darlithio ac addysgu pwrpasol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Mae tri llawr wedi'u neilltuo ar gyfer profiadau myfyrwyr ac ardaloedd addysgu ac ymchwilio uwch-dechnoleg sydd, ar y cyd ag ardaloedd cydweithio a chydymarfer, yn sicrhau y gall yr Ysgol gyflawni ei hymrwymiad i gynnig profiad diddorol ac arloesol i fyfyrwyr.
Mae gan yr Ysgol amgylchedd unigryw sy'n meithrin ymgysylltu, cydweithio ac arloesi. Bydd y myfyrwyr yn elwa o leoliadau gwaith, datblygu sgiliau ac awyrgylch o fentergarwch ac entrepreneuriaeth.
Preswylfeydd Myfyrwyr
Mae'r preswylfeydd myfyrwyr newydd ar Gampws y Bae wedi'u cynllunio fel bod y gofod mewnol yn fodern a bod ochr allanol yr adeilad yn gallu goroesi treigl amser, o ran cynllun ac yn erbyn yr elfennau.
Dechreuodd y gwaith ar gam nesaf datblygu llety myfyrwyr ym mis Ionawr 2016, a bydd wedi'i gwblhau yn barod i fyfyrwyr symud i mewn ym mis Medi 2017. Bydd hwn yn dod â chyfanswm y llety sydd ar gael i fyfyrwyr, a ddarperir mewn tri cham gwahanol gan St. Modwen ar gyfer Campws y Bae, i 2,000 erbyn hydref 2017.
Visit the Accommodation pages
Llyfrgell y Bae
Yng nghanol Campws y Bae, Llyfrgell y Bae yw'r man lle ceir mannau dysgu, ymchwil ac academaidd cymdeithasol sy'n cefnogi gwaith myfyrwyr israddedig, myfyrwyr ôl-raddedig a staff. Bydd y campws yn darparu mynediad at ein hystod lawn o gyfnodolion ar-lein, e-lyfrau, setiau a'n 850,000 o eitemau print, naill ai'n lleol neu, ar gyfer meysydd pwnc penodol, drwy drosglwyddo rhwng ein campysau.
Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI)
Mae'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) yn cyfeirio cryfder y Coleg Peirianneg ar y sector ynni.
Mae'r Sefydliad yn derbyn nawdd gan y diwydiant. Mae'n canolbwyntio ar faterion diogelwch sy'n ymwneud â datblygu ac ehangu ar brosesau ynni presennol, yn ogystal â defnyddio ac integreiddio technolegau ynni 'gwyrdd' newydd yn ddiogel.
Bydd cynllun ac adeiladwaith adeilad newydd 3,800m² yn galluogi i'r Brifysgol ddatblygu ansawdd a maint ei hymdrechion ymchwil ym maes ynni a diogelwch.
Mae gan y Sefydliad bwyslais rhyngwladol ac mae'n aelod cyfansoddol o'r Sefydliad Diogelwch Ynni Byd-eang (a sefydlwyd yn Houston, Tecsas yn 2011); mae'n chwaer sefydliad i'r Sefydliad Ynni a Systemau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Rice, Houston; ac mae'n gydymaith i'r Ganolfan Ymchwil Cyrydiad Cenedlaethol ym Mhrifysgol A&M Tecsas (a gefnogir gan BP yng Ngogledd America).
Mae hyn yn adeiladu ar gysylltiadau hirdymor presennol y Coleg Peirianneg ym maes petrolewm a phrosesu cemegau, yn benodol o ran gwyddor gyfrifiadurol (modelu hollti creigiau a 'ffracio') a chyrydu.
Ategir gan lwyddiant ymchwil mwy diweddar mewn ynni morol, ynni niwclear, ynni llanw, uwch drin dŵr ('ffracio' ôl-driniaeth a gwahanu), deunyddiau, rheoli argyfwng a meysydd mwy newydd megis ffotofoltäig a nanodechnoleg.
Y Neuadd Fawr
Y Neuadd Fawr eiconig yw cymynrodd BP i Brifysgol Abertawe. Mae'r Neuadd wedi'i lleoli yng nghanol Campws y Bae ac mae'n ofod hardd i'r Brifysgol gynnal cyngherddau, cynadleddau a seremonïau graddio a digwyddiadau mawr eraill. Mae ar gael i staff, myfyrwyr a'r gymuned ei mwynhau.
Ar y llawr cyntaf mae cyfleusterau cyngherddau, arddangosfeydd a chynadleddau gyda lle i gynnal digwyddiadau i hyd at 700 o bobl.
Mae'n cynnwys naw gofod addysgu, gan gynnwys:
Darlithfeydd rhenciog 300 o seddau
Ystafelloedd seminar 20 sedd
Cyfanswm o 1,300 o seddau
Y Sefydliad Deunyddiau Strwythurol (ISM)
Mae'r Sefydliad Deunyddiau Strwythurol (ISM) yn cynnwys cymysgedd o ymchwil academaidd a gweithgareddau masnachol.
Ystafell Ddosbarth Weithredol
Yr Ystafell Ddosbarth Weithredol yw prosiect arddangos graddfa lawn diweddaraf y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Caenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC), wedi'i leoli ar Gampws y Bae gwerth £450 miliwn Prifysgol Abertawe.
Mae'r Ystafell Ddosbarth Weithredol yn cynnwys labordy ac ystafell ddosbarth, a chaiff ei defnyddio ar gyfer addysgu myfyrwyr. Caiff ei monitro'n agos hefyd, gan alluogi ymchwilwyr i brofi a dilysu perfformiad yr adeilad mewn cyfleuster addysg ac i weld sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â thechnoleg.
Mae arddangos ar raddfa adeilad yn hanfodol wrth werthuso a phrofi technegau a thechnolegau cyn y cânt eu mabwysiadu gan y sector adeiladu, rheoleiddwyr a defnyddwyr. Cynlluniwyd rhaglen arddangos SPECIFIC i brofi'r adeiladau fel cysyniad pwerdai mewn ystod o ddefnyddiau.