Yn 2019, ymunodd y Brifysgol â sefydliadau addysg uwch eraill yn y DU wrth ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i fod yn sero net (ar gyfer allyriadau cwmpas 1 a 2) erbyn 2035.
Er mwyn cyflawni'r nodau datgarboneiddio beichus hyn (ar gyfer allyriadau cwmpas 1 a 2), rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon i ddatblygu Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio cynhwysfawr Prifysgol Abertawe, sydd wedi nodi sawl ymyriad ym mhob rhan o'n hystad dros gyfnod o 12 mlynedd.
Rhoddir newidiadau ar waith fesul cam, ar y ddau gampws.