Mae'r datganiad am hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://swanseauniversity.service-now.com/sp
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau wedi'i datblygu gan ServiceNow ac mae'n cael ei chynnal gan Brifysgol Abertawe. Hoffem i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio'r Ganolfan Gwasanaethau, teimlo bod croeso iddynt a chael budd o’r profiad. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- Chwyddo hyd at 200% heb i’r testun lifo oddi ar y sgrîn.
- Neidio i brif gynnwys y wefan yn ôl yr angen.
- Defnyddio darllenwyr sgrîn.
- Addasu'r bylchiadau yn y testun heb effeithio ar y drefn na'r defnyddioldeb.
Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r Ganolfan Gwasanaethau?
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau, a ddatblygwyd gan ServiceNow, wedi cael ei gwerthuso'n allanol a chan ein harbenigwr mewnol, ac mae'r ddau yn tystio bod y Ganolfan Gwasanaethau'n cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2. Mae gan y platfform nifer cyfyngedig o ganlyniadau nad ydynt yn cydymffurfio ac felly dyna pam y mae wedi cael ei asesu fel ei fod yn cydymffurfio'n rhannol.
Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o’r Ganolfan Gwasanaethau mor hygyrch ag y dylent fod:
- Nid yw marcio HTML yn cael ei ddefnyddio i'r safon ofynnol gyda defnydd o rinweddau ARIA a allai effeithio ar ddarllenwyr sgrîn.
- Mae rhai cyfuniadau o borwyr a dyfeisiau (Chrome ar ddyfeisiau Apple) yn effeithio ar lywio bysellfwrdd a chyda'r ddewislen lywio mae hyn yn effeithio ar yr holl dudalennau.
- Mae'r dudalen "Fy Ffefrynnau" yn gofyn am sgrolio llorweddol ar rai dyfeisiau.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y Ganolfan Gwasanaethau mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille, gallwch gysylltu â'n Canolfan Drawsgrifio:
- E-bost: braille@abertawe.ac.uk
- Twitter: @SUTranscription
Sut i ddod o hyd i'r Ganolfan Drawsgrifio: Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe - Prifysgol Abertawe
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r Ganolfan Gwasanaethau
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y Ganolfan Gwasanaethau. Os ydych yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd:
- E-bost: ITservicedesk@abertawe.ac.uk neu ffoniwch: +44 01792 60(4000)
Gweithdrefn Gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni'n bersonol
Nod y brifysgol yw darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyfarwyddyd proffesiynol ar gyfer myfyrwyr anabl, myfyrwyr ag anghenion penodol a/neu gyflyrau meddygol. Gallwn roi cymorth i chi os hoffech ymweld â ni neu ein ffonio.
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd:
Ffôn: +44 (0)1792 60 6617
E-bost: wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i wneud ei holl wefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
MMae’r Ganolfan Gwasanaethau'n cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2., o ganlyniad i'r achosion diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu'r hygyrchedd ar lefel AA sy'n ofynnol. Mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio unrhyw rannau o'r Ganolfan Gwasanaethau nad ydynt yn cydymffurfio, hyd y gwyddom, a'r hyn rydym yn ei wneud i sicrhau y byddant yn cydymffurfio. Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â'r rheoliadau hygyrchedd
Gwerthusodd yr archwiliad mewnol sampl o gynnwys y Ganolfan Gwasanaethau a gwelwyd nad oedd yn cydymffurfio â’r meini prawf canlynol.
- Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.1.1 Cynnwys nad yw'n destun - Erthyglau sylfaen gwybodaeth - Nid yw rhai delweddau yn defnyddio disgrifiadau amgen ar gyfer delweddau sy'n cyd-fynd â’r cyfarwyddiadau yn yr erthyglau.
- Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.4.1 Y Defnydd o Liw - Dynodir mewnbynnu cywir ac anghywir gan liw yn unig - Mae meysydd y ffurflen yn defnyddio seren goch i ddynodi meysydd gorfodol. Pan gwblheir y maes dan sylw mae’r seren yn troi’n llwyd.
- Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 4.1.1 Dosrannu - Rhinweddau HTML ansafonol ac ARIA - Cafodd y ffynhonnell ei chyflwyno i ddilysydd WS3, nodwyd nifer o rinweddau HTML unigryw a rhinweddau ARIA nad oeddent yn cael eu defnyddio'n gywir.
Baich anghymesur
Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.
Llywio a chyrchu gwybodaeth
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Offer rhyngweithiol a thrafodion
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Offer rhyngweithiol
Dim problemau neu ddim yn berthnasol.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.
PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r wefan hon yn defnyddio PDF, PowerPoint na dogfennau Word ar yr adeg hon. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF, ffeiliau PowerPoint neu ddogfennau Word newydd rydym yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gwerthfawrogi cynnig platfform cynhwysol a byddwn yn gwneud y canlynol:
- Creu system llywodraethu i gefnogi dyluniad hygyrch a chreu cynnwys.
- Adolygu dogfennau VPAT Hygyrchedd ServiceNow yn flynyddol.
- Archwilio'r Ganolfan Gwasanaethau i sicrhau nad ydym yn cyflwyno rhwystrau gyda chynnwys neu arferion datblygu mewnol.
Paratoi'r datganiad hwn am hygyrchedd
Paratowyd y datganiad ar 01/02/2025. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 13/02/25. Cafodd y wefan https://swanseauniversity.service-now.com/sp ei phrofi ddiwethaf ar 19/02/2024. Cynhaliwyd y prawf gan ein harbenigwr defnyddioldeb a hygyrchedd mewnol.
Mae ServiceNow yn cyhoeddi adroddiadau cydymffurfio sy'n seiliedig ar safon ryngwladol VPAT, sy'n ymgorffori WCAG, Adran Ddiwygiedig 508, a safonau hygyrchedd yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan ServiceNow ddogfen VPAT. Wrth ei hystyried, mae hyn yn nodi ei bod yn cydymffurfio'n rhannol â meini prawf AA WCAG. Sylwer y gallai hyn fod yn wahanol i'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad hwn gan fod eu hadroddiad wedi'i gyhoeddi ym mis Tachwedd 2024.