Datganiad am Hygyrchedd

Mae'r datganiad hwn am hygyrchedd yn berthnasol i https://learner.swan.ac.uk

Mae'r wefan hon wedi cael ei datblygu gan Tribal a chaiff ei chynnal gan Brifysgol Abertawe.  Mae'r wefan yn darparu cyfres o gymwysiadau, System Derbyn Myfyrwyr, Proffil Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr a staff yn y brifysgol. Hoffem i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio'r wefan learner.swan.ac.uk a theimlo bod croeso iddynt a chael budd o’r profiad. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

• Chwyddo hyd at 200% ac yn fwy heb i’r testun lifo oddi ar y sgrîn.
• Neidio i brif gynnwys y wefan.
• Addasu'r bylchiadau yn y testun heb effeithio ar y drefn na'r defnyddioldeb.
• Symud o fan i fan ar y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
• Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.


Mae gan AbilityNet
gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw learner.swan.ac.uk?

Mae'r wefan hon wedi cael ei gwerthuso gan ein harbenigwr mewnol ac mae'n ardystio bod learner.swan.ac.uk yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, fersiwn 2.2 safon AA.
Rydym yn ymwybodol nad yw rhai rhannau o learner.swan.ac.uk mor hygyrch ag y dylent fod:
• Mae gan dudalennau ddau dag H1 yn hytrach nag un ac nid yw <prif> dirnodau'n cael eu defnyddio.
• Nid oes modd defnyddio'r detholwr dyddiad o'r calendr naid gyda bysellfwrdd.
• Nid yw'r nodwedd neidio i'r prif gynnwys yn hepgor y ddewislen camau'r cais.
• Os yw'r defnyddiwr yn pwyso'r bysell mewnbynnu (enter) wrth deipio mewn maes ffurflen, bydd yn gadael ffurflen gais i sgrîn hafan y cais, sy'n ymddygiad annisgwyl.
• Mae gwallau ar sgrîn cyfrinair wedi'i anghofio yn ailgyfeirio defnyddwyr i'r sgrîn fewngofnodi.
• Mae'n rhaid i ddarllenwyr sgrîn ffocysu ar wallau yn hytrach na bod gwallau'n cael eu datgan gan y darllenydd sgrîn.

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth am learner.swan.ac.uk arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, gallwch gysylltu â'n Canolfan Drawsgrifio:

E-bost: braille@abertawe.ac.uk
Twitter: @SUTranscription

Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe, Adeilad Amy Dillwyn, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP, y Deyrnas Unedig

Sut i ddod o hyd i’r Ganolfan Drawsgrifio:   Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe – Prifysgol Abertawe

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi ymhen saith niwrnod.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda learner.swan.ac.uk

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd system rheoli dysgu learner.swan.ac.uk. Os ydych yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd:

Email IT Service Desk or Call us: +44 (0)1792 604000

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)

Cysylltwch â ni drwy ffonio neu ymweld â ni

Nod y Brifysgol yw darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyfarwyddyd proffesiynol ar gyfer myfyrwyr anabl a myfyrwyr ag anghenion arbennig a/neu gyflyrau meddygol. Gallwn roi cymorth i chi os hoffech ymweld â ni neu ein ffonio.
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd:

Ffôn: +44 (0)1792 60 6617
E-bost: disability@abertawe.ac.uk

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i wneud ei holl wefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae learner.swan.ac.uk yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.2 y Canllawiau am Hygyrchedd Cynnwys y We, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.

 

Cynnwys anhygyrch

Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i gynnal lefel AA o hygyrchedd. Mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio unrhyw rannau o learner.swan.ac.uk nad ydynt yn cydymffurfio, hyd y gwyddom, a'r hyn rydym yn ei wneud am y peth.
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

 

Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd

Gwerthusodd yr archwiliad mewnol daith myfyriwr sy’n defnyddio learner.swan.ac.uk a chanfuwyd diffyg cydymffurfiaeth â'r meini prawf canlynol.


Penawdau a thagiau wedi'u dyblygu

Mae nifer o dudalennau drwy gydol y wefan yn defnyddio dau dag H1 ac yn aml ailadroddir geiriau ac ymadroddion. Mae meini prawf WCAG yn nodi mai dim ond un tag H1 ddylai fod gan dudalen. Bydd defnyddio rhagor yn effeithio ar ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol gan eu bod yn dibynnu ar benawdau i symud o gwmpas y dudalen a deall ei strwythur. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd) WCAG 2.2.



Diffyg Prif Dirnod

Defnyddir tirnodau drwy gydol y wefan. Fodd bynnag, mae'r <prif> dirnod a ddylai gynnwys yr holl gynnwys unigryw ar gyfer y dudalen benodol honno ar goll. Bydd hyn yn effeithio ar ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol wrth iddynt geisio symud o gwmpas y dudalen a deall ei strwythur. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd) WCAG 2.2.



Nid yw'r calendr naid ar gael i ddefnyddwyr bysellfwrdd

Nid yw'r calendr naid sy'n cael ei ddefnyddio ym mhob maes dyddiad ar ffurflenni yn ymateb i fewnbwn bysellfwrdd pan gaiff ei agor. Nid oes modd i'r rhai sy'n defnyddio bysellfwrdd yn unig ddewis diwrnod, mis neu flwyddyn gan fod angen iddynt fewnbynnu'r wybodaeth hon â llaw mewn maes yn y ffurflen yn hytrach na'i dewis o galendr. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.1.1 (Bysellfwrdd) WCAG 2.2.



Nid yw'r nodwedd neidio i'r prif gynnwys yn neidio i gynnwys unigryw'r dudalen.

Wrth ei defnyddio gyda’r ffurflen gais a’r broses ymgeisio, mae'r nodwedd neidio i'r prif gynnwys yn neidio i'r bar dewislen ar y brig, nid i gamau a ailadroddir yn y cais (cartref, manylion personol etc) sy'n golygu bod angen i ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig dabio sawl gwaith ar bob tudalen i gyrraedd y ffurflen mae angen ei llenwi. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 2.4.1 (osgoi rhwystrau) WCAG 2.2.



Mae'r bysell mewnbynnu'n sbarduno ymddygiad annisgwyl

Wrth lenwi cais a golygu data ym meysydd ffurflen, mae pwyso'r botwm mewnbynnu mewn maes ar y ffurflen yn sbarduno rhyngweithio â'r botwm "Gadael" sy'n ailgyfeirio defnyddwyr i'r dudalen “Fy Ffurflen Gais". Bydd hyn yn effeithio ar y rhai sy'n defnyddio bysellfwrdd yn unig a defnyddwyr darllenydd sgrîn oherwydd eu bod yn rhyngweithio â ffurflenni drwy dabiau, y bysell mewnbynnu a'r bylchwr. Mae hyn yn ymddygiad annisgwyl oherwydd diffyg cylch ffocws ar y botwm "Gadael" ond sbardunir rhyngweithiad ac ailgyfeirio tudalen. Mae hyn yn methu bodloni maen prawf llwyddiant 3.2.2 (Mewnbynnu) WCAG 2.2



Ailgyfeirio Gwall Cyfrinair wedi'i Anghofio

Os ceir gwall 'Cyfrinair wedi'i Anghofio' megis e-bost anghywir neu gyfuniad anghywir o ran dyddiad geni (sy'n feysydd o fewn y ffurflen), mae'r system yn ailgyfeirio defnyddwyr i'r dudalen fewngofnodi gyda'r neges gwall, yn hytrach nag aros ar y dudalen cyfrinair wedi'i anghofio. Bydd hyn yn effeithio ar ddefnyddwyr darllenydd sgrîn oherwydd nad yw'r gwall yn cael ei gyhoeddi ac nid oes ffocws ar y neges gwall. Gellir effeithio ar ddefnyddwyr niwroamrywiol oherwydd bod hyn yn ymddygiad anarferol a allai eu drysu. Mae hyn yn methu bodloni maen prawf llwyddiant 3.3.3 (nodi gwallau) WCAG 2.2.



Nid yw negeseuon gwall yn cael eu cyhoeddi ac mae angen ffocws.

Nid yw pob neges gwall yn cael ei chyhoeddi a rhaid i ddarllenydd sgrîn ffocysu arnynt.Mae hyn yn achosi rhwystrau ychwanegol i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol i nodi a deall gwallau yn y prosesau dilysu, ailosod cyfrineiriau a chyflwyno cais am gwrs. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 4.1.3 (negeseuon statws) WCAG 2.2.

 

Cynnwys sydd y tu allan i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.

Ffeiliau PDF a dogfennau eraill

Bydd unrhyw ffeiliau PDF a dogfennau Word newydd rydym yn eu cyhoeddi yn ymdrechu i fodloni safonau hygyrchedd.

 

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae ein Map Hygyrchedd learner.swan.ac.uk yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd yn learner.swan.ac.uk.

 

Paratoi'r datganiad hwn am hygyrchedd

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 10/06/2023. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 12/08/2024.

Cafodd gwefan learner.swan.ac.uk ei phrofi ddiwethaf ar 09/06/2024. Cynhaliwyd y prawf gan ein harbenigwr defnyddioldeb a hygyrchedd mewnol.