Cais am Gynigion SAUM 2024/25 

Cyflwyniad

SAUM yw Sefydliad Astudiaethau Uwch Prifysgol Abertawe. Rydyn ni’n fudiad ledled y Brifysgol sy’n llawn pwrpas, ac sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsddisgyblaethol o’r ansawdd uchaf sy’n gwneud gwelliannau trawsnewidiol a phendant i fywyd a dealltwriaeth.

Cafodd ei lansio gan Brif Weinidog Cymru ym mis Chwefror 2021, ac rydym nawr yn gofyn am gynigion ar gyfer ein pedwerydd rownd o fuddsoddiad, gyda gwaith wedi’i ariannu yn dechrau ym mis Awst 2024.

Mae’r Alwad eleni yn eich gwahodd i fynd i’r afael â’r thema: Darganfyddiad ac arloesedd hyfryd, gobeithiol, llawen. Lluniwch berson bob dydd, yn eistedd ar “Omnibws Abertawe”: pa ymchwil y gellid ei wneud i ddod â gwên i'w hwyneb; ymdeimlad o obaith; a llwybrau i'w cyflawni? Pa agendâu, arbrofion ac ysgolheictod y mae'r lens hon yn eu hawgrymu, wrth fynd i'r afael ag un neu fwy o'r meysydd canlynol?

Dylai cynigion roi sylw pellach i un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • Dyfodol Cydnerth
  • Dyfodol Teg
  • Dyfodol Cynaliadwy
  • Dyfodol Diwydiannol Arloesol
  • Dyfodol y De Fyd-eang a'r Gogledd Fyd-eang

Fodd bynnag, ni ddylai’r rhestr hon eich cyfyngu. Os yw eich cynnig yn ymateb i bwrpas craidd yr Alwad hon i ddatblygu llwybrau ac egni ymchwil newydd, yn drawsddisgyblaethol o ran natur ac yn uchelgeisiol ac yn anturus, gwnewch gais. 

Am beth rydyn ni’n chwilio

Os ydych chi eisoes yn gweithio mewn tîm rhyngddisgyblaethol sefydledig ar eich pwnc arfaethedig, mae’n debyg nad yw’r alwad hon yn addas i chi. Yn hytrach, rydyn ni’n chwilio am dimau sy’n dod i’r amlwg ar draws y Brifysgol a thu hwnt sydd eisiau cyfle i archwilio maes a dull gweithredu arloesol iawn. Rhaid i dimau gynnwys aelodau o fwy nag un ddisgyblaeth a gyda chyd-arweinyddiaeth o ddwy Gyfadran o leiaf. Bydd y dull gweithredu’n drawsddisgyblaethol (lle bydd dulliau a meddwl cwbl newydd yn esblygu wrth i ddisgyblaethau sefydledig ddod at ei gilydd) a bydd y meddylfryd yn seiliedig ar risg uchel, canlyniadau uchel.

Dylai cynigion arwain at allbynnau penodol a gwerthfawr yn ystod cyfnod y dyfarniad ac arwain at bosibiliadau allanol ar gyfer gwneud cais am grant. 

Pwy all ymgeisio?

Gall pob aelod o’n cymuned, o lefel Ymchwilydd PhD ymlaen, fod yn rhan o gynnig. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan gydweithwyr yn gynnar yn eu gyrfa yn arbennig. Rhaid i aelod o staff y mae ei gontract yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y dyfarniad fod yn rhan o’r tîm cynnig. Er bydd y tîm yn cael ei arwain gan gydweithiwr yn Abertawe, gall gynnwys cydweithwyr mewn prifysgolion eraill yn fyd-eang. Rhaid i holl aelodau’r tîm cynnig drafod eu bwriad arfaethedig gyda’u rheolwr llinell cyn ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod y gweithgaredd yn cefnogi gwaith ehangach eu Cyfadran a’r Brifysgol.

Os ydych chi wedi derbyn prosiect Basecamp o'r blaen yn y Galwadau 2021, 2022 neu 2023, nid ydych chi'n gymwys i wneud cais am Basecamp 2024. 

Categorïau cyllid

Prosiectau Basecamp: bydd y gweithgareddau 1 flwyddyn hyn (Awst 1 2024-diwedd Gorffennaf 2025), yn cynnal ymchwil ar wib, gan gynhyrchu allbynnau clir, creu galluedd, gwneud gwaith dichonolrwydd ar gyfer ceisiadau am grantiau allanol a/neu Brosiectau Uwchgynhadledd yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl ariannu 10 o brosiectau Basecamp  gydag uchafswm o hyd at £5,000 am bob Basecamp. 

Beth allwn ni ei ariannu

Gall prosiectau Basecamp ac Uwchgynhadledd ariannu amser/cyflogau, defnyddiau traul, teithio a chynhaliaeth ôl-ddoethuriaeth. 

Sut byddwn yn asesu eich cais

Bydd cynigion yn cael eu hasesu yn unol â phrotocolau tebyg i UKRI. Bydd yr holl gynigion yn cael eu hadolygu gan o leiaf 3 chydweithiwr nad ydynt yn gysylltiedig o Bwyllgor Llywio SAUM, Entrepreneuriaid Ymchwil SAUM a Chymrodyr SAUM. Bydd yr adolygiadau hyn yn cael eu defnyddio fel sail i gyfarfodydd panel a fydd yn rhoi trefn ar bob categori cynnig. Bydd cynigion sy’n cyrraedd y trothwy ansawdd yn cael eu hariannu nes bydd yr adnoddau’n cael eu dyrannu.

Bydd y meini prawf asesu yn cynnwys: 1) Ansawdd (Newydd-deb, Antur, Uchelgais, Natur Trawsnewidiol); 2) Addas i’r Galw (yn benodol ac yn eang gan gynnwys y tebygolrwydd o dderbyn cyllid grant allanol yn y dyfodol); 3) Tîm; a, 4) Adnoddau a Rheolaeth. Mae meini prawf (1) a (2) yn hanfodol ac yn feini prawf sylfaenol tra bo (3) a (4) yn bwysig ac yn eilradd eu natur. 

Sut i wneud cais

Dylid darparu cynigion ar ffurf PDF, dim mwy na 2 dudalen A4 o hyd (dim ffont yn llai na 11pt).  Gwnewch yn siŵr bod eich cynnig yn dangos ansawdd yn erbyn yr holl feini prawf asesu. Dylid llwytho’r PDFs hyn i fyny drwy’r ffurflen ar-lein hon: 

https://forms.office.com/e/Ax2FuLCYcW 

Os byddwch yn llwyddiannus

Mae SAUM yn gweithredu dull “buddsoddwr gweithredol” – byddwn yn cynnull cyfarfodydd misol o’r holl brosiectau a ariennir i annog a meithrin y gwaith ac i rannu arferion gorau.

Dyddiadau Pwysig

Lansio’r Alwad                             Ebrill 10 2024

Digwyddiad Adeiladu Cynnig:      Dydd Mercher 5 Mehefin. Ffowndri Gyfrifiadol

Dyddiad Cau                               Dydd Iau 27 Mehefin 2024, 12pm

Canlyniadau                                Erbyn diwedd mis Gorffennaf 2024.

Prosiectau’n dechrau                   1 Awst 2024.