Beth yw Ymrwymiad y Technegwyr?

Mae Ymrwymiad y Technegwyr yn fenter sector cyfan, ar y cyd a arweinir gan y Cyngor Gwyddoniaeth ac a gefnogir gan ymgyrch Technicians Make It Happen Sefydliad Elusennol Gatsby.

Nod yr Ymrwymiad yw sicrhau gwelededd, cydnabyddiaeth, datblygiad gyrfa a chynaliadwyedd i staff technegol sy'n gweithio mewn addysg uwch ac ymchwil ar draws yr holl ddisgyblaethau.

Mae'r Ymrwymiad yn cynnwys 4 maes allweddol

Ein hymrwymiad i'n technegwyr

Mae Prifysgol Abertawe'n cydnabod y cyfraniadau hollbwysig a wneir gan ei thechnegwyr at addysgu, ymchwil a gweithredu a chynnal a chadw cyfleusterau'n gyffredinol. I gyd-fynd â'n strategaethau ar bobl, ymchwil ac addysgu, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu sgiliau ein carfan o dechnegwyr ymhellach, i amlygu eu rolau a'u cyfraniadau, i'w galluogi i achub ar gyfleoedd gyrfa gwobrwyol ac i sicrhau cynaliadwyedd eu set sgiliau ehangach.

Cytunwyd yn ffurfiol ar ein hymrwymiad ym mis Mawrth 2022, wrth i ni lofnodi'r Ymrwymiad i Dechnegwyr.

Mae rhan o'n hymrwymiad yn cynnwys creu cynllun gweithredu dwy flynedd i wella cyfleoedd gyrfa a sgiliau ein technegwyr. Mae hyn hefyd yn cynnwys cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau.

Mae Grŵp Llywio'r Ymrwymiad i Dechnegwyr, dan arweiniad Ruth Bunting, Cyfarwyddwr Gweithrediadau (y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg), a Mark Pritchard, Pennaeth Technegol, Isadeiledd a'r Amgylchedd (y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg), yn cynnwys aelodau o gymuned y technegwyr ac academyddion ac arweinwyr y Gwasanaethau Proffesiynol.

Mae ei brif nodau'n cynnwys:

Ymgysylltu â fforwm Technegwyr y Brifysgol

Ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol eraill

Cwrdd â rhanddeiliaid allanol megis y Cyngor Gwyddoniaeth

Bydd rhagor o newyddion am ein hymrwymiad i'n technegwyr yn ymddangos ar y dudalen hon. Os oes gennych gwestiwn neu ymholiad, e-bostiwch techniciancommitment@abertawe.ac.uk

CYFLWYNO EIN TECHNEGWYR

Mae'r Brifysgol yn cyflogi amrywiaeth o dechnegwyr a dyma rai enghreifftiau isod.

Cynllun Gweithredu Prifysgol Abertawe ar yr Ymrwymiad i Dechnegwyr

banner welsh

Hunanasesiad Ymrwymiad i Dechnegwyr Prifysgol Abertawe.

banner welsh

Symposiwm Technegwyr

Symposiwm Technegwyr
banner