Mae Bryn Rosser-Stanford yn gweithio yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ac mae wedi bod yn y Brifysgol ers 2019.
Beth gwnaeth eich denu i Brifysgol Abertawe?
Mae Prifysgol Abertawe'n ticio llawer o flychau i mi. Mae bod yn agos at gartref a'r teulu'n ffactor mawr. Rwy'n dwlu ar yr ardal ac mae bod ger y glannau'n fantais fawr. Roedd y campws newydd â chyfleusterau a chyfarpar modern hefyd yn ffactor mawr. Ar ôl bod yn fyfyriwr yma'n flaenorol, roedd gen i ddealltwriaeth dda o ddiwylliant y Brifysgol, ac roeddwn i'n gyfarwydd â sawl aelod staff.
Allech chi roi gwybod i ni am eich llwybr i Abertawe? Er enghraifft, oeddech chi'n fyfyriwr yma'n wreiddiol?
Dechreuodd fy ngyrfa academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, lle astudiais i BSc mewn Gwyddor Chwaraeon. Yn dilyn hyn, gwnes i weithio ym myd cryfder a chyflyru mewn chwaraeon proffesiynol, gan fagu profiad gwerthfawr. Wedyn, dilynais i astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd wrth weithio'n rhan-amser yn labordai meddygol y GIG. Wrth i mi agosáu at gwblhau fy MSc mewn Gwyddor Chwaraeon, newidiais i i weithio'n amser llawn yn y GIG. Yna, clywais i am gyfle i ymuno â Phrifysgol Abertawe fel technegydd gwyddor chwaraeon, ac roeddwn i'n falch o achub ar y cyfle hwnnw.
Beth yw cynnwys eich swydd?
A minnau'n dechnegydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, rwy'n sicrhau bod popeth yn gweithredu'n hwylus y tu ôl i'r llenni. Rwy'n goruchwylio gweithrediadau ein cyfleusterau addysgu ac ymchwil helaeth o ddydd i ddydd, gan weithio'n agos gyda staff academaidd, myfyrwyr ac adrannau eraill i roi cymorth, cyngor ac arweiniad yn ôl yr angen. Boed hynny drwy gynnal safonau’r cyfarpar, trefnu sesiynau ymarferol neu gynghori ar gynllunio arbrofion. Rwyf hefyd yn gwneud rhywfaint o waith rheoli'r gyllideb ac yn cadw mewn cysylltiad â'n cyflenwyr allweddol i gael gwybodaeth am y cyfarpar diweddaraf a thueddiadau'r diwydiant. Yn y bôn, rwy'n sicrhau bod addysgu ac ymchwil yn parhau i ffynnu yn ein hadran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Ydych chi'n teimlo bod cyfle i symud ymlaen yn eich rôl?
Mae cyfleoedd i dyfu a datblygu'n bersonol ar gael drwy gymryd cyfrifoldebau neu rolau gwahanol yn y Brifysgol, ond o'm profiad i, nid yw'r rhain yn cyfateb i symud ymlaen mewn rolau technegol. Mae llwybrau am ddyrchafiad yn ymwneud â symud ar yr un lefel neu aros am swydd wag.
Beth yw'r pethau gorau am weithio fel technegydd ym Mhrifysgol Abertawe?
Rwy'n mwynhau'n fawr yr amgylchedd gwaith dynamig ym maes Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe. O gynorthwyo wrth greu a chynllunio prosiect ymchwil, i gymryd rhan mewn arddangosiadau ymarferol ac addysgu. Mae'r trefniadau gweithio hyblyg hefyd wedi bod o gymorth gwirioneddol wrth fy ngalluogi i gydbwyso fy mywyd proffesiynol a phersonol yn effeithlon.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried dod i weithio yn Abertawe fel technegydd?
Manteisiwch ar natur amrywiol y rôl a byddwch yn rhagweithiol wrth chwilio am y cyfleoedd hyfforddiant a datblygu amrywiol a all ddod i'r amlwg ac achubwch ar y rhain.
Ydych chi’n codi arian? Efallai fod gennych hobi diddorol neu rydych chi’n mynd gam ymhellach dros eich cymuned?
Efallai fod gennych hobi diddorol neu rydych yn mynd gam ymhellach i'ch cymuned?
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch cyfathrebiadau staff