Ers pryd rydych chi’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe?

Dwi wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 10 mlynedd a hanner, i ddechrau fel technegydd yn yr Adran Ddaearyddiaeth ac, yn fwy diweddar, fel uwch-dechnegydd (daearyddiaeth a ffiseg).

Beth oedd eich llwybr i ddod yn dechnegydd ym Mhrifysgol Abertawe?

Roedd gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, natur a'r amgylchedd ers tro byd a gadawais i'r brifysgol â gradd mewn bioleg y môr. Drwy gydol fy ngyrfa dwi bob amser wedi gweithio mewn labordai neu mewn cysylltiad â nhw, mewn amrywiaeth o rolau ond doedd dim un ohonyn nhw'n ymwneud â bioleg y môr!

Fy swydd gyntaf ar ôl gadael y brifysgol oedd fel technegydd mewn labordy profi pridd, yn cynnal profion ffisegol/cemegol ar samplau pridd. Ces i gyfnod byr yn gweithio fel goruchwyliwr cynorthwyol mewn labordy ac, ar ôl tua blwyddyn, gadawais i i weithio mewn labordy profi arall.

Yn yr ail labordy hwn, ces i hyfforddiant da yn y math o waith labordy technegol sy'n cael ei wneud mewn amgylchedd masnachol achrededig ac wedi'i reoli. Roedd y labordy'n dadansoddi samplau (dŵr yfadwy, carthffrwd, llaid carthion) ar gyfer cwmnïau dŵr a diwydiannau eraill. Dechreuais i weithio yn yr adran cemeg organig ac roedd gen i sawl rôl dros y blynyddoedd, yn y labordy ac yn yr adran ansawdd, gan gynnwys fel technegydd labordy, cemegydd dadansoddol, rheolwr ansawdd cynorthwyol, uwch-gemegydd ac uwch-ddadansoddwr.

Fy swydd, cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, oedd rheolwr sicrhau ansawdd mewn labordy a oedd yn arbenigo mewn dadansoddi samplau gwallt i ganfod defnydd o gyffuriau anghyfreithlon. Roedd y labordy'n profi gwallt ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y gyfraith ac mewn gwaith cymdeithasol, yn ogystal ag i'r llywodraeth a gwasanaethau profi i fusnesau at ddibenion cyflogaeth. Yn y diwedd, yn dilyn nifer o newidiadau yn y busnes hwn, penderfynwyd cau'r gweithrediad labordy ac, er i mi gael cynnig adleoli'n rhywle arall yn y Deyrnas Unedig, penderfynais i dderbyn y pecyn dileu swydd.

Am sawl mis ar ôl colli fy swydd, roeddwn i'n gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip, gan chwilio am swydd ar fy 'niwrnodau rhydd'.

Roedd penderfynu cymryd y pecyn dileu swydd yn teimlo'n dipyn o gambl ar y pryd, ond dyna oedd y penderfyniad cywir yn y diwedd, achos yn sgîl hynny cyflwynais i gais i Brifysgol Abertawe a chael cynnig rôl technegydd yn yr Adran Ddaearyddiaeth.

Sut beth yw diwrnod nodweddiadol i chi?

Mae hwnnw'n gwestiwn anodd. Yn aml bydda i'n dechrau'r dydd â chynllun yn fy meddwl ac os ydw i'n llwyddo i wneud hanner ohono bydda i'n ystyried hynny'n llwyddiant.

Prif bwrpas ein tîm yw darparu cymorth technegol ar gyfer gweithgareddau dysgu ac ymchwil israddedig yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg - yr Adrannau Daearyddiaeth a Ffiseg yn benodol. Gall y 'cymorth technegol' hwnnw fod ar sawl ffurf ond byddai gweithgareddau nodweddiadol yn cynnwys:

- darparu cyngor technegol

- cynorthwyo gydag addysgu yn y labordy/paratoi ar gyfer gwaith maes

- cynnal a chadw cyfarpar

- arddangos sgiliau ymarferol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Gofynnir i ni gynorthwyo gyda gweithgareddau eraill yn aml (a dyw rhai ohonyn nhw ddim yn rhan o'n proffiliau rôl swyddogol), er enghraifft: ail-ddylunio swyddfa; symud dodrefn; dosbarthu post; gwasanaethau cefnogi digwyddiadau; dosimetreg ymbelydredd; cymorth cyntaf; wardeiniaid tân; cyngor iechyd a diogelwch; gwasanaethau gwastraff peryglus; cyflwyniad i'r labordy; cymorth gydag asesiadau risg; cyngor/cymorth gyda thraethodau hir; gwasanaethau adleoli cerfluniau draig metel mawr.

Mae'n rhaid i mi sôn am fy nghydweithwyr Jonathan Woodman-Ralph (technegydd - ffiseg) a Rhodri Griffiths (technegydd - daearyddiaeth) yma.

Mae Jonathan, fwy neu lai ar ei ben ei hun, yn darparu'r cymorth technegol ar gyfer y portffolio ffiseg, gan gynorthwyo o ddydd i ddydd gyda gweithgareddau yn adeiladau Wallace a Vivian.

Rhodri yw'r un sy'n gwybod popeth am ein hofferynnau cromatograffeg ionau a laser meintoli gronynnau yn yr Adran Ddaearyddiaeth. Mae hefyd yn cefnogi gweithgareddau beunyddiol, er enghraifft, paratoi ar gyfer sesiynau ymarferol yn y labordy a theithiau maes.

Heb eu hymdrechion nhw, byddai'r cymorth technegol sy'n cael ei gynnig i fyfyrwyr a staff yn llawer llai.

Ydych chi'n meddwl bod cymuned dda i dechnegwyr yn Abertawe?  Sut, yn eich barn chi, gallai'r gymuned hon gael ei gwella?

Dwi bob amser wedi meddwl bod cymuned dda, yn y Gyfadran yn bendant. Dwi'n teimlo efallai nad yw'r ymdeimlad hwn o gymuned wedi datblygu'n naturiol rhwng cyfadrannau mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd, o bosib o ganlyniad i'r ffaith eu bod mewn lleoliadau gwahanol yn fwy na dim.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae menter Ymrwymiad y Technegwyr wedi esgor ar y Symposiwm Technegwyr blynyddol sy'n cynnig cyfle i ddathlu'r gymuned o dechnegwyr ar draws y Brifysgol. Mae digwyddiadau fel hyn yn gwella'r ymdeimlad o gymuned ac yn darparu fforwm i dechnegwyr ddatblygu a gwella cysylltiadau rhwng cyfadrannau.

Beth am eich diddordebau y tu allan i'r gwaith? 

Yn ddiweddar, mae fy merch ieuengaf (6 oed) wedi datblygu diddordeb mewn reslo (gwylio, nid cymryd rhan). Mae Reslo Cymru wedi bod yn cynnal sioeau am ddim mewn parc carafanau lleol ac o ganlyniad, mae fy niddordebau presennol yn troi o gwmpas Ricky Bamba, The Dragon, Mean Tommy Dean a gweddill eu criw reslo.