Ers pryd rydych chi’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Rydw i wedi bod ym Mhrifysgol Abertawe ers chwe blynedd. Dechreuais fy ngyrfa yma yn 2018 fel Swyddog Gwyddonol (ymchwilydd ôl-ddoethurol) ar y Prosiect BlueFish yn ymchwilio i glefydau mewn infertebratau morol a chysylltedd clefydau yn yr amgylchedd morol. Yn 2020, ymunais â thîm Technegol y Biowyddorau yn y labordai addysgu yn adeiladau Wallace a Margam ar Gampws Singleton.

Beth oedd eich llwybr i ddod yn dechnegydd?
Cyn dod yn dechnegydd roedd gen i nifer o rolau gwyddoniaeth ac yn y labordy. Roedd fy ngradd israddedig mewn Bioleg Bywyd Gwyllt Rhyngwladol, pan ddatblygais ddiddordeb mewn gwaith labordy. Arweiniodd hyn at radd MRes, ac ar gyfer hynny astudiais geneteg boblogaeth pelydrau manta, a PhD gradd ddwbl pan ddefnyddiais DNA hynafol i astudio difodiant y carfil mawr. Rydw i wedi sefydlu a rheoli labordy maes geneteg yng nghoedwigoedd cwmwl Honduras ar gyfer Ymgyrch Wallacea, rydw i wedi gweithio fel darlithydd wedi fy nhalu fesul awr yn addysgu sawl modiwl yn y labordy, ac wedi gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol mewn labordy patholeg ddyfrol.

Pa ddiddordebau brwd wnaeth arwain at eich rôl bresennol?  A sut, yn eich barn chi, y gallwch fodloni'r brwdfrydedd hwn drwy eich rôl bresennol?
Rwyf bob amser wedi bod yn frwdfrydig am helpu pobl ac ysbrydoli pobl i weithio ym myd gwyddoniaeth. Drwy'r rôl hon rydw i'n gallu cael mewnbwn yn addysg ein myfyrwyr ac ar ddechrau eu gyrfaoedd gwyddonol. Rwy'n cael gwylio myfyrwyr yn datblygu o fod yn nerfus am fod yn y labordy a defnyddio'r offer labordy pan fyddan nhw'n dechrau, i feithrin yr hyder a'r sgiliau i gynnal ymchwil i'w traethodau hir yn ein labordy prosiectau.

Sut beth yw diwrnod nodweddiadol i chi?
Un peth rwy'n ei hoffi fwyaf am y swydd hon yw sut mae pob diwrnod yn wahanol. Mae'n rôl amrywiol iawn ond yn gyffredinol mae'n cynnwys sefydlu a hwyluso'r sesiynau ymarferol israddedig drwy baratoi deunyddiau, offer, toddiannau cemegol ac adweithyddion a sbesimenau biolegol. Mae ein sesiynau ymarferol yn cynnwys dyrannu er mwyn cymharu anatomi fertebratau, echdynnu DNA a phrotein o blanhigion ac anifeiliaid, microbioleg bacteria a ffyngau, ffisioleg anifeiliaid, entomoleg, parasitoleg, botaneg, a microsgopeg. Rydw i hefyd yn gyfrifol am ofalu am amgueddfa sŵoleg yr adran a’i churadu felly rydw i'n treulio rhywfaint o fy amser yn gofalu am 2,000 o sbesimenau fertebratau ac infertebratau. Yn yr amgueddfa mae gennym benglogau a sgerbydau cyflawn, crwyn mamaliaid, crwyn, plu ac wyau adar, sbesimenau wedi'u cadw mewn hylif, pryfed ar binnau, cregyn a ffosilau, yn ogystal â chasgliad herbariwm bach. Defnyddir y sbesimenau mewn nifer o sesiynau ymarferol, prosiectau ymchwil a digwyddiadau allgymorth i israddedigion.

Ydych chi'n meddwl bod cymuned dda i dechnegwyr yn Abertawe?  Sut, yn eich barn chi, gallai'r gymuned hon gael ei gwella?
Rwy'n credu bod gennym gymuned dda ar gyfer technegwyr ym Mhrifysgol Abertawe, ond mae lle i wella bob amser. Mae'r digwyddiadau sydd wedi'u cynnal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel Symposiwm y Technegwyr, wedi helpu i ddod â ni at ein gilydd. Byddai'n braf cael dal i fyny'n anffurfiol yn rheolaidd gyda chyd-dechnegwyr, ond mae pawb mor brysur yn ystod y tymor mae'n anodd neilltuo amser i gwrdd.

Beth am eich diddordebau y tu allan i'r gwaith?
Y tu allan i'r gwaith mae fy merch flwydd oed yn fy nghadw i'n brysur iawn! Rydw i wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nheulu yn mynd â'n cafapŵ, Eevee, am dro yn y parc neu'n ymweld ag atyniadau lleol.