Ym mha gyfadran rydych chi'n gweithio a beth yw eich rôl?
Rwy'n gweithio yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ac rwy'n dechnegydd addysgu. Yn bennaf, rwy'n cefnogi sesiynau ymarferol ar gyfer y rhai hynny sy'n astudio'r cwrs Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, ond rwyf hefyd yn cyfrannu at gyrsiau gwyddor fiofeddygol eraill. Rwy'n cefnogi sesiynau ymarferol ar draws rhaglenni gradd sylfaen, rhaglenni israddedig a rhaglenni Meistr a addysgir.
O ble rydych chi'n dod yn wreiddiol? A beth gwnaethoch chi ei astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Rwy'n dod yn wreiddiol o dref glan môr Weymouth yn Dorset, Lloegr. Gwnes i astudio Geneteg Feddygol a chwblhau gradd Meistr a addysgir mewn Rheoli Anhwylderau Cronig a Hirdymor, ond roeddwn i'n gweld eisiau gwyddoniaeth ymarferol yn fawr!
Beth gwnaeth eich denu i astudio yn y Brifysgol yn y lle cyntaf?
Dyma'r unig le a oedd yn cynnig Geneteg/Geneteg Feddygol fel cwrs a oedd yn sefyll ar ei ben ei hun, yn hytrach na bod yn rhan o radd Gwyddor Fiofeddygol, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi'r lefel honno o arbenigaeth. Doedd symud o dref fach ar lan y môr i ddinas fwy ar lan y môr ddim yn gam rhy ysgytiol chwaith! Roedd fy nyweddi'n astudio yma ar y pryd, ac roeddwn i wedi ymweld â’r lle sawl gwaith. Roeddwn i'n mwynhau'r awyrgylch ac roedd yn teimlo'n iawn. Felly, roedd sawl rheswm mewn gwirionedd.
Beth oedd y peth gorau am eich gradd/astudio yn y Brifysgol?
Efallai fod hyn yn ateb amlwg, ond y sesiynau ymarferol! Rwy'n cofio ar gyfer y modiwl parasitoleg, gwnaethon ni rywbeth gyda phryfed Tsetse (marw) a dywedwyd wrthon ni y byddai'r data gwnaethon ni ei gasglu'n cyfrannu at ymchwil i salwch cysgu yn Affrica, ac roedd hynny'n teimlo mor braf! Gwnes i hefyd hoffi'n fawr sesiynau ymarferol clasurol ar PCR/electrofforesis hefyd. Rwy'n frwd iawn am unrhyw beth lle ceir rhyw fath o bortread gweledol o'r hyn sy'n digwydd.
A oedd cyfle i gael profiad gwaith wrth i chi astudio?
Nid yn yr ystyr draddodiadol gan fod y cwrs yn ymwneud â llawer o oriau cyswllt, ond byddwn i'n dadlau bod unrhyw amser sy'n cael ei dreulio yn y labordy'n fath o brofiad gwaith oherwydd bod y technegau gwnaethon ni eu dysgu'n berthnasol i sawl maes astudio/diwydiant, etc.
Sut cododd y cyfle i weithio yn y Brifysgol fel technegydd?
Roeddwn i'n gweithio'n rhan-amser fel technegydd llanw yn ystod absenoldeb mamolaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac roeddwn i'n mwynhau'r swydd yn fawr. Felly, pan oedd diwedd y swydd lanw'n agosáu, chwiliais i'n benodol am swydd cymorth technegol. Roedd yr amseru'n iawn, a chyflwynais i gais am y swydd yma ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r syniad o ddechrau swydd newydd mewn amgylchedd rydych chi'n ei adnabod eisoes yn gwneud y cwbl yn llai arswydus!
Beth gwnaeth eich denu i aros a gweithio yn y Brifysgol?
Wel, yn gyntaf, roeddwn i'n gwybod fy mod i am aros yn Abertawe (er na fyddwn i'n argymell symud allan ar eich pen eich hun yng nghanol pandemig!). Roeddwn i'n adnabod y Brifysgol yn dda ac roedd rhai o'r staff technegol rwy'n falch o’u galw'n gydweithwyr i mi erbyn hyn wedi cyfrannu at y sesiynau ymarferol gwnes i gymryd rhan ynddyn nhw fel myfyriwr, felly roeddwn i'n gyfarwydd â nhw hefyd! Roeddwn i wedi cymryd rhan yn rhai o'r sesiynau ymarferol rwy'n helpu i'w hwyluso nawr. Rwy'n gwybod ei bod hi'n swnio'n ystrydebol, ond roedd Prifysgol Abertawe'n teimlo fel cartref i fi, roeddwn i'n gwybod faint roedd y sesiynau ymarferol wedi fy helpu, ac roeddwn i am ddarparu'r profiad hwnnw i eraill.
A wnaethoch chi ddechrau gweithio yn y Brifysgol yn syth ar ôl i chi raddio?
Ddim yn union! Roeddwn i'n gweithio'n rhan-amser mewn swydd lanw yn ystod absenoldeb mamolaeth yng Ngholeg Gŵyr wrth i mi orffen fy MSc, felly roedd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng astudio a gweithio yno. Ond y swydd yma yn y Brifysgol oedd fy swydd gyntaf ar ôl i mi orffen astudio'n gyfan gwbl.
Beth rydych chi'n hoffi fwyaf am eich rôl fel technegydd addysgu?
Yr amrywiaeth – rwy'n defnyddio technegau gwahanol drwy'r amser ar gyfer sesiynau ymarferol gwahanol. Felly, does dim diflastod nac undonedd ac mae hi'n cadw fy sgiliau’n raenus! Rwy'n dwlu ar elfen datrys problemau'r swydd hon hefyd, mae'n destun boddhad pan ddewch chi o hyd i ateb, yn enwedig os yw'r broblem wedi codi fwy nag unwaith. Mae fy nghydweithwyr yn wych hefyd, yn fy nhîm uniongyrchol ac yn y gymuned dechnegol yn ehangach. A dweud y gwir, mae'n anodd iawn dewis rhywbeth rwy'n ei hoffi fwyaf oherwydd fy mod i'n dwlu ar y swydd hon, hyd yn oed ar ddiwrnodau pan fyddwn ni'n eithriadol o brysur.
A fyddech chi'n cymeradwyo eich llwybr astudio/gyrfa yn Abertawe i eraill?
Yn bendant! Rwy'n meddwl ei bod hi'n drueni mawr pan oedden ni yn yr ysgol yn trafod gyrfaoedd yn y dyfodol yn STEM, doedd cymorth technegol ddim wedi cael ei gyflwyno fel opsiwn. Ar ddiwedd y dydd, does dim modd addysgu gwyddoniaeth nac ymchwilio iddi heb wybodaeth a chymorth technegol! Os ydych chi'n dwlu ar wyddoniaeth ymarferol, yna bydd rôl dechnegol yn berffaith i chi!