Ers pryd rydych chi’n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe?

Rydw i wedi bod yn dechnegydd ym Mhrifysgol Abertawe ers dros bum mlynedd, gan gyfrannu at weithrediadau ymchwil a labordy yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Beth oedd eich llwybr i ddod yn dechnegydd ym Mhrifysgol Abertawe?

Cefais fy magu yn Abertawe ac rydw i wedi bod yn frwdfrydig am wyddoniaeth erioed. Yn ystod fy arholiadau Safon Uwch, roedd y Prosiect Genom Dynol yn y newyddion yn aml, a thaniodd hyn fy niddordeb mewn geneteg. Gwnaeth hyn fy ysbrydoli i astudio gradd Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe.

Fy swydd gyntaf ar ôl graddio oedd mewn labordy rheoli ansawdd. Tra bod y swydd honno wedi rhoi profiad labordy gwerthfawr i mi, nid oedd yn cyd-fynd yn agos â’m gradd. Yna, ymunais â'r GIG yng Ngwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yng Nghaerdydd, lle treuliais dros ddegawd yn cynnal profion geneteg i ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru. Roedd hyn yn amrywio o brofi cyn genedigaeth a gwneud diagnosis o anhwylderau a oedd wedi eu hetifeddu i ddiagnosteg cancr.

Wrth i ni ddechrau cael teulu, roeddwn yn chwilio am gydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith a oedd yn agosach at adre. Cynigodd swydd ran-amser gyda grŵp ymchwil microfioleg ym Mhrifysgol Abertawe y cyfle hwnnw i mi. Ar ôl ychydig flynyddoedd, datblygodd y swydd honno i fy swydd gyfredol fel technegydd craidd amser llawn yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Pa ddiddordebau brwd wnaeth arwain at eich rôl bresennol?  A sut, yn eich barn chi, y gallwch fodloni'r brwdfrydedd hwn drwy eich rôl bresennol?

Rwy'n angerddol am wneud y gorau o weithrediadau labordy, gwella dylunio arbrofol, ac ysgogi gwelliant parhaus yn ein cyfleusterau ymchwil. Rwy'n ymdrechu i greu amgylchedd diogel ac effeithlon sy'n galluogi myfyrwyr ac academyddion i ragori yn eu hymchwil.

Er fy mod i'n gweld eisiau cynnal arbrofion labordy a dadansoddi canlyniadau cymhleth fy hun, mae fy rôl gyfredol yn canolbwyntio'n fwy ar alluogi eraill i lwyddo, sydd hefyd yn hynod wobrwyol.

Disgrifiwch ddiwrnod arferol i chi?

Mae diwrnod arferol yn amrywiol ac yn cynnwys cymysgedd o dasgau ymarferol a gweinyddol. Mae hyn yn cynnwys cynnal sesiynau anwytho yn y labordy, sicrhau cydymffurfiaeth â phrotocolau iechyd a diogelwch (yn enwedig yn ein lab microfioleg Categori 2), cyfathrebu â pheirianwyr a chontractwyr ynghylch cynnal a chadw isadeiledd ac offer, rhoi cymorth i fyfyrwyr a staff ymchwil gyda chwestiynau technegol, a rheoli adnoddau labordy hanfodol megis pethau gwydr, ffyrnau aerglos, a gwaredu gwastraff.

Rwyf hefyd yn mynychu cyfarfodydd sy'n ymwneud â gweithrediadau adrannol, iechyd a diogelwch neu ymrwymiad technegol. Yn achlysurol, rwy'n cyfarfod â chynrychiolwyr cwmnïau biotechnoleg er mwyn archwilio cynnyrch newydd neu gael prisiau am offer.

Mae prosiectau tymor hir, megis cynllunio moderneiddio adeiladau neu ddisodli hen offer, yn dasgau parhaus sy'n cadw'r swydd yn ddiddorol. Mae bob amser llawer i'w wneud!

Ydych chi'n meddwl bod cymuned dda i dechnegwyr yn Abertawe?  Sut, yn eich barn chi, gallai'r gymuned hon gael ei gwella?

Mae'r Ymrwymiad Technegol wedi helpu i feithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith technegwyr, yn enwedig drwy gyfrwng symposia. Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i gwrdd â chydweithwyr mewn adrannau eraill a rhannu profiadau. Mae wedi bod yn galonogol clywed bod llawer ohonom yn wynebu heriau tebyg, waeth ble rydym ni'n gweithio.

Er mwyn gwella'r gymuned hon, credaf y byddai'n fuddiol cael mwy o wirfoddolwyr yn y gweithgorau Ymrwymiad Technegol. Mae'n ffordd wych i gysylltu â thechnegwyr ar draws cyfadrannau gwahanol. Gall datblygu llwybrau gyrfa cliriach, rhannu arferion gorau, a dysgu gan ddigwyddiadau andwyol hefyd danio mwy o sgyrsiau traws-adrannol yn y gymuned dechnegol.

Beth am eich diddordebau y tu allan i'r gwaith? 

Mae llawer o'm hamser y tu allan i'r gwaith yn ymwneud â'r plant - mae hyfforddiant pêl-droed, gwersi nofio a phartïon pen-blwydd yn ein cadw ni'n brysur! Mae hefyd gennyf docyn tymor ar gyfer y Gweilch, sydd yn bennaf ar gyfer treulio amser gyda ffrindiau yn hytrach na dilyn y rygbi.

Pan nad wyf yn brysur gyda gweithgareddau teuluol, mae fel arfer gennyf brosiect DIY ar waith adref.