'Trwy Ymrwymiad y Technegwyr rwy'n teimlo bod y technegwyr wedi dod yn fwy gweladwy ar draws y Brifysgol. Maen nhw wedi ymuno â mwy o bwyllgorau'r Brifysgol, mae ganddynt dudalen we ac maen nhw'n cael eu hamlygu'n rheolaidd ar brif dudalennau mewnrwyd (mewnol) y Brifysgol. Mae mwy o dechnegwyr wedi'u henwebu am sawl gwobr. Ond yn bwysicaf oll rydym wedi dechrau adeiladu a chreu cymuned ar draws y cyfadrannau a'r disgyblaethau. Dyma fy hoff beth personol am Ymrwymiad y Technegwyr.'

Astrid Beckmann, (Ymchwil Gwyddor Bywyd), Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

'Er daeth cyflwyniad Ymrwymiad y Technegwyr i Brifysgol Abertawe yn ystod cyfnod o gynnwrf ac ansicrwydd, mae wedi cael effaith fawr ar y gymuned dechnegol hyd heddiw a bydd yn parhau i wneud hynny trwy weithredu cynlluniau gweithredu yn y dyfodol.

Byddwn yn dweud bod technegwyr yn fwy gweladwy yn y Brifysgol, ac mae mwy o ymdeimlad o gymuned ymysg y technegwyr o'i gymharu â'r cyfnod cyn Ymrwymiad y Technegwyr.

Bydd rhai o'r pethau rydyn ni'n ceisio eu newid a’u gweithredu drwy Ymrwymiad y Technegwyr yn araf ac yn cymryd amser yn sgil eu graddfa enfawr, ond os ydyn ni'n llwyddo i weithredu hanner yr hyn rydyn ni'n ei gynllunio ar ei gyfer, bydd yn cael effaith fawr ar ragolygon datblygu gyrfa technegwyr, cynaliadwyedd a chydnabyddiaeth. Byddwn yn argymell i unrhyw dechnegydd sy'n angerddol am eu rôl ac am wella rhagolygon technegwyr eraill i gymryd rhan a dweud eu dweud.'

Ben Harris, Uwch-dechnegydd (Cemeg), Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

'Y dylanwad mwyaf y mae Ymrwymiad y Technegwyr wedi ei gael ar dechnegwyr yw'r ffaith bod gennym lais bellach. Mae gennym gyfrwng newid. Sylweddolodd gweithgorau Ymrwymiad y Technegwyr yn sydyn fod angen i ni argyhoeddi Prifysgol Abertawe, yn ogystal â’r technegwyr, fod Ymrwymiad y Technegwyr yn werth yr ymdrech ; I ddechrau roedd rhaid i ni weithio ar newid diwylliant ac yn bwysicach oll, ar ddod â thechnegwyr ynghyd a chreu cymuned. Mae hyn wedi bod yn dasg enfawr, ac mae'r staff sy'n rhan o greu a gwella'r Cynllun Gweithredu wedi rhoi llawer o oriau’n gwirfoddoli ac ymrwymiad i wneud i hyn ddigwydd. Mae llawer i'w wneud, ond mae'r gwirfoddolwyr yn y gweithgorau'n gwybod nad oes unrhyw beth yn newid heb newid. Mae Ymrwymiad y Technegwyr wedi cysylltu technegwyr nad oeddent â chysylltiad â staff eraill, gan wneud iddynt deimlo'n rhan o rwydwaith cymorth o dechnegwyr o'r un meddylfryd. Mae sawl symposiwm wedi ein galluogi ni i rannu gwybodaeth sy'n berthnasol i bedwar diben Ymrwymiad y Technegwyr a'u bywyd pob dydd yn y gwaith. Symposiwm 2024; O ganlyniad i Gynllun Gweithredu Ymrwymiad y Technegwyr, dyfarnwyd y dyfarniadau gwasanaeth hir cyntaf i dechnegwyr - y cyntaf erioed ym Mhrifysgol Abertawe yn ei hanes can mlynedd, i unrhyw aelodau staff. Yn bersonol, mae bod yn rhan o Ymrwymiad y Technegwyr wedi fy ngalluogi i  rannu gwybodaeth am arferion gwaith, dysgu am sut mae adrannau, strwythurau a mentrau gwahanol y Brifysgol yn cysylltu, cael profiad o weithio ar brosiect mawr a arweinir gan y brifysgol, ac yn bwysicach oll, y cyfle a'r fraint o weithio gyda staff sy'n gwbl ymrwymedig i fenter dros newid cadarnhaol.'

Wendy Clark, Uwch-dechnegydd (Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff), y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

'Ers i Brifysgol Abertawe fabwysiadu Ymrwymiad y Technegwyr, gwelwyd  cynnydd sylweddol yn yr ymgysylltiad ymysg staff ar bob lefel, gan gynnwys gwasanaethau academaidd, technegol a phroffesiynol. Mae proses y cynllun gweithredu- sy'n gosod amcanion ac yn mesur cyflawniadau - wedi amlygu'r cyfleoedd sydd ar gael i lywio newid sefydliadol. Mae hyn wedi dangos i'r gymuned dechnegol a thu hwnt y gall Ymrwymiad y Technegwyr greu buddion diriaethol i gydweithwyr technegol ar draws amrywiaeth o rolau, p'un a ydynt ar y rheng flaen yn cefnogi addysgu, ymchwil, neu reolaeth.

Mae wedi bod yn fuddiol iawn gweld staff technegol o amrywiaeth o ddisgyblaethau a lefelau yn dod ynghyd mewn gweithgorau, timau gorchwyl a gorffen a fel cyfranogwyr cyffredinol. Mae eu hymdrechion cyfunol yn parhau i lywio a chefnogi'r fenter hon sy'n datblygu.

Greg Barber, Rheolwr Gwasanaethau Technegol a Labordai, Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

'Rydw i wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe am dros 46 o flynyddoedd, yn dechrau fel hyfforddai Technegydd Electroneg yn 16 mlwydd oed, bryd hynny yn yr Adran Peirianneg Electronig. Mae cael y cyfle i newid rolau a chyfrifoldebau sawl gwaith dros y blynyddoedd wedi rhoi gwybodaeth werthfawr i mi am yr hyn y mae bod yn dechnegydd yn ei olygu ar holl lefelau ar draws y sefydliad. Roedd cymuned y technegwyr yn brin o lais yn ystod fy mlynyddoedd cynnar, ac yn aml yn ynysig ac wedi’i thangynrychioli mewn strwythurau pwyllgor y brifysgol. Felly, mae wedi bod yn fraint i mi gyd-cadeirio a helpu i ysgogi Ymrwymiad y Technegwyr ym Mhrifysgol Abertawe ers ei arwyddo yn 2021. Mae Ymrwymiad y Technegwyr wedi bod yn allweddol wrth godi gwelededd technegwyr, gan amlygu'r rôl hanfodol mae ein cymuned tra fedrus yn ei chwarae yn llwyddiant gweithgareddau craidd y Brifysgol. Mae wedi dod â thechnegwyr o'r holl ddisgyblaethau a'r ddau gampws ynghyd, gan dorri'r meddylfryd arddull 'seilo' oedd wedi'i harddangos yn y gorffennol. Rydym wedi cynnal tri Symposiwm Technegwyr llwyddiannus gyda digwyddiadau a gweithdai brecwast rheolaidd sy'n dathlu ein cyflawniadau ac yn trafod datblygiad ein cymuned o dechnegwyr i'r dyfodol. Mae heriau o'n blaenau, ond mae Ymrwymiad y Technegwyr yn darparu platfform cryf lle mae Technegwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn Abertawe ac yn darparu cyfle i gydweithio ar draws y sector addysg uwch ehangach i hyrwyddo gyrfaoedd Technegwyr.

Mark Pritchard, Pennaeth Technegol, Isadeiledd a'r Amgylchedd, Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Cyd-gadeirydd Ymrwymiad y Technegwyr