Gwelededd a Chydnabyddiaeth Gynyddol
Ymunwch â ni ar gyfer Symposiwm Blynyddol Technegwyr Prifysgol Abertawe. Thema eleni yw Gwelededd a Chydnabyddiaeth.
Mae gwahoddiad i staff technegol Prifysgol Abertawe a thu hwnt fynychu'r digwyddiad diwrnod o hyd hwn sy'n gyfle i adeiladu a rhwydweithio ymhellach ymysg ein cymuned dechnegol yma ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd yn gyfle i gydnabod cyfraniadau a chyflawniadau hanfodol ein technegwyr. Bydd cyfle i westeion fynychu cyfres o weithdai rhyngweithiol, teithiau a chyflwyniadau mewnol a gynhelir gan ein timau technegol ar Gampws y Bae.
Cynhelir y Symposiwm ddydd Llun 8 Gorffennaf rhwng 8.40am a 4.30pm yn B001, Adeilad Canolog Peirianneg, ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.
Mae'r digwyddiad am ddim, er bod lleoedd yn gyfyngedig. Bydd brecwast a chinio yn cael eu cynnwys.
Cofrestrwch yma. Bydd agenda lawn yn cael ei hanfon maes o law.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau at: techniciancommitment@abertawe.ac.uk
Cofion cynhesaf,
Pwyllgor Ymrwymiad y Technegwyr Prifysgol Abertawe.