Gwybodaeth amdanom ni yn yr Arsyllfa
Rydym yn rhan o Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe ac mae'r Arsyllfa'n dod â rhannau gwahanol o waith hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn yr Ysgol ynghyd, ond hefyd ar draws y Brifysgol.
Rydym yn brosiect cydweithredol gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n cynnig fforwm ar gyfer ymchwil, trafod, addysg, cyfnewid gwybodaeth ac effaith ar hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol, a gweithio i wireddu hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol drwy bolisi, arfer, eiriolaeth a diwygio'r gyfraith.
Mae'r Arsyllfa'n ymrwymedig i:
- Gynnal ymchwil, dadansoddi data ac astudiaethau gwerthusol
- Gweithio gyda rhanddeiliaid a dysgu ganddynt.
- Rhoi gwybodaeth a hyfforddiant i ddatblygu gallu i hyrwyddo dealltwriaeth well o hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol.
- Yn seiliedig ar ganlyniadau ymchwil, nodi ac eirioli dros newid yn y gyfraith ac ymarfer.
- Defnyddio'r wybodaeth a'r arloesi gorau i wireddu hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn well.
- Gweithio gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol mewn sefydliadau academaidd, proffesiynol, llywodraethol ac anllywodraethol.