“Mae’r cwrs gradd LLM mewn Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar yr heriau mwyaf y mae’r gymdeithas yn eu hwynebu heddiw gan gynnwys materion gwyliadwriaeth ddigidol, diogelu amgylchedd, terfysgaeth, a lloches a mudo. Mae’r cwrs hwn yn trafod heriau manwl ar gyfer hawliau dynol ar draws y byd a’r ymatebion posib trwy ddeddfwriaeth, polisi ac ymarfer.
Os ydych chi’n chwilio am addysg o safon, os ydych chi’n mwynhau gweithgareddau awyr agored a theithiau cerdded hir mewn tirweddau rhagorol ac os hoffech chi fyw mewn dinas amlddiwylliannol, byddaf yn argymell yn fawr eich bod chi’n ymuno â Phrifysgol Abertawe."
Yunus Asafri, LLM mewn Hawliau Dynol