Ehangwch eich gorwelion gyda blwyddyn dramor

Drwy dreulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig, byddwch chi'n gallu ennill profiad rhyngwladol gwerthfawr ac ychwanegu hwn at eich CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn dangos i gyflogwyr eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Yn ogystal â hynny, ceir llawer o fanteision eraill i chi'n bersonol, gan gynnwys bod yn ddinesydd byd-eang drwy ymgolli mewn diwylliant hollol newydd a meithrin annibyniaeth a rhwydwaith rhyngwladol a fydd yn rhoi dealltwriaeth unigryw o'ch maes i chi.

Mae treulio blwyddyn mewn gwlad gwahanol yn rhoi cyfle go iawn i chi gael brofiad cynhwysfawr o ran arall o'r byd ac mae'n ffordd wych o ennill profiadau cyffrous o deithio yn ystod eich gradd, wrth i chi wneud ffrindiau am oes o bob cwr o'r byd.

Gallwch chi ddysgu rhagor am ein hamrywiaeth o gyfleoedd gan ddefnyddio'r dolenni isod, lle gallwch chi hefyd glywed gan amrywiaeth o fyfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau eu blwyddyn dramor.