Yn ystod fy mlwyddyn dramor, gwnes lawer o ffrindiau newydd o America a gwledydd eraill ledled y byd. I ddechrau, roedd hi'n anodd addasu i ddiwylliant newydd, ond rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae pawb yn ei brofi. Des i arfer yn gyflym â'r gwahaniaethau ac roeddwn i wrth fy modd yn byw yn Nhecsas.

Mae Austin yn ddinas wych i fyw ynddi gyda golygfeydd hyfryd, gyda sîn cerddoriaeth fyw anhygoel, a llawer o ddigwyddiadau chwaraeon gwych i fynd iddynt. Roeddwn i hefyd yn gallu ymweld â dinasoedd eraill yn Nhecsas fel Houston a San Antonio, ac ar ddiwedd fy mlwyddyn, hedfanais i i Galiffornia a theithio yn ôl i Decsas drwy Las Vegas, Nevada, Arizona, Utah a New Mexico.

Mae blwyddyn dramor yn brofiad sy'n newid eich bywyd felly os ydych yn cael y cyfle i fynd, ewch amdani! Rwyf mor falch fy mod wedi gwneud; mae wedi helpu i fy natblygu fel person ac roedd yn brofiad gwych na fydda i byth yn ei anghofio.

Yosemite National Park
University of Texas
A basketball game
University of Texas