CYNGOR GAN RYWUN A GAFODD LE AR RAGLEN Y GYFRAITH DRWY GLIRIO

Awdur: Billy Seagrim, Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith

Helô, Billy ydw i a dwi'n Bargyfreithiwr yn '9 Park Place Chambers' yng Nghaerdydd.

Wedi dod drwy’r system glirio fy hun i sicrhau lle ar fy ngradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, gallaf rannu ychydig o ganllawiau ac awgrymiadau defnyddiol â chi, i'ch helpu i sicrhau eich lle yn y brifysgol.

Fy Nghefndir

Des i drwy'r system glirio am nad oedd fy ngraddau'n ddigon da i astudio yn fy newis cyntaf o brifysgol. Pan oeddwn i'n astudio am fy arholiadau Safon Uwch, treuliais i lawer o amser yn teithio ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau crefft ymladd a'r canlyniad, yn anffodus, oedd nad oedd fy ngraddau cystal ag roeddwn i'n gobeithio.

Roeddwn i'n gyfarwydd ag Abertawe a'i lleoliad hyfryd, roeddwn i wedi ymweld â'r campws o'r blaen a doedd hi ddim yn rhy bell o gartref, felly penderfynais i wneud rhagor o ymchwil a chyflwyno cais ac, yn y diwedd, ces i fy nerbyn i astudio'r gyfraith yma.

YN GYNTAF, PEIDIWCH Â MYND I BANIG, RYDYM YMA I HELPU

Efallai nad yw eich canlyniadau cystal ag roeddech chi'n gobeithio, neu efallai eich bod wedi newid eich meddwl am eich dyfodol ar y funud olaf, fydd hynny ddim yn eich rhwystro rhag astudio'r gyfraith yr hydref hwn. Mae Prifysgol Abertawe'n yma i helpu a byddwn yn rhoi i chi'r wybodaeth bydd ei hangen arnoch i sicrhau eich lle yn y brifysgol drwy'r system Glirio. Efallai eich bod yn teimlo’n llawn gofid ar hyn o bryd, ond ni fydd dod drwy'r system Glirio yn golygu diwedd eich gyrfa yn y gyfraith.

BETH FYDD EI ANGEN ARNOCH I GYFLWYNO CAIS DRWY'R SYSTEM GLIRIO?

Hoffwn ni'n eich helpu i leddfu eich pryderon am y broses Glirio, felly rydyn ni wedi ateb rhai o'r cwestiynau cyffredin a darparu ychydig o wybodaeth ychwanegol â'r nod o'ch helpu i baratoi ar gyfer Clirio a manteisio i'r eithaf ar y broses.