Prosiect Diogeledd, Diogelwch a Gwytnwch Ymchwilwyr (REASSURE)

Mae risgiau unigryw yn gysylltiedig ag ymchwil academaidd i eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein. Y risg gyntaf yw gwylio cynnwys trallodus yn rheolaidd, er enghraifft dadansoddiad manwl o filoedd o fideos neu luniau wedi’u creu gan ISIS. Yr ail un yw’r posibilrwydd y gall partïon troseddol dargedu’r ymchwilydd, ar-lein ac all-lein, drwy ddocsio, trolio neu fygythiadau corfforol. Hyd yn hyn, nid oes llawer o ganllawiau wedi bod ar gael i ymchwilwyr am sut i ymdopi naill ai â phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i wylio deunydd treisgar a sarhaus dro ar ôl tro neu’r heriau o gadw’n ddiogel yn yr amgylchedd rhithwir ac yn gorfforol.  Nid oes astudiaeth gynhwysfawr wedi bod chwaith o natur yr heriau neu’r risgiau hynny.

Nod prosiect REASSURE (Researcher Security, Safety and Resilience) yw llenwi’r bwlch hwn. Mae REASSURE yn cofnodi ac yn manylu ar feysydd pryder o ran lles ymchwilwyr, ar sail profiad yr ymchwilwyr eu hunain.

Wedyn, a hyn sy’n hollbwysig, bydd REASSURE yn llunio strategaethau ar gyfer lliniaru’r rhain. Bydd REASSURE yn tynnu ar sylfaen wybodaeth meysydd cysylltiedig, gan gynnwys gorfodi’r gyfraith, cwmnïau technoleg a newyddiaduraeth, i lunio Siarter ar gyfer Moeseg a Diogelwch Ymchwilwyr (CARES). Caiff hon ei theilwra ar gyfer ymchwilwyr sy’n ymwneud ag eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein, gan roi canllawiau am arfer gorau iddynt.

Diben REASSURE yw gwella lles a diogelwch ymchwilwyr ym maes eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein drwy gydweithredu â’r gymuned o ysgolheigion yn y maes hwn.

Lansiad Ar-lein Adroddiad Prosiect REASSURE

Digwyddiad panel byw arbennig a gynhelir gan rwydwaith VOX-Pol, i lansio adroddiad cychwynnol gan brosiect REASSURE a thrafod ei ganfyddiadau. Mae'r lansiad ar-lein hwn yn cynnwys Dr Lizz Pearson, Meili Criezis, Jacob Davey a chaiff ei gadeirio gan Dr Joe Whittaker.

Catch 22: Researcher Welfare and Institutional Ethics

Mae Dr Joe Whittaker yn cyflwyno darlith wadd gyda rhwydwaith VOx-Pol. Mae Joe yn trafod y 'Catch 22' sef yr hyn y mae ymchwilwyr i eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein yn ei wynebu wrth ymwneud â phwyllgorau moeseg, sut y caiff eu llesiant ei ystyried ac a yw hyn yn cefnogi ymchwilwyr neu'n creu rhwystrau ychwanegol yn eu gwaith.

Cyfres The Next Gen Academic Survival – ECR Safety, Wellbeing and Ethics

Gweithdy ar-lein a gynhelir gan rwydwaith Vox-Pol fel rhan o'u cyfres o weithdai ‘Next Gen Academic Survival’. Mae'r gweithdy yn ystyried llesiant myfyrwyr ymchwil PhD ac mae'n cynnwys Dr Ashton Kingdon, Dr Ashley Mattheis, Dr Joe Whittaker, a chaiff ei gadeirio gan Dr Miraji Mohamed.