Dewch i gwrdd â’n myfyrwyr
Dewch i gwrdd â'n myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau, a chlywed am eu profiadau yn cystadlu ar ran Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.
Dewch i gwrdd â'n myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau, a chlywed am eu profiadau yn cystadlu ar ran Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.
"Mae cymryd rhan mewn llawer o gystadlaethau cyfreithiol wedi fy helpu i gael profiad gwerthfawr a fydd yn ddefnyddiol yn fy ngyrfa broffesiynol ac yn fy mywyd pob dydd.
Mae cymryd rhan yn y cystadlaethau wedi rhoi cyfle i mi gysylltu ag ymarferwyr cyfreithiol proffesiynol yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang, gan fy helpu i ddatblygu'r gallu i weithio mewn lleoliadau amrywiol a chreu presenoldeb proffesiynol personol cyn dechrau fy mywyd gweithio."
"Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn a negodi wedi cael effaith sylweddol ar fy natblygiad personol a gyrfaol yn ystod fy amser yn Abertawe. Gwnaeth ymchwilio i broblemau ffug lys barn helpu i wella fy ngwybodaeth gyfreithiol a sut i'w rhoi ar waith. Ces i gyfle i ddatblygu fy sgiliau rhyngbersonol a rhwydweithio â myfyrwyr o'r un meddylfryd yn ystod y gystadleuaeth.
Rwy'n credu'n gryf y cafodd y cystadlaethau effaith gadarnhaol ar ddosbarthiad terfynol fy ngradd."
"Roeddwn i wrth fy modd yn cymryd rhan yn y cystadlaethau sgiliau yn Abertawe. Maen nhw wedi cael effaith anferth ar fy natblygiad gyrfaol.
Mae paratoi ar gyfer cystadlaethau a chymryd rhan ynddyn nhw'n gwella'r sgiliau sy'n angenrheidiol yn y proffesiwn: siarad yn gyhoeddus; ymchwil gyfreithiol; datblygu ac egluro dadl. Yn fy marn i, mae meithrin y sgiliau hyn yn y brifysgol yn rhoi mantais i chi wrth ddechrau hyfforddiant cyfreithiol."
"Mae'r cyfle i gymryd rhan yng nghystadlaethau sgiliau Abertawe wedi bod yn un o'r profiadau mwyaf gwerthfawr yn fy ngyrfa academaidd. Gwnaeth pob cystadleuaeth cymerais i ran ynddi fy helpu i dyfu'n broffesiynol ac yn bersonol.
Dwi wedi cael cyfle i deithio a gwneud cysylltiadau â phobl o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys cyfreithwyr, negodwyr, athrawon a myfyrwyr o brifysgolion eraill, gan fy ngalluogi i wella fy sgiliau cyfathrebu. Mae'r cyfleoedd wedi bod o fudd sylweddol i mi, a dwi'n edrych ymlaen at barhau i gymryd rhan."
"Cymerais i ran yn fy nghystadleuaeth gyntaf am hwyl, dim ond i herio fy mhryder cymdeithasol. Ond yn hytrach na hynny, cwympais i mewn cariad â chyfreithia, negodi ac eiriolaeth. Yn ogystal â chryfhau fy sgiliau cyfathrebu a helpu'n raddol i leddfu'r pryder ynghylch siarad yn gyhoeddus, mae hefyd wedi ennyn brwdfrydedd dyfnach ynof am agwedd ar y gyfraith doeddwn i ddim erioed wedi rhagweld y byddwn i'n ei hoffi cymaint. Yn wir, dwi bellach yn gobeithio cael gyrfa sy'n canolbwyntio ar gyfreithia busnes."
"Mae cymryd rhan yng nghystadlaethau sgiliau cyfreithiol Abertawe wedi rhoi cyfle i mi dyfu fel eiriolwr ac fel unigolyn.
Gyda ffocws enfawr ar gyfathrebu, dwi wedi dysgu sut i gyfathrebu'n effeithiol yn y llys neu ar draws y bwrdd wrth negodi neu gyfweld â chleient. Mae'r holl ymarfer hwn wedi rhoi cyfle i mi feithrin fy arddull siarad bersonol, sydd wedi bod yr un mor ddefnyddiol yn fy mywyd pob dydd ag mewn lleoliad proffesiynol."
"Dwi wir wedi mwynhau cystadlu mewn cystadlaethau sgiliau amrywiol drwy gydol fy amser yn Abertawe. Mae'r cystadlaethau wedi rhoi cyfle i mi feithrin sgiliau meddal hanfodol megis cyfathrebu, datrys anghydfodau, gwaith tîm, ac ymchwil sy'n hynod bwysig wrth gystadlu am swydd ym maes y gyfraith.
Dwi wedi cael cyfle hefyd i ddefnyddio'r wybodaeth ddysgais i yn y dosbarth a'i rhoi ar waith mewn senarios gallwn i ddod ar eu traws mewn bywyd go iawn. Mae fy nealltwriaeth o gysyniadau cyfreithiol wedi gwella'n fawr o ganlyniad."