Beth yw Ffug Lys Barn?

Mewn ffug lys barn, cyflwynir problem gyfreithiol ar lafar gerbron barnwr. Mae'n debygol mai ffug lys barn fydd eich profiad agosaf, tra byddwch yn y brifysgol, i ymddangos mewn llys barn go iawn.

Mewn cystadlaethau ffug lys barn, bydd cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn amgylchedd sy'n ceisio efelychu gwrandawiad mewn llys go iawn. Bydd myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn cael problem gyfreithiol i'w dadansoddi, ac ar ôl hynny byddant yn ymchwilio i'r gyfraith berthnasol, yn paratoi eu cyflwyniadau ysgrifenedig ac yna'n cyflwyno eu dadl lafar yn y llys. Yn aml bydd dau dîm o fyfyrwyr yn gwrthwynebu ei gilydd, yn dadlau o blaid ac yn erbyn y mater.

Mae'r broses gyfan yn ceisio dilyn amgylchedd ystafell llys go iawn mor agos â phosibl, gan ddilyn yr holl weithdrefnau a chamau gweithredu angenrheidiol.

Os ydych wedi cymryd rhan mewn dadlau yn yr ysgol neu'r coleg, mae'n debygol y bydd rhai elfennau o hyn yn debyg i ffug lys, ond gyda ffocws cwbl gyfreithiol. Mae ffug lys barn yn rhan hanfodol o hyfforddiant cyfreithiol, ac yn ffocws allweddol i gyfres o ddysgu drwy brofiad Prifysgol Abertawe, sy'n ceisio eich helpu i fireinio'r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer ymarfer cyfreithiol. Mae gennym galendr sefydledig o ddigwyddiadau a thîm o staff ategol i'ch helpu i lywio amrywiaeth o gystadlaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Beth yw'r drefn ar gyfer Cystadleuaeth Ffug Lys Barn?

Bydd y drefn ar gyfer ffug lys barn mor debyg â phosibl i'r weithdrefn gywir a ddilynir mewn ystafell llys go iawn.

Fel rhan o hyn, mae amrywiaeth o ymddygiad traddodiadol a phroffesiynol disgwyliedig, ac y bydd myfyrwyr yn ei ddysgu fel rhan o'r broses.

Ar ddechrau'r gwrandawiad, bydd y barnwr neu farnwyr yn cyrraedd yr ystafell, a bydd y myfyrwyr sy'n dadlau dros y ddwy ochr yn grymu pen iddo/iddynt. Yna bydd clerc y llys yn cyhoeddi'r mater ar gyfer y ddadl, bydd y myfyrwyr sy'n dadlau yn nodi eu presenoldeb ac yna cânt eu galw i gyflwyno eu cyflwyniadau.  Bydd y barnwr yn gofyn unrhyw gwestiynau angenrheidiol i'r myfyrwyr, yna bydd y llys yn gohirio, a bydd y barnwr yn dychwelyd yn ddiweddarach i gynnig ei farn a'i adborth, a chaiff enillydd ei ddewis.

Pam cymryd rhan?

Mae nifer o resymau pam mae myfyrwyr yn dewis cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, a all gynnwys y canlynol:

  • Mae cystadlaethau sgiliau yn arfer deniadol sy'n annog myfyrwyr i ymchwilio i faterion cyfreithiol a meddwl amdanynt, sydd yn aml yn gyfoes ac yn amserol iawn, ac felly yn ddiddorol iawn.
  • Mae'n arfer delfrydol ar gyfer meithrin y sgiliau allweddol sy'n angenrheidiol ar gyfer unrhyw yrfa gyfreithiol, gan gynnwys eiriolaeth, ymchwil, ysgrifennu cyfreithiol a chyflwyniad llafar.
  • Mae cystadlaethau sgiliau yn ffordd wych o feithrin perthnasoedd cryf mewn carfan, ac yn aml bydd cystadleuwyr yn dod yn ffrindiau da sy'n cystadlu mewn sawl cystadleuaeth gyda'i gilydd fel rhan o wahanol dimau.
  • Mae'n ychwanegu profiad gwych at CV, gan ddangos sgiliau a galluoedd i gyflogwyr yn y dyfodol.
  • Mae'n gallu bod yn wobrwyol ac yn bleserus iawn - mae'n amgylchedd dan bwysau ond mae'n arwain at brofiadau rhagorol, ac yn aml bydd myfyrwyr yn dod yn ôl i gystadlu dro ar ôl tro yn ystod eu gradd

A oes cyfleoedd eraill y tu hwnt i ffug lys barn?

Yn bendant! Rydym yn cynnal cystadlaethau ffug lys barn mewnol ac mae tua thraean o'n cystadlaethau allanol yn cynnwys ffug lys barn ond rydym hefyd yn cystadlu mewn cystadlaethau sy'n cynnwys negodi, cyfryngu, cyfweld â chleientiaid, eiriolaeth treial ac, weithiau, gyfuniad o sawl un o'r rhain ar yr un pryd!