- Yn eich paragraff agoriadol, dylech gynnwys rhywbeth bachog, i ddenu sylw’r darllenydd: dylai adlewyrchu eich cefndir a’ch profiadau, a pham maent wedi dylanwadu ar eich dymuniad i astudio am radd yn y Gyfraith
- Gall enghreifftiau gynnwys: maes y gyfraith sydd o ddiddordeb i chi, llyfr perthnasol rydych chi wedi’i ddarllen ac a daniodd eich diddordeb, erthygl/pwnc yn y newyddion sy’n berthnasol ac sydd wedi effeithio arnoch chi’n emosiynol yn ddiweddar
- Os yw’n berthnasol, cyfeiriwch at nod gyrfa cysylltiedig (er enghraifft, gweithio fel cyfreithiwr, bargyfreithiwr neu yn y system cyfiawnder troseddol)
- Os yw’n anodd cychwyn, gadewch eich paragraff agoriadol tan y diwedd.
Awgrym: Bydd y rhan fwyaf o raddau yn y gyfraith yn ymdrin â saith elfen graidd y gyfraith, gan gynnwys Cyfraith Contract, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr UE, Cyfraith Camwedd a Chyfraith Gyhoeddus. Mae dewisiadau modiwl poblogaidd yn ein LLB yn cynnwys y gyfraith mewn perthynas â thriniaeth feddygol, hawliau dynol, y teulu, yr amgylchedd, masnach, cyflogaeth a’r cyfryngau.