Gweithdai Cyfraith Seiber Am Ddim
Mae'r gweithdai cyfraith seiber (ar-lein ac wyneb yn wyneb) yn llawn gweithgareddau dysgu rhyngweithiol i roi cyflwyniad i chi i’r materion a’r egwyddorion sylfaenol sy’n gysylltiedig â chyfraith y seiberofod. Os ydych chi'n byw ym Mhowys, mae croeso i chi ddod i un neu fwy o'r gweithdai AM DDIM hyn.
Bydd pob gweithdy yn canolbwyntio ar bwnc cyfredol penodol, gan gynnwys:
- Pwnc 1: Seiberdroseddu: Drwgweithredwyr, Hacwyr Moesegol a'r Gyfraith
- Pwnc 2: Eich Dwbl Digidol: Goruchwyliaeth, Preifatrwydd a Hawliau Data
- Pwnc 3: Memynnau, Delweddau Gif a Chlipiau TikTok: Eich Hawliau a'ch Cyfrifoldebau
- Pwnc 4: Sylfeini Technoleg Gyfreithiol
Arweinir y Gweithdai Cyfraith Seiber gan Dr Sara Correia-Hopkins, yn ei rôl fel partner yn y Rhwydwaith Cymorth Dysgu Technoleg Ddigidol (DTLSN): prosiect Gwersylloedd Cyfoethogi Sgiliau Digidol (DTLSN), a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Nod y prosiect hwn yw gwella cynhwysiant digidol (hyder, ymddiriedaeth, ymwybyddiaeth a diogelwch) a gwella sgiliau digidol, yn ardal Powys. Arweinir DTLSN gan Dr Fiona Carroll (Darllenydd Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron, Prifysgol Metropolitan Caerdydd), mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe a Technocamps.