Gweithdai 1: Seiberdroseddu

Beth yw seiberdroseddu? Pwy yw’r hacwyr? Beth sy'n gwneud haciwr moesegol? Ydy hacio moesegol bob amser yn gyfreithlon? Dewch i'r sesiwn ryngweithiol hon i archwilio'r gyfraith sy'n llywodraethu'r defnydd o gyfrifiaduron a dyfeisiau digidol i ddeall yn well ddefnydd cyfreithlon a defnydd anghyfreithlon o gyfrifiaduron.

Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n dysgu beth yw hacio o safbwynt cyfreithiol. Cewch gyflwyniad i'r prif droseddau yn unol â Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990 a chyfle i feddwl fel 'y Rheithgor' a rhoi dyfarniadau euog/dieuog. Yna byddwn yn trafod pa mor dda yw'r gyfraith bresennol ar hacio ac a yw'n gwahaniaethu'n ddigonol rhwng ymddygiad moesegol ac anfoesegol.

Yn Ôl i Ddyddiadau a Chofrestr