Gweithdai 2: Eich Dwbl Digidol

Faint o'ch data personol sydd ar gael i bawb ar y rhyngrwyd? Ydyn ni hyd yn oed yn sylwi pan fyddwn yn cael ein 'gwylio' drwy'r apiau a'r dechnoleg rydym yn eu defnyddio?

Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu am oruchwyliaeth, preifatrwydd a hawliau data o safbwynt cyfreithiol. Gyda'n gilydd, byddwn yn archwilio ein profiadau o rannu data personol â phobl rydym yn eu hadnabod, dieithriaid, corfforaethau ac awdurdodau cyhoeddus. Byddwch yn dysgu am yr hawl i breifatrwydd a'ch hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Yn ogystal â meithrin dealltwriaeth o'r gyfraith, byddwn yn trafod rhai o'i chyfyngiadau presennol.

Yn Ôl i Ddyddiadau a Chofrestr